BBC HomeExplore the BBC

LLUN
28ain Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Plu'r Gweinydd
Llun o'r Gog Dyfodiad y Wennol a'r Gog
Mai 2005
Alwyn Hughes yn edrych ymlaen at glywed gân y wennol a'r gog pan fydd y tywydd yn cynhesu.

Cefais y cofnod cyntaf o'r wennol yn dychwelyd gan Tom Bebb, Yr Hendre, Llanfair a welodd un ar Ebrill yr ail. Erbyn y degfed o'r mis roedd Ivy ar y ffôn ar ôl gweld un ger ei chartref ym Melan yr Argae, a gwelodd John Roberts, Caergof un drannoeth.

Mae'r hen ddywediad "un wennol ni wna Wanwyn" yn hollol wir, oherwydd oerodd y tywydd ac ni welwyd rhagor ohonynt tan tua'r ugeinfed o'r mis, pan gynhesodd ychydig.

Clywodd Gwyn Rees y Gog yn canu ym mhen uchaf Cwm Twrch ar Ebrill y deunawfed ac roedd yn bwrw eira ar y pryd. Dyma'r tro cyntaf ers blynyddoedd na chefais alwad ffôn o Gaerbellan, Llanerfyl.

Dywed naturiaethwyr fod rhifau'r adar yn prinhau; edrychwn ymlaen at gael clywed y ddeunod pan fydd y tywydd yn cynhesu.

Erthygl gan Alwyn Hughes

Ydych chi wedi clywed y wennol neu'r gog eto eleni? Cyfrannwch eich sylwadau chi isod.


Cyfrannwch

Mei Mac, Brysgyni Ganol, Capel Uchaf, Clynnog Fawr
Clywais y gog ddoe am y tro cyntaf eleni a gwelais hi (welais erioed mohoni o'r blaen) gyda'r nos heno! Cynhyrfais braidd!
(Mai 15, 2007)


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy