BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Clonc
Ffermwyr Ifainc Llanwenog Colofn Dylan Iorwerth
Rhagfyr 2008
Mis papur newydd - Dylan Iorwerth yn bwrw golwg ar ddigwyddiadau'r mis.

Priodas ... neu fyw tali?

"I ddyn papur newydd, peth braf ydi cael sgŵp. Stori sy'n cael ei chyhoeddi gynnoch chi cyn neb arall. Stori y mae pawb arall yn ei dilyn. Mi ddigwyddodd i Golwg y diwrnod o'r blaen, a honno yn stori am Llanbed - cadarnhad fod y Brifysgol yn y dre' a Choleg y Drindod, Caerfyrddin, yn debyg o uno o fewn ychydig fisoedd.

Ac o fewn diwrnod i'r stori ymddangos yn Golwg, roedd hi'n cael sylw ar y BBC ac yn rhai o'r papurau eraill hefyd. Doedd neb yn dweud ei bod hi yn Golwg gynta'' - ond hen fyd fel yna ydi byd newyddion. Roedden ni'n gwybod ers tro, wrth gwrs, fod rhywbeth yn y gwynt. Roedd pawb yn gwybod fod y Brifysgol wedi cael trafferthion a bod prifathro dros dro wedi gorfod cael ei benodi.

Roedd un neu ddau wedi sylwi fod Prifathro'r Drindod hefyd i'w weld yn aml o gwmpas y lle ac mae'r Llywodraeth yng Nghaerdydd yn awyddus i weld colegau'n tynnu at ei gilydd.

Dyna pam fod gohebwyr Golwg, fel sawl newyddiadurwr arall, wedi bod yn ceisio darganfod beth oedd y gwir. Ac, yn y diwedd, fel sy'n digwydd yn rhyfeddol o aml, mi weithiodd galwad ffôn a chwestiwn uniongyrchol yn well na phob math o gloddio a chwilota.

Mae disgwyl cyhoeddiad swyddogol cyn bo hir iawn, pan gawn wybod beth yn union ydi natur y bartneriaeth - priodas, dyweddïad neu fyw tali - ond y gobaith yw y bydd uno'n rhoi bywyd newydd yn y campws ynghanol y dre'.

Os bydd y sefydliad newydd yn dilyn arfer Y Drindod, mi fydd yna lawer mwy o gysylltiad rhwng y coleg a'r ardal ac mi fydd sefyllfa'r iaith o fewn y waliau uchel yn cael ei gweddnewid hefyd. Ac mi fydd hynny'n help y tu allan.

Yr eironi, wrth gwrs, ydi fod cynllun o'r fath wedi cael ei drafod flynyddoedd yn ôl ond fod y brifysgol, os ydi'r sïon yn wir, wedi gwrthod oherwydd fod rhai'n edrych i lawr eu trwynau braidd ar y Drindod. Erbyn hyn, mae'r coleg yng Nghaerfyrddin wedi cael statws prifysgol hefyd ac mae'r esgid ar y droed arall, wrth i'r penaethiaid yno addasu i ddilyn polisïau'r Llywodraeth ym Mae Caerdydd. Gweld sut mae'r gwynt yn chwythu a hwylio yr un ffordd.

Diwedd felly, efallai, ar y syniad o droi hen Brifysgol Dewi Sant yn goleg i swyddogion y llywodraeth a gwasanaethau cyhoeddus eraill. O glywed y trafferthion sydd i berswadio'r gweision sifil yng Nghaerdydd i symud i Aberystwyth, mi fyddai hwnnw'n dalcen caled, beth bynnag.

Cofiwch, mi fyddai wedi bod yn ddiddorol gweld darpar-uchel swyddogion y Llywodraeth yn cael cinio ym Mark Lane a pheint bach yn y Castle ac efallai y byddai rhai wedi ymuno â'r Ffermwyr Ifanc.

Hyd yn oed hebddyn nhw, y gobaith ydi y bydd coleg ar newydd wedd yn denu rhagor o bobl ifanc Gymraeg i'r ardal i roi hwb bach newydd i'r hen le.

Pi ... pi ... polîs

O sôn am Ffermwyr Ifanc, roedd eisteddfod y mudiad ym Mrynaman yn llwyddiant mawr i Geredigion, a'r sir yn ennill o hewl.

Ymhlith nifer o wobrau lleol, un o'r uchafbwyntiau yn ôl pawb oedd Cân Actol Clwb Llanwenog, yn awgrymu y byddai gwyliau yn Sir Gaerfyrddin yn ddewis da yn lle'r Bahamas yng nghanol y credit crynsh.

Yr uchafbwynt o fewn yr uchafbwynt oedd yr olygfa bi-pi ar hen Gae'r Strade yn Llanelli. Fydd clywed tyrfa'r Scarlets yn canu "Sosban Fach" ac "Wp e mewn Dai" ddim cweit yr un peth ar ôl hynna. Dim ond dau beth oedd yn fy mhoeni fi.

Ar ôl bod yn llai na charedig at Gonstabiwlari Dyfed Powys a'u pencadlys yn Llangynnwr, dw i'n awgrymu y dylai awdur y geiriau, Y Br Pete Ebsworth, yrru'n arafach nes i bawb anghofio.

A'r un peth arall oedd neges y gân olaf, yn cael ei chanu gan Elin 'Lifestyle' Jones o Faesycrugiau. Yn ôl honno, Ceredigion yw'r orau a "gallwch gadw eich Shir Gâr".

Ond lle'n union mae Maesycrugiau?"


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy