BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Clonc
Y cerddwyr Taith er budd ymchwil cancr
Medi 2009
Hanes pedair ferch o ardal Llambed a gerddodd 60 milltir o Ynyslas i Aberteifi ar hyd llwybr arfordir Ceredigion i godi arian tuag at Ymchwil Cancr Cymru.

"Ar ôl misoedd o drefnu, daeth yn fore Sul, Awst yr 2il a'r bedair ohonom yn awyddus i ddechrau'r daith 60 milltir o Ynyslas yr holl ffordd i Aberteifi er mwyn codi arian tuag at Ymchwil Cancr Cymru.

Am 9 o'r gloch chwifio hwyl fawr i'n teuluoedd a dechrau'r siwrne ar hyd y tywod, gyda'r haul yn gwenu'n braf arnom. Cyrhaeddwyd Borth erbyn tua 10.30 ac ymalen â ni tuag at Clarach.

Y llwybr yn mynd â ni drwy barc carafan 'Clarach Bay' a phawb yn edrych braidd yn hurt arnom gan fod esgidau trwm a bagaiu mawr ar ein cefnau. Cwrdd â rhai o'n cefnogwyr a dyma Carwyn, Meinir ac Alpha yn dod â'u bwced noddi a rhai o'r 'holidaymakers' yn sylweddoli ein bod yn cerdded i godi arian ac yn cyfrannu tuag at yr achos.

Cerdded ymlaen heb aros ryw lawer gan ein bod wedi dweud y byddem yn Aberystwyth tua 12.30. Un o uchafbwyntiau y diwrnod cyntaf oedd mynd rownd rhyw gornel a gweld tref Aberystwyth yn y pellter o'n blaenau. Fe wnaeth hyn rhoi ryw hwb bach ychwanegol i'r bedair ohonom. Cyrraedd Aberystwyth a choeliwch chi byth picnic mawr yn disgwyl ni ar y Prom, bendigedig!

Roedd cerdded o Aberystwyth i draeth Tan-y-bwlch yn daith fflat, hyfryd. Ond roedd gwaith i ddod. Dringo 500 troedfedd mewn pellter bach iawn, ond braf oedd edrych yn ôl ar yr olygfa hyfryd a gweld Aberystwyth yn y pellter.

Roedd y rhan yma o'r daith dros 9 milltir a gwnaeth y bedair ohonom deimlo ei bod yn hir a blinedig wrth gerdded llethrau, ar hyd caeau, a thrwy llwybr llawn rhedyn, roedd pob un ohonom wedi taweli ryw dipyn. Cyrhaeddwyd Llanrhystud tua 6 o'r gloch.

Tair milltir i gyrraedd Llannon, felly bant â ni gyda rhai o'n cefnogwyr yn cerdded gyda ni. Cyrraedd Llannon tua chwarter i saith, cefnogwyr brwd yn ein disgwyl - y diwrnod cyntaf wedi ei gwblhau a 23.2 milltir wedi ei wneud. Rhai â choesau tost ac ambell flister!

Braf oedd cael cawod hyfryd twym yn ein gwely a brecwast a swper blasus yn Nglwb Golff Llanrhystud. Gwely weddol gynnar yn barod am yr ail ddiwrnod.

Dechrau'r ail fore am hanner awr wedi wyth o Lannon yn gwybod bod diwrnod caled iawn o'n blaenau. Y bedair ohonom yn edrych dipyn mwy bywiog ar ôl noson o gwsg. Pwdel a dŵr lan dros eich esgidau cyn cyrraedd Aberarth.

Cyrraedd Aberaeron bach yn hwyrach na'r disgwyl ond roedd y cefnogwyr yma eto a'r ail ddiwrnod llawn mor frwydfrydig â'r dirwnod cynt. Byrbryd oedd yn ein disgwyl ar yr harbwr yn Aberaeron.

Cafwyd cwmni Mr Morlais Davies i gerdded o Aberaeron ymlaen a bu'n sôn wrthym am hanesion yr ardal. Uchafbwynt diwrnod dau oedd cyrraedd Cei bach a cherdded ar y traeth i Gei Newydd, negeseuon hyfryd fel pob lwc staff Cwrt wedi cael eu hysgrifennu ar y tywod. Cinio blasus yng Nghei Newydd a dros ugain o gefnogwyr yn ein hysbrydoli.

Bant â ni am tua pedair milltir i Gwmtydu, glaw mân yn disgyn a ninnau'n gorfod gwisgo ein cotiau glaw am y tro cyntaf. Cyrraedd Cwmtydu ar ôl sawl set o stepiau a llethrau caled iawn. Pob un yn dechrau blino, ond roedd dal pum milltir a hanner cyn cyrraedd diwedd yr ail ddiwrnod. Cerdded heibio Gwersyll yr Urdd yn Llangrannog a gwybod ein bod nawr heb fod ymhell o'r diwedd. Braf oedd edrych lawr ar Langrannog yn gwybod fod cawod dwym yn ein disgwyl. Pob un erbyn hyn wedi blion'n lân a'u traed yn dost, ond 20.6 milltir wedi ei gwblhau.

Bore'r diwrnod olaf a hithau'n bwrw glaw yn drwm iawn, pawb yn edrych braidd yn flinedig y coesau a'r traed yn eithaf tost. Bant â ni ar ein ffordd i Benbryn ac yna ymlaen i Dresaith.

Y tywydd braidd yn ddiflas. Lawr i draeth Aberporth, cael croeso cynnes gyda'n cefnogwyr. Dringo allan o Aberporth pob cyhyr yn brifo gyda phum milltir a hanner cyn cyrraedd Mwnt, ond y tywydd wedi gwella cryn dipyn erbyn hyn. Bu'r rhan yma'n ofnadwy o hir, ond braf oedd dod dros y copa a gweld Eglwys fach y Mwnt yn y pellter. Cinio y trydydd diwrnod yn ein disgwyl yn y maes parcio.

Erbyn hyn roedd pawb yn sychedig ac eisiau bwyd gan ein bod tua tri chwarter awr yn hwyrch na'r disgwyl yn cyrraedd. Codi o'r gadair ar ôl cinio yn gwybod taw dim ond chwech milltir a hanner i fynd, roedd pawb yn edrych tipyn yn well erbyn hyn ac ambell jôc yn cael ei rannu unwaith eto!

O Mwnt i Gwbert, Radio Ceredigion yn ein ffonio eisiau siarad â ni'n fyw ar y daith, roedd hyn yn braf gan fod pawb o amglych Ceredigion yn gwybod ein bod bron ar ddiwedd ein taith. Cerdded lawr i Gwbert a gweld y môr o'n blaenau dyma beth oedd golygfa brydferth. Rhan olaf y daith, 3.2 milltir i Aberteifi y wên yn dechrau ymddangos yn ôl ar ein wynebau unwaith eto.

Ond pethau ddim mor rhwydd â hynna. Dyma ni'n dilyn y llwybyr a cherdded mewn i gae oedd yn llawn 'corn in the cob' methu gweld dros ei ben a gorfod dibynnu yn llwyr ar y map i ddod â ni allan yn y man cywir. Rhaid dweud bod ein sgiliau Daearyddiaeth ni'n eitha da!

Braf oedd gweld tref Aberteifi yn dod i'r golwg ac uchafbwynt yr holl daith i'r bedair ohonom oedd gweld pont Aberteifi a'r cefnogwyr i gyd yn ein disgwyl yn chwifio'u baneri. 60.3 milltir wedi ei gwblhau!

Heb help y cefnogwyr brwd oedd o dan flwydd oed i wythdeg chwech oed byddai'r daith wedi bod tipyn yn anoddach ac i deimlo llawer yn hirach. Nid oedd amser i aros gan fod barbeciw wedi'i drefnu yng Nghefnhafod, Gorsgoch, felly adref am gawod. Braf oedd cyrraedd Cefnhafod a tua nawdeg o bobl wedi dod i'n llongyfarch.

Y bedair ohonom yn gwisgo 'flipflops' gan fod y traed braidd yn dost ac ambell ewin du. Camp fawr wedi ei gwblhau i'r bedair ohonom a phawb yn ymfalchïo. Does unman yn brydferthach nag arfordir Ceredigion."


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy