BBC HomeExplore the BBC

SUL
27ain Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Clonc
Tudalen we Clonc Clonc ar y We
Mawrth 2009
Hanes Papur Bro Clonc, sydd wedi bod ar y we bellach ers blwyddyn.

Mae'r wefan yn ategu at amcanion Clonc o 'hybu Cymreictod a sicrhau twf yn nifer y bobl sy'n darllen Cymraeg', a 'sicrhau bod Clonc yn gyfrwng i'n cael i adnabod ein bro a'n pobl yn well'. Y ffordd mae'r wefan yn rhagori yw bod Clonc yn gallu cyrraedd pobl o bob rhan o'r byd.

O'r wefan gallwch lawrlwytho ôl rifynnau Clonc a darllen unrhyw beth a gollwyd, neu ail ddarllen rhywbeth o ddiddordeb.

Yn y flwyddyn ddiwethaf cafwyd 1,715 o ymweliadau ac ymwelwyd â 11,446 o dudalennau. Ar gyfartaledd, ymwelwyd â 6.67 tudalen yr ymweliad. Mae hyn i gyd yn destun o lawenydd mawr i bapur gwirfoddol fel Clonc.

Mae'n golygu ein bod yn cyrraedd mannau na fyddem fel arfer yn ei wneud. Golyga hefyd y gall pobl yr ardal sy'n gweithio oddi cartref a'r rhai sydd wedi symud o'r ardal ddarllen yr hanesion a chadw mewn cysylltiad.

Braf meddwl bod pobl yn yr Amerig, Awstria, Twrci, Canada, Yr Eidal, Sbaen ac Awstralia wedi ymweld â gwefan Clonc yn y flwyddyn ddiwethaf. Ceir diddordeb mawr yn Awstralia gyda llaw, gyda'r ymwelwyr yn treulio 7.42 munud ar gyfartaledd ar y wefan ac yn ymweld â 12.67 tudalen ar bob ymweliad.

Datblygiad diweddaraf Papur Bro Clonc yw ymuno â gwefan rhwydweithio Facebook. Os ydych yn aelod, gallwch ddod yn ffrind i Clonc ac ymuno â Grŵp Papur Bro Clonc.

Bwriad y cynllun hwn yw dod â chyhoeddusrwydd i'r papur bro ymhlith pobl ifanc yn ogystal â dod ag aelodau â'r un diddordeb at ei gilydd yn yr ardal.

Wrth i'r rhifyn hwn fynd i'r wasg mae gan Clonc rhyw 200 o ffrindiau. Mantais fwyaf rhwydweithio ar Facebook yw y gallwch ddewis Cymraeg fel yr iaith ryngwyneb.

Ond mae presenoldeb Clonc ar we yn mynd nôl rhai blynyddoedd. Mae Clonc wedi cyhoeddi un erthygl y mis ar wefan BBC Cymru'r Byd ers 2003. Cred Clonc y dylid bod ar flaen y gad gyda'r dechnoleg ddiweddaraf.

Pwy a wyr, efallai mai ar y we fydd papurau newydd a phapurau bro'r dyfodol. Rydym felly mewn trafodaethau gyda Chwmni Golwg i fod yn rhan o'r gwasanaeth newyddion newydd ar y we.

Mae hyn i gyd yn gyffrous iawn a'r gobaith yw mai darllenwyr Clonc fydd yn elwa yn y pendraw.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy