BBC HomeExplore the BBC

IAU
26ain Tachwedd 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Clonc
Yr artistiaid Hwyl ar y lawnt
Hydref 2006
Anrhydeddwyd gwaith a chyfraniad y Parchedig Goronwy a Mrs Beti Evans i gapeli'r cylch ac i'r gymuned mewn noson arbennig ar ddechrau Medi.
Gweledigaeth sydyn Emyr ac Eirian, Hollis, Llanbed oedd cynnal y gweithgaredd yma i anrhydeddu gwaith a chyfraniad y Parch Goronwy a Mrs Beti Evans i gapeli Undodaidd y cylch, holl enwadau eraill a'r gymuned i gyd ac yn enwedig i gapel Brondeifi.

A gyda sêl bendith rhai o selogion y capel aed ati gyda brwdfrydedd heintus i drefnu'r noson o Gaws a Gwin a chyngerdd ar Nos Wener, 2il o Fedi gyda Emyr ac Eirian yn cynnig eu cartref i gynnal y noson.

Enwyd yr achlysur yn 'Hwyl ar y Lawnt' a dyna a gafwyd yng nghwmni artistiaid enwog cenedlaethol a oedd yn fwy na pharod i roi eu gwasanaeth yn rhad ac am ddim er mwyn dangos eu parch a'u gwerthfawrogiad o'r gefnogaeth a gawsant hwy gan Goronwy a Beti tra yn bennaf yn ymwneud ag Eisteddfod Rhys Thomas James Llanbed.

Yn cymryd rhan ar y noson roedd Eirian a Meinir; Trebor Edwards; Aled Hall; Dafydd Edwards; Gwawr Edwards; Angela Rogers Davies; ac yn cyfeilio iddynt roedd Meinir Parry a Menna. Yna Endaf Morgan y pianydd ifanc a'r digrifwr Ifan Tregaron ac yn cadw trefn ar bawb roedd Ifan JCB.

Ceisiwyd yn weddol lwyddiannus gadw rhan fwyaf o'r trefniadau o glyw Goronwy a Beti ac roedd yn amlwg eu bod o dan gryn deimlad wrth weld yr artistiaid yma yn ymddangos un ar ôl y llall ac o weld yr arlwy fendigedig oedd wedi ei baratoi ar safle mor fendigedig ar eu cyfer.

Mae diolch arbennig i'r holl noddwyr y noson sy'n rhy niferus i ddechrau eu henwi gan fod cymaint o bobl wedi helpu neu gyfrannu mewn rhyw fodd neu gilydd i sicrhau noson mor llwyddiannus, Gwireddwyd yr elw anhygoel o dros £6000.00 a rhaid cydnabod yn ddiolchgar am haelioni Banc Barclays yn noddi 'Punt am Bunt' am yr uchafswm o £750.00 ac i'r artistiaid i gyd am ei gwasanaeth yn ddi dâl; i Emyr ac Eirian am agor eu cartref, i bawb a brynodd docynnau ac am fynychu'r noson ac fel y crybwyllwyd, i bawb a helpodd ac a gyfrannodd mewn unrhyw fodd at lwyddiant y noson.

Bydd elw terfynol y noson yn cael ei rannu yn gyfartal rhwng capel Brondeifi a Phwyllgor Lleol Ymchwil y Cancr, sef dewis elusen y Parch Goronwy a Mrs Beti Evans.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy