BBC HomeExplore the BBC

MERCHER
2il Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Clonc
Ysgol wledig Ysgolion a thraed yn brifo
Mehefin 2003
Mae'r ddadl wedi dechrau eto tros ddyfodol ysgolion bach wrth i Sir Benfro unwaith eto fynd ati i gau clwstwr yng ngogledd y sir. Y gwahaniaeth y tro yma ydi fod mwy na 50 o blant yn un o'r ysgolion hynny,meddai Dylan Iorwerth ...
Pe bai Ceredigion yn dilyn yr un patrwm, mi fyddai nifer o ysgolion yn ardal Clonc dan fygythiad yfory nesa'. Cau y mae'r ysgol yn Sir Benfro am fod y cyngor yn credu fod ganddyn nhw ffordd well o gynnig gwasanaeth trwy ysgol newydd yng Nghrymych gerllaw.

Ddylen ni ddim esgus fod y rhain yn gwestiynau hollol hawdd eu hateb - mae yna rai bendithion mewn ysgolion mwy ac, yn sicr, mae'n bosib crynhoi rhagor o adnoddau ffasiwn newydd i un lle. Ond ddechrau'r mis diwetha' roedd y Rhostio Mochyn blynyddol yn digwydd yn Ysgol Cwrtnewydd a'r lle yn llawn bwrlwm a theyrngarwch brodorion y cylch yn dangos fod ysgol yn parhau'n ganolog i fywyd ardal.

Efallai mai yn hynny y mae un o'r cliwiau am yr hyn y gallen nhw' i gyflawni - erbyn hyn, mewn llawer lle, dyma'r un sefydliad sy'n sbarduno mwya' o weithgarwch cymdeithasol hefyd a dyma'r un fan lle bydd pobol leol a mewnfudwyr yn cwrdd.

Os ydi'r ysgolion yn dysgu'r plant i siarad Cymraeg, does yna ddim i sbarduno'r rhieni i wneud yr un peth. Tybed nad oes yna ffordd o ddatblygu ysgolion yn ganolfannau iaith a diwylliant i bobol yr ardal i gyd?

Un o anghenion mawr yr iaith ym mhob cylch bellach ydi creu cyfleoedd i'w defnyddio hi'n gymdeithasol - trwy greu rhywbeth o amgylch yr ysgolion mi fyddai modd lladd sawl deryn gydag un garreg. Mae yna adeiladau yno; mae yna adnoddau o bob math ac mae'n bwynt cyswllt i ganran uchel iawn o'r boblogaeth. Dychymyg - ac arian - sydd eisio.


Traed
Traed
Traed yn brifo?
Dw i'n gobeithio y bydda' i yma'r mis nesa'. Mae yna beryg y bydda' i'n sownd mewn cors rhywle yn ymyl Llynnoedd Teifi, neu y bydda' i'n dal i chwilio am fy nhraed. 'Ar awr wan, mi gytunais i ymuno â chriw o bobol i gerdded ar ran o daith fawr S4C i godi arian at y tai hosbis Ty Hafan a Thy Gobaith. O dan arweiniad y dyn adar, Iolo Williams, y bydd hi ac yntau'n ffresh (wel, yn weddol fresh) o wneud Marathon Llundain.

Mae hwnnw'n cerdded yr holl ffordd o Ddyffryn Conwy i ochrau Caerdydd, 250 milltir o dro, ond dim ond 32 milltir y bydd rhaid i ni eu cerdded - o Bontarfynach, dros y mynydd i Ystrad Fflur a hyd y ffordd i Lanbed.

"Ni", achos bod y musus yn cerdded hefyd - mi fydda' i'n cerdded ar ran Golwg ac Elaine ar ran Twf, y rhaglen i annog rhieni i roi'r Gymraeg i'w plant. Mae yna wythnosau lawer ers addo gwneud, ond rwan mae'r amheuon yn dechrau wrth inni sylweddoli fod 32 o filltiroedd yn gythreulig o bell.

Pawb â'i fys lle bo'i ddolur fydd hi (heblaw am y dyn gyda peils, fel y dywedodd rhywun rywdro) ac mae yna beryg mai nyrsio ein traed fyddwn ninnau am ddyddiau ar ôl y daith ar Fehefin 21.

Y broblem fwya' ydi fod yn gas gen i fynd at bobol i holi am arian ... felly os ydech chi am gyfrannu, plîs dewch draw i ddweud. Mae'r achos yn un da iawn fel y gwyr unrhyw un sydd â phlant iach yn y teulu.

Un peth na fydda' i ddim yn ei wneud ydi gwisgo trowsus bach. Mi fydd Iolo Williams yn gwneud hynny a fynnwn i ddim am unrhyw bris fynd â'r sylw oddi arno fo. Wedi meddwl, efallai mai'r ffordd orau o godi arian fyddai bygwth gwisgo shorts, os na fydd pobol yn talu ...

Colofn Dylan Iorwerth


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy