BBC HomeExplore the BBC

IAU
26ain Tachwedd 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Clonc
Sydney Ymweliad â Seland Newydd ac Awstralia
Mehefin 2004
Wedi treulio yn agos at fis cyfan yng nghwmni Gwynfor a Valmai, dyma'r diwrnod olaf yn eu cwmni (tan y tro nesaf) yn dod ar ein traws.


Y bore trannoeth yr oeddem yn hedfan yn ôl i Auckland o Ynys y De. Ar ôl diwrnod hyfryd felly a swper blasus dyma'r amser yn cyrraedd i ni ffarwelio â Gwynfor a Valmai. Yr oeddent ill thu yn troi tua Leeston tuag at gartref Gareth a Pamela (eu mab hynaf a'i wraig) ac yn golygu aros yno am wythnos arall.

Wedi cyrraedd Auckland ar ôl rhyw awr o hedfan dyma ni'n mynd am y gwesty a oedd ger y maes awyr. Yr oedd y tywydd yn braf ac felly dyma ni'n penderfynu mynd am dro i weld beth oedd o amgylch. Ymhen tipyn dyma ni'n cael neges oddi wrth Clive a Jane Green. Clive yn gyn-gydweithiwr i John, yn Trydan De Cymru. Yr oedd ef a'i wraig Jane wedi ymddeol yn gynnar i hwylio o amgylch y byd. Dyma ni felly yn trefnu cwrdd a braf oedd cael gwneud hynny gan fod chwe blynedd wedi mynd ers i ni ffarwelio â nhw yn Aberdaugleddau wrth iddynt ddechrau ar eu hantur mewn cwch hwylio Bennudan Sloop 35 troedfedd, o'r enw 'Jane-G'. Dyma ni'n cwrdd felly a chael dal lan ar eu hanes diweddara dros bryd o fwyd. Rydym yn cadw mewn cysylltiad cyson drwy'r ebost ac mae Jane yn croniclo pob rhan o'u hantur wrth iddynt fynd o fan i fan.

Drannoeth dyma ni'n thu yn mynd o amgylch y ddinas a gweld Mount Eden ac Eden Park, sef cartref tîm enwog yr 'All Blacks'. Buom wrth harbwr Waitermata lle y cynhaliwyd y rasys llongau hwylio (Cwpan Americas) yn y flwyddyn 2000. I fyny wedyn i ben y bryn (y fan uchaf i ni ei chyrraedd yn ystod ein taith) i'r Amgueddfa. Fe'i hadeiladwyd er cof am filwyr y ddau ryfel byd - adeilad tebyg iawn i'r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth. Mae Auckland yn ddinas hyfryd, gyda lawntiau a gerddi o flodau ym mhob man. Cawsom seibiant wedyn am ryw awr neu ddwy ar draeth Mission Bay gyda golygfa fendigedig o'n hamgylch. Gallem weld ynysoedd - rhai ohonynt yn weddillion llosgfynyddoedd. Yn y fan hon cyfarfuasom â Darrel a Beryl o Melbourne a oedd yn aros yn yr un gwesty â ni. Yr oedd y ddau wedi ymfudo o India i Awstralia, ond ar wyliau yn Seland Newydd ar y pryd ac yn gobeithio ymweld â Chymru yn y dyfodol agos.

Dyma fore Sadwrn yn cyrraedd felly a'r amser yn dod i ni adael Seland Newydd a throi am Sydney, Awstralia. Gwesty'r 'Four Points' ger 'Darling Harbour' oedd ein cartref am y tridiau nesaf. Yn anffodus roedd y tywydd dipyn yn oerach yno nag yn Seland Newydd. Darling Harbour yn brysur iawn gan dwristiaid a'r lle yn boblogaidd ac yn llawn bwrlwm. Y bore canlynol cawsom hwylio o gwmpas harbwr mawr Sydney sy'n ymestyn allan i'r Môr Tasman.

Ar y daith cawsom bryd o fwyd pedwar cwrs - y cyfan yn fendigedig. Ar ôl hynny aethom am dro a chyrraedd 'Y Rocks. Dyma lle'r ymsefydlodd yr Ewropeaid rhwng 1788 a 1792. Canolfan fasnach forwrol ydyw'n bennaf ac mae rhai o'r adeiladau gwreiddiol i'w gweld yno hyd heddiw. Mae yno gofgolofn drichornel o garreg tywod ac wedi'u cerfio arni - ffigurau a garcharorion, milwyr a gwladychwyr. Yna cerddasom o amgylch Sydney Cove a chyrraedd yr enwog Dŷ Opera Sydney. Mae'n adeilad hardd a gynlluniwyd gan Jørn Utzon. Dechreuwyd ar y gwaith adeiladu ym 1959 a gorffennwyd ym 1973.

Ddydd Llun aethom ar daith mewn bws i ochr ogleddol yr harbwr. Aethpwyd a ni draw i draeth Manly. Enwyd y traeth hwn gan Gapten Cook pan gyfarfu ag Aborigine o gorff mawr dynol! Ar em ffordd yn ôl cawsom y profiad o deithio dros bont Harbwr Sydney. Cymerwyd naw mlynedd i adeiladu'r bont ac fe'i gorffennwyd yn y flwyddyn 1932. Mae'r bont yn cymryd tipyn o bwysau rhwng trafnidiaeth cerbydau a rheilffyrdd, ac mae yno lwybrau hefyd i gerddwyr. Cyn gadael Sydney, rhaid oedd mynd ar daith ar y Monorail. O'r trên cawsom weld adeiladau arbennig, Harbwr Darling a ChinaTown a llawer i fan arall o ongl wahanol.

Yn ein herthygl y mis nesa byddwn yn ffarwelio ag Awstralia ac yn cyrraedd Bangkok.

John ac Elizabeth Warmington


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy