BBC HomeExplore the BBC

IAU
26ain Tachwedd 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Clonc
Y Grŵp yn Sweden Dyddiadur y daith i Sweden
Mai 2004
Yn ddiweddar, fe aethom ni fel aelodau o flwyddyn 12 ar daith i Sweden.

Roeddem ni'n mynd ar ymweliad â thref fach o'r enw Kalix yng ngogledd y wlad - taith a drefnir ers nifer o flynyddoedd bellach. Aeth pymtheg o ddisgyblion ar y daith a oedd yn para o'r 18fed - 28ain o Fawrth. Roeddem ni'n hedfan o Heathrow ar y dydd Iau ac yn cyrraedd Kalix yn hwyr y noson honno. Roedd pawb yn synnu at garedigrwydd y teuluoedd oedd yn ein croesawu am wythnos ac yn barod am noson dda o gwsg!

Dydd Gwener cawsom daith o gwmpas yr ysgol a oedd yn cynnwys adran adeiladu, nyrsio, garej a stablau - tipyn o sioc i ddisgyblion Llanbed! Gyda'r hwyr, cawsom bryd o fwyd traddodiadol o Sweden yn yr ysgol - blasus iawn!

Teithio i'r Ffindir wnaethom ni ddydd Sadwrn a chael ymweliad â'r Amgueddfa yn Rovaniemi a mynd i weld Siôn Corn! Dydd Sul, cawsom ddiwrnod o ymlacio gyda'n 'teuluoedd' newydd a chyfle i chwarae yn yr eira rai!

Gadael am ogledd Sweden ddydd Llun ac ymweld â'r 'Ice Hotel' enwog, roedd yno eglwys, theatr a bar - a'r cyfan wedi eu creu o iâ!

Ymweliad â Chanolfan Ffiseg a'r mwyngloddiau haearn oedd wedi eu trefnu ar gyfer dydd Mawrth ac roedd yn ddiwrnod addysgol iawn.

Cafwyd amser da gan bawb fore dydd Mercher yn sgio, eirfyrddio a slejo ar lethrau'r ysgol a threuliwyd prynhawn diddorol yn y ffatri bapur leol.

Cawsom wersi Swedeg yn yr ysgol fore dydd Iau a llawer o hwyl ar y 'Snow Mobiles' yn y prynhawn.

Teithio i Stockolm ddydd Gwener a phawb yn drist wrth adael y ffrindiau newydd yn Kalix. Cawsom daith o gwmpas Stockholm ac ymweliad ag amgueddfa'r teulu Vasa a oedd yn gartref i un o longau mwyaf y brenin enwog Gustavus Adolphus.

Diwrnod o siopa oedd dydd Sadwrn a sioe ffasiwn yn y gwesty gyda'r nos wrth gymharu bargeinion!

Dychwelyd i Lanbed ddydd Sul gyda llond cês o ddillad brwnt a sawl ffilm llawn atgofion.

Hoffem ni i gyd ddiolch o galon i Mrs Pat Jones, Mrs Margaret Williams, Miss Anwen Jones a Mr Gareth Wyn Jones am wneud y daith yn bosib. Edrychwn ymlaen i groesawu ein ffrindiau o Sweden yn ôl i Gymru yn yr Hydref.

Gwennan Evans


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy