BBC HomeExplore the BBC

IAU
24ain Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Plu'r Gweinydd
Cardiau Post - Tystion o'r Gorffenol
Mawrth 2005
Alwyn Hughes yn trafod poblogrwydd anfon cardiau post yn nechrau'r ugeinfed ganrif.

Deil yr arferiad o yrru cardiau post pan awn ar wyliau yn boblogaidd iawn. Yn nechrau'r ugeinfed ganrif roedd gyrru cardiau post yn hynod boblogaidd ac roedd llawer o gardiau lleol yn cael eu cyhoeddi. Hoffwn gyfeirio at rai unigolion a chwmnïau oedd yn gyfrifol am gyhoeddi'r cardiau hyn.

Un ohonynt oedd John Watkins Ellis (J.W. Ellis, 1870-1920). Roedd ganddo siop yn Stryd y Bont Llanfair a threuliai lawer o amser yn crwydro'r ardal gan dynnu lluniau cyn eu cyhoeddi fel cardiau post. Enghraifft o un o'i gardiau post oedd llun o Gwesty'r Cann Offis, Llangadfan a dynnwyd rywdro rhwng 1900-1920.

Cymeriad adnabyddus arall yn Llanfair oedd Levi Jones (1858-1949). Yn ogystal a bod yn bostfeistr yn y dref, roedd ganddo siop ble gwerthai amrywiaeth eang o lyfrau Cymraeg a phob math o bethau eraill gan gynnwys cardiau post. Bu'n ymwneud a llawer o bwyllgorau a chymdeithasau o fewn y dref am gyfnod hir.

Cododd dŷ newydd tua 1921 sef Noddfa, Llangynyw, a bu'n byw yno gyda'i ferch, Elsie. Gwelir cerdyn post o Eglwys Llangynyw uchod a gyhoeddwyd gan Levi Jones. Credir mai ef ei hun yw'r dyn sy'n gwisgo'r het ar y dde a'i ferch Elsie sy'n gwisgo'r het ynghanol y llun.

Yn ogystal â'r ddau uchod, roedd cwmni yn y Drenewydd yn cyhoeddi cardiau post hefyd. Daeth John a Morley Edward Park o Birmingham yn wreiddiol a chadwent siop yn y Drenewydd. Gwelwyd 'Park for the People Series' ar gefn eu cardiau hwy.

Roedd llawer o gystadleuaeth yn y maes cardiau post ac yn ogystal a chyhoeddwyr lleol, roedd cwmnïau cenedlaethol yn cyhoeddi miliynau o gardiau yn flynyddol. Un o'r rhain oedd cwmni Valentines o Dundee yn yr Alban.

Roedd ganddynt hwy ffotograffwyr a dynnai luniau lleol cyn eu gyrru i'r Alban i gael eu printio. Mae 'na cerdyn post a gyhoeddwyd gan Valantines yn nechrau'r ganrif ddiwethaf sy'n dangos stryd yn Llanfair, a dynnwyd gan T. Leigh o Abergele.

Roedd y cyfnod 1900-1920 yn oes aur y cardiau post. Maent yn cofnodi cyfnod pan nad oedd o luniau ar gael, cyn i'r mwyafrif o bobl fod yn berchen ar gamera. Gwnaeth y Dr W.T.R. Pryce gymwynas fawr drwy gyhoeddi'r gyfrol wych 'The Photographer in Rural Wales', ble gwelir llawer o enghreifftiau o gardiau post lleol ynghyd a gwybodaeth fanwl am y sawl a cyhoeddodd.

Tybed a oes gan rhywun hen gardiau post nad ydynt eu hangen bellach? Peidiwch phoeni am eu cyflwr. Hoffwn gyhoeddi rhai ohonynt yn y Plu fel y medrwn gyd-fwynhau delweddau sy'n dystiolaeth wych o'r oes fu yn yr ardal hon.

Erthygl gan Alwyn Hughes

Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy