BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Clonc
Ym mynwent yr Eglwys Taith Hanesyddol
Mehefin 2006
Taith Hanes Cymdeithas Ddiwylliadol Bethel Parcyrhos o gwmpas Plwyf Pencarreg o dan arweiniad Alun Jones, Parcyrhos.

Daeth pawb ynghyd i Glanrhyd Parcyrhos nos Lun 15fed Mai i ddechrau ar daith mewn ceir ac ar droed o gwmpas Plwyf Pencarreg o dan arweiniad Alun Jones, Parcyrhos. Roedd yn noson ddiddorol iawn a dyma ychydig o'r hanes ar gof a chadw i ddarllenwyr Clonc.

Croesawodd Alun pawb i Glanrhyd gan esbonio mai yno oedd cartref cynnar Eglwys Caersalem a Bethel. Ym mis Gorffennaf 1840 dymunodd rai gael eu bedyddio. Doedd hyn ddim wrth fodd William Williams a oedd yn byw yno, ac fe roddodd rybudd i'r bedyddwyr mai dim ond am bythefnos y caent addoli yno.

Aeth y bedyddwyr dros dro i Tanlan cyn adeiladu Caersalem ac arhosodd yr annibynwyr yng Nglanrhyd tan Fawrth 1860. Codwyd Bethel ar dir Cyrnol Wood, Gwernyfed, Brycheiniog a'r gweinidog cyntaf oedd y Parch Thomas Jones, Tempel Bar. Yn ôl llyfr y Parch Eiryg Davies, roedd yn amau mai Glanrhyd oedd Tŷ Cwrdd gwreiddiol Bethel.

Dangosodd Alun Jones gopi o gyfrifiad 1851 a brofa mai Glanrhyd oedd cartref William Williams. Hwn oedd y cymwynaswr mwyaf i achos Bethel gan gyfrannu'n hael tuag at godi'r capel ac ymhellach ymlaen tuag at dalu gweddill y ddyled.

Yng nghwrdd canmlwyddiant Caersalem soniodd un siaradwr am ymwahaniad y bedyddwyr a'r annibynwyr 'er eu bod wedi anghydweld, nid oeddynt wedi mynd o olwg ei gilydd.' A gwir bob gair, o'r safle gwreiddiol yng Nglanrhyd gellir gweld Bethel a Chaersalem.

Cyn ymadael â Glanrhyd, cerddodd pawb i gyfeiriad afon Eiddig er mwyn gweld hen fedyddfan Caersalem. Hyd at 1930 roeddent yn cronni'r afon yno ar gyfer bedyddio. Corsfigan yw enw'r ffynnon lle tardda'r afon ar fynydd Pencarreg ger y ffordd fawr o Lambed i Lanymddyfri. Rhed yn igam ogam am ryw dair milltir drwy gwim cul a phrydferth gan roi enwau i dai a ffermydd fel Glaneiddig, Bryneiddig, Coedeiddig a Thancoedeiddig cyn troelli drwy Barcyrhos ac ymuno a'r Teifi ger fferm Felinfach.

Aeth pawb yn eu ceir wedyn i gyfeiriad hen bentref y plwyf - Pencarreg, heibio Tanrallt lle darganfuwyd hen arian rhufeinig.

Ym mynwent yr Eglwys dangosodd Alun fedd William Williams a bedd Daniel Ddu. Dyma'r bardd a gyhoeddodd llyfr 410 tudalen 'Gwinllan y Bardd' ym 1831. Roedd ei dad yn ffermwyr cefnog yn Nghefnbryn.

Mynd tuag at Mynydd Pencarreg wedyn heibio hen ysgol y pentref a gweld golygfa fendigedig o lyn Pencarreg yn union fel y disgrifia Ray Evans y lle yn ei nofel 'Y Llyffant'. Ond parhau i ddringo heibio olion fferm Victoria Park i Ben Das Eithin a safle mast teledu Pencarreg.

Dyma ardal sydd wedi bod yn allweddol i sawl ymgyrch. Ym 1979 diffoddodd tri o Gymry parchus drosglwyddydd Pencarreg fel rhan o ymgyrch sianel deledu Gymraeg. Y tri oedd Meredydd Evans, Pennar Davies a Ned Thomas.

Ond roedd Pen Das Eithin (man uchaf Mynydd Pencarreg) yn adnabyddus ymhell cyn hynny. Adeg terfysgoedd Rebecca daeth tair mil o bobl ynghyd yma i drafod ac i drefnu deiseb yn erbyn trethi uchel a'r tollbyrth.

Dros Ben Das Eithin, fwy na thebyg roedd Hannah Davies. Cefnheblwyn yn teithio i'w gwaith fel morwyn yn Rhiwsaithbren. Croniclir hanes ei llofruddiaeth yn llyfr T Llew Jones 'Gwaed ar ein dwylo' ac yng nghyfres deledu Bethan Phillips 'Dihirod Dyfed'.

Nôl yn y ceir wedyn tuag at ardal Ffaldybrenin a glanio ar glos fferm Brynhirfaen drwy garedigrwydd Mr Hughes. Cerddded dau led cae i weld y garreg a rydd enw i'r ysgol leol - Y Garreg Hirfaen. Saif ar y ffin rhwng Ceredigion a Sir Gaerfyrddin ac ar y ffin rhwng tri phlwyf yn 4.8 medr o uchder.

Ar ddiwedd y noson tystia pawb oedd ar y daith eu bod wedi cael noson ardderchog a addysgiadol iawn. Ymddiddora pawb mewn mannau arbennig wrth fynd ar deithiau ar draws gwlad heb sylweddoli bod gennym gyfoeth o hanes yn lleol a mannau arbennig ar garreg drws. Cafwyd swper hyfryd yn y Fishers. Cellan. Hoffai'r aelodau ddiolch i Elma Phillips ac Alun Jones am yr holl drefniadau.


Cyfrannwch

Eric Williams o Gwmann
Hanes diddorol iawn y daith wych drwy Blwyf Pencarreg , hefyd wedi eu drefnu yn dda iawn .


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy