BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Clonc
Llun o bapur bro Clonc, trwy garedigrwydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru Ffotograffydd enwog o ardal Clonc
Mawrth 2005
Hanes John Thomas un o'r ffotograffwyr pwysica' yn hanes Cymru oedd yn dod o Gellan yng Ngheredigion.

Eleni, fel arfer, fe fydd digwyddiadau i gofio pobl enwog, fel yr actor Emlyn Williams a fyddai'n 100 oed neu'r awdur emynau, Ann Griffiths, a fu farw yn 1805. Ychydig fydd yn cofio John Thomas a fu farw union ganrif wedyn - er ei fod yn un o'r ffotograffwyr pwysica' yn hanes Cymru. Fe fydd llai fyth yn gwybod taw dyn o Gellan oedd e.

Y Cardi yma sy'n gyfrifol am rai o'r lluniau mwya' cofiadwy o Gymru yn oes Victoria ac ef, yn sicr, oedd un o'r arloeswyr yn y maes - yn tynnu lluniau ar blat gwlyb ychydig flynyddoedd ar ôl i'r broses gael ei dyfeisio.

Roedd Syr O.M. Edwards wedi prynu 3,000 o'i luniau ac yn eu defnyddio'n gyson yn ei gylchgrawn, Cymru, ac mae'r rheiny'n dangos llefydd a phobl, yn enwogion a thlodion, gweinidogion a gweithwyr cyffredin.

Roedd wedi dechrau tynnu lluniau yn 1863 ac, am tua 40 mlynedd, wedi teithio ar hyd a lled Cymru yn tynnu lluniau. "Does dim amheuaeth taw rhai o'i luniau trawiadol ef fydd y darlun mwya' cywir sydd gyda ni o fywyd yng Nghymru yn niwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg", meddai arbenigwyr o'r enw Hilary Woollen ac Alistair Crawford mewn llyfr Saesneg amdano a gyhoeddwyd gan Wasg Gomer.

Mae llawer o werth ei waith, medden nhw, oherwydd ei fod wedi osgoi ceisio bod yn artistig ac wedi mynd ati i ddangos yn blwmp ac yn blaen yr hyn yr oedd yn ei weld. "Yn rhai o luniau John Thomas, mae yna deimlad llwyr o wirionedd: r'ych chi'n ymwybodol o batrwm cymdeithasol bywyd yng nghefn gwlad Cymru, o dlodi, urddas a chymeriad y bobl .."

Roedd John Thomas wedi ei eni yn Glan-rhyd, Cellan, yn 1838 a chafodd ei addysg gynnar yn y pentre', cyn mynd yn ddisgybl-athro yno ac wedyn yn brentis mewn siop ddillad yn Llanbed. Labrwr oedd ei dad, David, ac mae ganddo lun o'i fam, Jane, yn eu cartre' yng Nghellan yn 1867.

Yn 1853 fe benderfynodd symud i Lerpwl ac yno y daeth ar draws ffotograffiaeth am y tro cynta'. Ar ôl cael gwaith yn gwerthu ffotograffau o bobl enwog, fe benderfynodd fod Cymry enwog hefyd yn haeddu sylw. Yn Lerpwl yr oedd ei fusnes ar hyd yr amser, hyd ei farwolaeth ym mis Hydref 1905, ond lluniau o Gymru sydd ganddo, gan gynnwys llawer o Geredigion a hyd yn oed Llanbed ac ambell un o bobl y dre'.

Mae tua 4,500 o'i luniau bellach i'w gweld yn y Llyfrgell Genedlaethol ac ar y We - gallwch eu gweld am ddim trwy fynd i wefan y Llyfrgell. Diolch yn fawr iawn i'r Llyfrgell Genedlaethol am ganiatâd i gyhoeddi'r lluniau yma ac i Wasg Gomer am gael benthyg y llyfr.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy