BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Clonc
LLun o'r teithwyr Taith Ddiwylliadol
Gorffennaf 2008
Hanes taith Cymdeithas Ddiwylliadol Bethel Parcyrhos a drefnwyd gan Eiddig a Gwen Jones.

Mae Taith Cymdeithas Ddiwylliadol Bethel Parcyrhos yn ddigwyddiad sefydlog i drigolion Cwmann a Pharcyrhos ers sawl blwyddyn bellach, ac eleni, y llywyddion Eiddig a Gwen Jones oedd y trefnwyr. Dyma fraslun o'r hyn a ddarparwyd.

Ar ôl teithio rhyw dair milltir o Gelliddewi gadael yr hen blwyf a chroesi'r ffin i Sir Aberteifi. Teithio trwy Gellan - pentref sydd fel hafod a hendre gydag Eglwys, dau Gapel, Ysgol a hen Ysgoldy. Gweld cofeb i'r ddau frawd Griffith John a David Matthew Williams yng Nghellan Cwrt, ysgolheigion o fri. Bu GJ Williams yn ddarlithydd Adran Geltaidd ym Mhrifysgol Caerdydd gan wneud ymchwil yn llawysgrifau Llanofer ac ar Iolo Morgannwg.

Teithio ymlaen tuag at Lanfair Clydogau - y lle mwyaf deheuol y bu cloddio am fwyn ac arian yn Sir Aberteifi. Galw ym mynwent yr Eglwys, gweld bedd William Jones Glandenys un o gyn berchnogion Banc Yr Eidion Du. Dangos bedd y cariadon sef gwraig William Jones - Ann a'i chariad Edward Hesketh Fornby. Mae mwy o'r hanes i'w gael yn llyfr Bethan Phillips - Lovers Grave.

Heibio fferm gaws byd enwog Gorwydd ar ein ffordd i Eglwys Llanddewi Brefi, cael ein tywys a chael hanes yma gan Y Parchedig Dyfrig Lloyd. Teithio trwy Dregaron tuag at Gors Caron, aros yno i gael sgwrs a phicnic. Ymlaen wedyn i Ystrad Fflur, cael hanes yr Abaty a'r Eglwys gan Mr Lyn Ebenezer. Yma hefyd y cawn weld ail fedd Dafydd ap Gwilym.

Teithio am Ledrod a Threfenter ymweld â fferm wynt Llangwyryfon a chael ychydig hanes gan Mr Dilwyn Jenkins.

Ymlaen at ardal Y Mynydd Bach lle gwelwn gofeb i feirdd Y Mynydd Bach, sef BT Hopkins, T Hughes-Jones, JM Edwards ac E Prosser-Lloyd a chael anerchiad gan Mr Geraint Lewis.

Hefyd cael hanes am Ryfel y Sais bach, dyma oedd hanes terfysg mwyaf Sir Aberteifi yn ymwneud â thir pan oedd y comisiwn yn deddfu cae y mynydd (Enclosure Act).

Prynodd dyn o'r enw Augustus Brackenbury tua 900 erw ar lechwedd Mynydd Bach a Llyn Eiddwen. Dyma dir oedd y brodorion lleol yn arfer pori a thorri mawn. Adeiladodd Brackenbury dŷ crand ar y tir, ond rhyfelodd y bobl leol yn ei erbyn, gan losgi ei dŷ tair gwaith dros gyfnod o wyth mlynedd, hyd yn y diwedd, gadael y mynydd a wnaeth.

Ar y ffordd hefyd i Drefenter, pasio pen lôn Cefn Coch lle'r oedd William Richards yn byw. Wrth hela yn anghyfreithiol gyda'i gyfeillion lladdodd Wil ben 'keeper' stad Trawscoed. Cafodd Wil ei gwato am fisoedd gan werinwyr cefn gwlad y Mynydd Bach gan fod 'na £100 o wobr am ei ddal ac i ddod ag ef i'r Llys. Gyda help dau ffrind cafodd ei dywys i borthladd Lerpwl wedi ei wisgo fel merch ac aeth ar long gyda llawer o gyd Gymru i'r America ac ymsefydlodd yn Oak Hill, Ohio. Mewn pedair blynedd ymunodd ei gariad Elisabeth Morgan o Bontrhydfendigaid ag ef. Priodi mewn blwyddyn a byw yn hapus; bu William yn alltud am 52 mlynedd.

Bwrw wedyn am Benuwch a mwynhau swper braf yn y Penuwch Inn. Talodd Dilwen Roderick y diolchiadau i Eiddig a Gwen am noson ddiddorol a dymunol iawn.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy