BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Clonc
Cymdeithas Edward Llwyd Taith Gerdded
Mawrth 2008
Ar yr ail o Chwefror roedd 33 o aelodau Cymdeithas Edward Llwyd wedi ymgynnull wrth fynedfa coedwig Allt Maes-troyddyn ger Hafod y Maidd, Harford yn barod am daith gerdded.

Roedd cynrychiolaeth gref o dalgylch Clonc a dwy wedi dod o ardal Caerdydd!

Roedd y tywydd yn braf a chlir ar waetha'r arbenigwyr tywydd a oedd wedi darogan eira mawr ychydig ddyddiau ynghynt. Ieuan Roberts oedd yr arweinydd am y dydd ac ar ôl rhoi croeso i bawb awgrymodd mai taith i naturiaethau fyddai hon gan ddwyn sylw arbennig at y mwsoglau a'r cen gan fod rhain yn dipyn mwy amlwg yn y Gaeaf. Ar y pryd twmpath mawr o frigau yn uchel yn un o'r coed llarwydd - ysgubell y wrach y llarwydd oedd hwn a achosir, fel ysgubell y wrach y fedwen, gan sefydlu ei hun ar un blagur a hwnnw'n peri i'r blagur dyfu'n ddireolaeth.

Dechreuwyd cerdded ar hyd yr heol i gyfeiriad Maestroyddyn Fawr gan sylwi ar y pluddailfwsogl yn gorchuddio rhisgl y coed a'r ffwng clust yr Iddew yn tyfu ar goeden ysgawen. Ar y groesffordd, troi i'r chwith a cherdded hyd y llwybr ceffyl heibio Maesdu cyn dod at y clawdd o goed ffawydd ble roedd sawl math o gen diddorol yn cynnwys clustiau'r ddaear, cen cwpan doli a chen rheilffordd. Caiff yr enw hwnnw gan ei fod yn tyfu ar ffurf llwyn yn debyg iawn i goed bach ac fe'i defnyddir ar ôl ei sychu i gynrychioli coed mewn modelau o reilffordd!

Ymhen tua chwarter milltir roeddem wedi cerdded ymhell iawn gan ein bod yn edrych i lawr ar fferm Llundain ac ardal Esgairdawe yn gefndir iddo. Uwch fferm Pyllau, troi i'r chwith ar y llwybr troed heibio Keeper's Lodge ac yna cadw i gyfeiriad Cwm Einon Fawr. Ar y ffordd, gweld y mwsogl cyffredin iawn sef mwsogl rhedynaidd y coed ac yna lwmpyn crwn caled a achosodd gryn benbleth i rai cyn i'r milfeddyg ddatgelu mai pen bwlyn cymal y glun oedd unwaith yn perthyn i eidion oedd hwn. Arhoswyd i gael cinio ger coeden dderw fawr a sylwi ar y fforchfwsogl yn tyfu arni a chael llun da o'r criw i gyd. Wrth groesi'r afon ger Cwm Einon Fawr gwelsom y ffwng, cwpan robin goch gyda'i gwpanau coch lliwgar. A oedd hwn tybed yn argoel ganlyniad da yn y rygbi yn nes ymlaen?

Yng Nghwm Fawr Einion Fawr cymerwyd y llwybr i gyfeiriad Coed y Gof ac yna Pistyll Gwyn Bach. Ar risgl coed celyn ar y llwybr i'r Berllan Dywyll gwelwyd sawl enghraifft dda o'r cen ysgrifen y bwgan a chen cefnwyn y coed ar frigau coed derw. Wrth gerdded hyd y ffordd yn ôl i'r ceir buom yn cymharu llawredyn y fagwyr a gwib redyn a oedd yn tyfu yn y clawdd.

Cyrraedd yn ôl i'r ceir cyn i'r glaw ddechrau, taith o bedair milltir a thri chwarter, am hanner awr wedi dau a rhoi cyfle i bawb gyrraedd adref i weld Cymru yn trechu Lloegr ac felly gwireddu argoelion y cwpan robin goch!

Ieuan H Roberts


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy