BBC HomeExplore the BBC

GWENER
25ain Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Plu'r Gweinydd
Concro Gallt y Maen
Gorffennaf 2005
Taith Gerdded y Plu yn manteisio ar dywydd braf Mehefin i ddringo i gopa Gallt y Maen.

Roedd hi'n boeth iawn brynhawn Sadwrn, Mehefin 18fed, diwrnod Taith Gerdded Plu'r Gweunydd. Dechreuodd dros ddeg ar hugain ohonom o bentref Meifod yn llawn brwdfrydedd ar lwybr diarth iawn i bob un ohonom.

Dringo...dringo...dringo a'r haul yn danbaid. Gweld Dyffryn Meifod a'r Afon Efyrnwy fel neidr oddi tanom. Roeddem i gyd yn ddiolchgar iawn o'r pitstop' lle roedd Trefor Owen a Huw wedi gofalu bod digon o ddŵr i ail lenwi'r tanc.

Ymlaen wedyn a dringo unwaith eto, cyd-gerdded â Buddug Owen a rhyfeddu ei bod yn gallu sgwrsio mor hamddenol a finnau ar y llaw arall ar fy ngliniau, prin yn gallu anadlu - mae gen i edmygedd llwyr i'w ffitrwydd.

Dal i ddringo a'n hwynebau fel tomatos erbyn hyn ac fel dywedodd Elen Hafod "mad dogs and English men (wel Welsh, beth bynnag) go out in the mid day sun".

OND...pan gyrhaeddwyd copa Gallt y Maen, anghofiwyd am y blinder a'r gwres gan fod y golygfeydd o'r copa mor fendigedig - gwastatir Sir Amwythig, Pumlumon, yr Aran a'r Berwyn i'w gweld o'n hamgylch ac awel gynnes ar ein hwynebau.

Lawr ar ein pennau wedyn yn ôl i bentref Meifod lle roedd lluniaeth ysgafn derbyniol iawn wedi ei baratoi ar ein cyfer gan ferched yr ardal. Rwan mae'r coesau wedi dod dros y sioc, mae'r demtasiwn i ail gerdded y llwybr yn apelio (ond nid ar ddiwrnod poeth!)

Diolch yn fawr iawn i bawb a fu wrthi'n arbennig i Huw am drefnu'r daith. Felly os nad ydych wedi digwydd noddi unrhyw un - nid yw'n rhy hwyr - anfonwch gyfraniad at Huw Lewis yn y Swyddfa Bost yn Meifod - dylai rhyw £1 am bob peint o chwys a gollais i y prynhawn hwnnw fod yn dderbyniol!

Erthygl gan Catrin Hughes

Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy