BBC HomeExplore the BBC

IAU
26ain Tachwedd 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Clonc
Arwydd ffordd Sarn Elen a Sarn Gining
Mai 2008
Mae pawb yn gyfarwydd â'r gair 'sarn', sef cerrig sydd wedi'u gosod i hwyluso croesi tir gwlyb neu afon. Ac fel elfen mewn enwau lleoedd mae 'sarn' yn gyffredin iawn ar draws Cymru.

Y sarn enwocaf yng Ngheredigion ac yn Sir Gaerfyrddin, heb amheuaeth, yw Sarn Elen neu Sarn Helen ac mae darnau eraill o ffordd, yn ogystal, yn Sir Feirionnydd, Sir Gaernarfon, Sir Frycheiniog a Sir Forgannwg yn dwyn yr un enw. Ar sail y dosbarthiad hwn fe honnir bod merch o'r enw Elen wedi symbylu adeiladu ffyrdd o'r naill gaer Rufeinig i'r llall.

Mae Elen yn cael ei chysylltu â chymeriad hanesyddol o'r enw Elen o Segontium (Caernarfon), merch i bennaeth Brythonig a ddaeth yn wraig i Magnus Maximus, (Macsen Wledig). Sbaenwr yng ngwasanaeth yr ymerodraeth oedd Magnus, arweinydd lluoedd Rhufeinig ym Mhrydain a adawodd y wlad yn 383, er mwyn hawlio iddo ef ei hun swydd yr Ymherawdr yn Rhufain. Lladdwyd Magnus yn 388 ac er na wyddom ddim am dynged ei wraig ar ôl y dyddiad hwn, fe'i coffeir yn Ffarmers, Pumsaint, Llanybydder a Llanllwni gan yr enw Sarn Elen.Mae Pensarn Elen, yn ogystal, yn enw ar annedd yn Llanllwni a cheir Esgair Elen yng Nghaeo. Mae Croes Elen a Llain Croes Elen yn Llanfihangel-ar-arth.

Yn 1912 cafwyd hyd i ddarn aur o arian Rhufeinig yng ngardd Tan-yr-Allt ger Eglwys Pencarreg yn perthyn i gyfnod Arcadius (395-408AD). Mae cael hyd i arian bath o'r cyfnod hwn yn anghyffredin iawn yng ngorllewin Cymru ac felly rhaid ystyried hwn yn ddarganfyddiad o'r pwys mwyaf. Mae'n awgrymu bod y ffordd Rufeinig hon mewn defnydd ac yn ffordd swyddogol mor ddiweddar â diwedd y bedwaredd ganrif. Yn ôl yr hanes gwerthwyd y darn aur o Bencarreg gan y person a gafodd hyd iddo i emydd o Geredigion.

Yn 1696 ceir tystiolaeth gan deithiwr fod rhyw bum milltir o Sarn Elen yn y golwg i'r byd rhwng Gwarallt ym mhlwyf Llanllwni heibio i Fwlch y Gwrdy, ysgubor Aberduar, Llwyn-crwn, Eglwys Pencarreg, trwy goed Cil-y-blaidd a thros rostir Dôl-gwm. Ceir sylw ychwanegol yn y ddogfen hefyd yn dweud bod lladron pen-ffordd wedi bod yn bla yn yr ardal benodol hon ddeng mlynedd ar hugain ynghynt.

O Dôl-gwm mae'r ffordd Rufeinig yn dilyn glan Sir Gaerfyrddin o Afon Teifi nes cyrraedd y B4343. Mae'r Sarn Elen o Bumsaint, trwy Ffarmers, yn uno â'r B4343 yn Llanfair Clydogau ac yn mynd i gyfeiriad Llanio. Yn anffodus nid oes neb wedi cloddio wyneb yr un ffordd Rufeinig yn Sir Gaerfyrddin yn y cyfnod diweddar, ond ceir dau ddisgrifiad gan H Davies Evans, Plas y Dolau, o'r hyn a welodd wrth gloddio ger Maes-y-gaer a Tŷ newydd, Llanybydder yn 1878.

Ond nid Elen yw'r unig berson i gael ei chyplysu â'r elfen 'sarn' yn yr ardal hon. Ym mhlwyf Llanybydder ceir Sarn Gining [Sarn Gynin fach], [Sarn Gynin fawr]. Digwydd Cynin neu Cyning fel enw personol ar gerrig ogam ac fe'i cysylltir â Llangynin, Llangyning yng ngwaelod Sir Gaerfyrddin. Ar garreg goffa yn Eglwys Gymun coffeir Avitora merch Cynin. Byddai'n llawer rhy fentrus, wrth gwrs, i gysylltu'r cyfaill a goffeir yn Sarn Gynin yng ngogledd Sir Gaerfyrddin â'r llall a goffeir yn Llangynin yng ngodre Sir Gaerfyrddin. Yr hyn y mae'n ei ddangos yw bod yr enw Cynin neu Cyning yn cael ei arddel yn ne a gogledd Sir Gaerfyrddin - a hynny mewn cyfnod cynnar iawn.

Colofn fisol 'Enwau Lleoedd Lleol' gan David Thorne.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Peidiwch â datgelu eich cyfenw os ydych o dan 16 oed.
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy