BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Clonc
Mwyar duon Mis y Mwyar a'r Myshrwms
Hyfref 2003
Mae casglu mwyar duon fel gwneud jig-so. Tra byddwch chi wrthi, dyna'r unig beth sy'n llenwi eich meddwl.
Colofn Dylan Iorwerth ...

A oes modd cyrraedd y rhai mawr, tew yna sydd ar y brigau ucha'? A allwch chi dynnu'r un fach sgleiniog acw heb iddi droi'n bwdin yn eich llaw?

Mae hyd yn oed y pigiadau a'r crafiadau'n rhoi rhyw fath o bleser rhyfedd, y teimlad eich bod chi'n brwydro trwy rywbeth i gael eich gwobr. Mae'r byd yn troi yn berlau bychain duon a phwysau bywyd yn bwysi o fwyar mewn bocs neu fag.

Rhywbeth tebyg ydi casglu myshrwms. Mae angen canolbwyntio a gadael i'ch llygaid grwydro hyd wyneb y cae o un twmpath glaswellt ir llall. Fyddwch chi ddim yn gweld y meillion na'r ysgall, dim ond chwilio am fflachiadau bach o wyn yn y gwyrdd.

Un o driciau mawr rhagluniaeth ydi trefnu fod hen esgyrn a myshrwms yn union yr un lliw. heb sôn am ambell ddarn o ddom wedi sychu yn yr haul. Rydech chi'n rhuthro yn eich blaen yn eiddgar, cyn sylweddoli'r siom.


Madarch
Madarch
Ond mae'r pleser o ddod o hyd i fadarchen go iawn yn afresymol o fawr, ac wedyn sylwi fod dwy neu dair fach arall yn llercian gerllaw. Ac wedyn rhyfeddu at y pwer rhyfedd sydd wedi eu gwthio nhw trwy'r pridd i droi'n ffrwyth cyfan mewn noson.

Ond mae'n debyg mai'r pleser go iawn gyda mwyar a myshrwms fel ei gilydd ydi gwybod eich bod chin casglu bwyd yn uniongyrchol o'r ddaear, heb ddim prosesu na phacio .. a natur ei hun sy'n penderfynu'r 'sell-by'.

Mae'n anodd credu cyn lleied o bobol sy'n nabod y pleser yma - ynghanol yr holl adroddiadau am ddiffygion deiet a bwyd afiach mewn ysgolion, dyna'r un wers fawr sy'n mynd ar goll - nid peth sy'n dod o siop ydi bwyd, ond rhywbeth sy'n dod o'r ddaear.

Roedd yr un teimlad yn taflu gwawl gynnes trwy festri Capel y Groes wrth i Karen Owen, Golygydd Golwg, ddarllen cerddi a ddaeth yn agos iawn at ennill y Goron ym Meifod eleni ... a hawdd gweld pam. Cerddi crefftus, glân yn defnyddio ei phrofiad hi ei hun i grynhoi profiadau pawb ohonon ni sy'n byw yng ngorllewin Cymru y dyddiau yma. Y tu cefn i'r cerddi, roedd awch Karen i ffeindio rhagor am ei theulu, nid dim ond yr enwau, ond y straeon bach sy'n pefrio yn y cloddiau.

Fel y bydd sbwyriau'r madarch yn aros yn y pridd am flynyddoedd, nes cael yr amgylchiadau perffaith i ffrwydro i'r wyneb; mae olion bywydau ein cyndeidiau ninnau yno yn rhywle, yn aros i gael eu darganfod, neu'n bwydo'r ddaear o'u cwmpas.

Colli nabod ar y rheiny, a cholli'r teimlad wag atyn nhw, ydi'r pris mawr yr yden ni'n ei dalu er mwyn cael ein cymdeithas fodern, symudol ... fel gwymon môr sy'n cael eu symud yn ôl ac ymlaen gan y tonnau.

A dyna un o'r prisiau mawr y byddwn ni'n ei dalu am y symudiadau poblogaeth mawr i mewn i'r ardaloedd yma ... mae'r hen straeon ac atgofion am genedlaethau'r gorffennol yn cael eu sathru i mewn i'r pridd. Ac enwau wedyn - mae Karen yn sôn am y rheiny hefyd - yn cael eu troi ... o Lyn Rhosyn i Rose Villa, o Bantycelyn i Holly Vale. Dyna'r goncwest eitha', dwyn hanes a chof oddi ar bobol.

Ond mae yna rai yn dal i fynd allan i gasglu ac i deimlo'r ffrwythau'n dyner yn eu dwylo. A does yna ddim byd gwell na myshrwms yn y badell a llygaid bach y menyn yn wincio arnoch chi ... heb sôn am darten fwyar a'i jiws yn gochach nag unrhyw glaret yn selerydd Ffrainc.

Ac nid peth hen ffasiwn ydi o chwaith mae restaurants mawr yn codi crocbris am fadarch gwyllt a sorbet mwyar. Ac mae siopaun llawn o gynnyrch artiffisial syn trio edrych fel y stwff go iawn.

Dylan Iorwerth


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy