BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Clonc
Taith Rhyngwladol Clwb Ffermwyr Ifanc Cymru 2004 - Y Ffindir
Hydref 2004
Mae'r teithiau rhyngwladol a gynnigir gan Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru yn rhai amrywiol dros ben.
Gellir ennill y cyfle i deithio i bob ran o'r byd o Ulster yng Ngogledd Iwerddon, i Awstralia a Chanada. Ond i'r Ffindir y teithiais innau ym mis Mehefin eleni, gan obeithio gweld rhai o ryfeddodau'r wlad hon a chwrdd â rhai o'r brodorion lleol. Ac yn wir i chi, daith fy ngobeithio'n yn wir, a threuliais bythefnos gyffrous a diddorol iawn yn un o wledydd prydferthaf Ewrop.

Rhaid oedd yn gyntaf cael cyfweliad ym mhencadlys y Ffermwyr Ifanc Cymru yn Llanfair ym Muallt, lle bûm yn llwyddiannus ar y cyd â Teleri Jones o Glwb Capel Iwan, Sir Gâr, a derbyn y cyfle i deithio i'r Ffindir. Mae mudiad y 4H, sef y cyswllt yn y Ffindir yn fudiad i ieuenctid rhwng 11 a 18 mlwydd oed, o bob math o gefndir. O fewn y mudiad ceir cyfleoedd i ddysgu crefftau newydd, i helpu eraill a gweithio fel tîm.

Fe ddechreuodd y daith gan adael Caerdydd ar fore mwyn yr 11eg o Fehefin, ac yna hedfan i faes awyr Amsterdam ac yna ymlaen i Helsinki, prifddinas y Ffindir. Roedd yr olygfa o'r awyr, yn wir, yn un effallai yr oeddwn yn ei ddisgwyl ond heb ei ystyried yn iawn. Nid oedd dim i'w weld am filltiroedd o gylch y maes awyr ond coed. Fforestydd, fforestydd a mwy o fforestydd! Roedd hwn yn mynd i fod yn drip go unigryw!! Wedi cwrdd â Suzanna, un o arweinyddion y 4H yn y maes awyr, teithiom i fewn i'r ddinas ei hun ac i'r gwesty. Yn syth, roedd yn bosib i weld fod hon yn ddinas llawn diwylliant a hanes, gyda'r hen ddinas ag elfennau modern yn gwau i fewn i'w gilydd yn gyfforddus.

Fe rannwyd y pythefnos yn dair rhan. Yn gyntaf, treuliais dri diwrnod yn Hotel Helka yn y brifddinas yn cymeryd rhan mewn cwrs arweinaid ieuenctid, yna symud ymlan i'r Repo Camp yn Kouvola ac yna treulio wythnos gyda theulu yn ardal Kuopio. Roedd rhywbeth gan bob cam o'r daith i'w gynnig, naill ai i'w weld, i'w wneud neu i brofi.

Mae'n siŵr mai un o'r rhannau anoddaf o'r daith oedd y diwrnodau cyntaf yn y brifddinas. Gan fod y cwrs yn un i ieuenctid o bob rhan o'r byd roedd y broblem iaith yn un sylweddol. Anodd oedd deall Saesneg bratiog y bobl o'r Ffindir a hyd yn oed mwy caled oedd cynnal sgwrs gyda'r rhai hynny o Rwsia am nad oeddynt yn medru ar y Saesneg o gwbl! Ond fe ddysgais yn gloi, nad oedd rhaid siarad yr iaith cyn gwneud ffrindiau, yr un yw iaith pawb yn y pen draw. Fel rhan o'r cwrs, rhaid oedd mynd ati i baratoi arddangosfeydd ar syniadau ynglyn â mudiadau ieuenctid, a theimlais fod fy mhrofiadau o Fudiad y Ffermwyr Ifanc yng Nghymru wedi bod o fudd, gan rannu syniadau gyda aelodau o fudiadau tipyn yn llai ffodus na ni. Yr oedd yn anodd i rai ohonynt ddeall sut oedd ein mudaid mor gryf ac yn llwyddo i ddenu aelodau newydd bob blwyddyn a chynnal gweithgareddau megis yr Eisteddfod a'r Rali ac yn ymwneud â thasgiau fel y Cynllun Bywyd Gwledig! Tawaith, roedd rhywbeth i ddysgu gan bawb ac fe ddysgais innau yn fuan fy mod yn perthyn i un o fudiadau ieuenctid mwyaf cyffrous a llwyddiannus Ewrop.

Ar ddiwed y cyfnod yn Helsinki, cawsom daith fws o gylch y ddinas, a chyfle i weld yr hen eglwysi a'r harbwr, a gwaith crefft rhai o grefftwyr mwyaf addawol y wlad. A oeddech yn gwybod mai o'r Ffindir y daw y rhan fwyaf o'n ffônau symudol? Ie wir, o'r Ffindir daw Nokia ac roedd gwerth gweld yr adeiladau lle meant yn cael eu cynllunio a'i gwneud - roeddent yn ddinas yn eu hun!

Aeth cam nesaf y daith â ni, siwrnai tair awr mewn bws i Kouvola ac i gamp a gynhelir yn flynyddol ar gyfer aelodau 4H y Ffindir. Eto, cefais agoriad llygad wrth weld degau o bebyll bach wedi eu codi mewn coedwig ar lan llyn. Ond fe ddaeth y syndod mwyaf pan sylweddolais lle byddem yn cysgu am bedair noson. Nid oedd fy nghartref yn babell gyffredin ond yn hen babell milwyr a lle i bymtheg i gysgu ynddo, ond dim ond Teleri, chwe merch o Rwsia a finnau oedd ynddi! Roedd hi'n ddigon oer yn y babell i orfodi dyn eira i wisgo thermals, ond diolch byth cawsom dân yng nghanol llawr y babell - digon i wresogi blaenau'n traed!

Cawsom gyfle yn ystod y pedwar diwrnod i gymeryd rhan mewn nifer o weithgareddau gan gynnwys gwneud offeryn cerdd a dawnsio Affro!!! Er fod cerddoriaeth yn un o'm diddordebau, siomedig oedd fy ymgais ar greu offeryn a braidd yn sigledig oeddwn wrth ddawnsio!

Aethom hefyd yn ystod y cyfnod hwn ar daith gerdded i Barc Cenedlaethol Repovesi, tua ugain milltir y tu allan i Kouvola. Er ei fod yn fore go oerllyd yng nghanolbarth y Ffindir, cawsom wres ein traed a rhaid oedd dechrau tynnu rhai o'r siwmperi wrth gerdded ar hyd creigiau serth a phontydd pren sigledig ar lan y llynnoedd prydferth. Wedi cyrraedd copa'r hyn yr oeddynt yn galw'n fynydd, er ei fod ond yn dwmpath o graig o'i gymharu â mynydd Llanllwni, yr oedd yr olygfa'n arbennig. Y cyfan yn gymysgedd o fforestydd gwyrdd a dŵr glas y llynnoedd yn ymestyn i'r pellter.

Wrth gerdded i lawr y graig i lan y llyn, lle'r oedd barbeciw o selsig traddodiadol y Ffindir yn aros amdanom, cyfarfum â dwy o ferched o'r Swistir, Marianne a Jrene. Bu'r ddwy yma yn gwmni diddorol iawn tra bûm yn gwersylla yn y Repo Camp, ond rhaid oedd ffarwelio â hwy, Teleri a gweddyll y criw pan ddaeth diwedd y pedwar diwrnod, a felly bant â fi ar y bws unwaith eto ac ar siwrne bedair awr i Siilinjarvi.

Dyma rhan olaf y daith, ond mae'n siwr y rhan mwyaf diddorol a chyffrous, gan i mi dreulio gweddyll y bythefnos yn sefyll gyda theulu ifanc yn Pullkonkoski. Pentref gwledig wedi ei leoli ger llyn prydferth Kallovesi, a rhan fwyaf o'r teuluoedd o gefndir amaethyddol. Marja oedd Mam y teulu, ac yr oedd yn gweithio fel "relief milker" yn yr ardal. Yr oedd hefyd yn weithgar iawn yn y gymuned ac yn ysgrifenyddes i sefydliad merched lleol o'r enw "Women are the strength of the Countryside". Roedd Heikkin, tad y teulu yn adnewyddu a thrwsio drylliau, ac yn wir roedd ganddo gasgliad go hynod o'r arfau o bob maint - y rhan fwyaf ohonynt yn cael eu defnyddio i hela creaduriaid tebyg i'r carw, Elk a'r Moos. Yr oedd hefyd yn cynorthwyio'i dad yn ei fusnes plymio. Roedd ganddynt ddau fab, Risto oedd yn saith mlwydd oed a Jussi oedd yn chwech. Er nad oedd neb ond Marja yn medru siarad Saesneg, eto yr oedd modd cynnal sgwrs â'r teulu oll. Ers rhyw ddwy flynedd yr oeddynt wedi gwerthu eu buches Ayshire a bellach roedd y tir wedi eu droi yn Organig a chymdogion yn gwneud defnydd o'i cnydau, er eu bont yn hunan gynhaliol yn tyfu llysiau a ffrwythau yn ystod misoedd yr hâf.

Cefais groeso cynnes iawn yn eu cartref a gwledd o fwyd sawl gwaith y dydd. Fel pob cartref yn y Ffindir roedd y Sauna yn ran anatod o'r ty a'r drefn wythnosol. Mae yna hen ddywediad a ddefnyddir gan bobl y Ffindir sy'n dangos yn ddigon clir pwysigrwydd y sauna yn eu cartrefi - "First you build the sauna, then you build the house". Ac wrth gwrs, rhaid oedd i minnau hefyd ymuno yn y traddodiad hwn, ond penderfynais beidio neidio i oerfel y llyn wedi treulio cyfnod yn y sauna, fel y gwneir yn arferol. Serch hynny, daeth cyfle i mi fynd am drip ar gwch ewythr Heikkin, sef Wncwl Bertie, ar y llyn a gweld rhai o'r ffermydd a chabanau pren ar lan y dŵr. Ac yn wir, roedd yr olygfa yn hyfryd ac er fod Bertie yn mynnu gyrru'r cwch yn gyflym iawn a phob un ohonom yn tasgu i bob cyfeiriad wrth fynd dros y tonnau, roedd y daith yn un bleserus ond cyffrous.

Cefais gyfle da i weld Y Ffindir ar ei gorau, pan aethom am ddiwrnod ar daith i Kuopio, dinas gyfagos. Wedi prynu ychydig o anrhegion yn y farchnad awyr agored a'r siope bach unigryw, cerddom i fynnu tŵr uchel y Puijon lle'r oedd yn bosib gweld am filltiroedd dros y ddinas ac yna dros y llyn a'r ynysoedd bach a oedd yn polcodotio'i wyneb. Teimlais yn gyffrous iawn wrth weld y fath olygfa ond pan ddechreuodd y taranau daro yn go agos i'r tŵr, penderfynwyd efallai y byddai'n syniad da i symud yn go gloi yn ôl i lawr y grisiau!

Wel golygfa go unigryw a ddaeth i'm golwg y diwrnod wedyn pan wnaethom ymweld â fferm moch gwyllt a fferm estrys. Synnais ar y nifer o foch a ddaeth yn rhedeg dros wyneb moel y tir ataf, ac roeddent heb os, yn greaduriaid go ffiaidd. Nid oedd porfein i weld ar ôl yn y cae ac roedd hyd yn oed gwaelod y coed wedi eu bwyta'n llwyr, gan wneud i'r holl gae edrych yn debycach i wyneb y lleuad!

Wedi pythefnos lawn o deithio, cwrdd â phobl go arbennig, a rhyfeddu at olygfeydd godidog, rhaid oedd ymadael â'r Ffindir. Teithiais mewn trên am bump awr i Helsinki lle cyfarfum â Teleri ac yna cychwynom ar y siwrne hir yn ôl i Gymru fach! Profiad byth gofiadwy fu'r bythefnos ac fe fydd yr atgofion a'r profiadau yn aros yn y cof am amser hir. Braf oedd gweld fy nheulu gwadd ryw dair wythnos wedi i mi ddychwelyd, gan iddynt alw yn Hendy fel rhan o'u taith o gylch Cymru a Lloegr. Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i'r noddwyr canlynol am eu rhoddion hael:

Cyngor Sir Ceredigion; W.D.Lewis a'i Fab; Cegin Gwenog; Bysus G&M; Eryl Jones, Cyfrifydd; Oriel Jones a'i Fab; Gary Rees a'i Fab; Mwnci Ffwnci.

Diolch unwaith eto, Rhian Meleri Bellamy


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy