BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Clonc
Taith Hanes i Ffosydd y Rhyfel Byd Cyntaf
Gorffennaf 2005
Hanes taith hanes blwyddyn naw Ysgol Llanbedr Pont Steffan i Ffosydd y Rhyfel Byd Cyntaf.

"Am 9 o'r gloch, dydd Gwener, Mehefin 10fed, aeth dau fws llawn o 68 disgybl blwyddyn 9 a'u hathrawon i Ffrainc a Gwlad Belg gydag Adran Hanes yr ysgol. Er i fws dau dorri lawr, roedd y daith yn bleserus a'r Eurotunnel yn wych a chyrhaeddon Gwesty'r Novotel, Lille yn ddiogel.

Ar ôl noson o gwsg, buom yn ymweld ag Amgueddfa Flanders Fields yn Ypres ddydd Sadwrn. Roedd y wybodaeth a ddysgon o ymweld â'r amgueddfa'n gofiadwy, gyda'r cyfrifiaduron sgrîn cyffwrdd yn uchafbwynt i nifer! Ym mynwent Artiellery Wood oedd Bedd Hedd Wyn, yno fe osododd Elin groes ar ei fedd ar ran yr ysgol. Yno, gorweddai fedd milwr o Lanllwni - gafaelgar oedd sylweddoli fod cymaint o Gymry wedi aberthu eu bywydau yno. Mynwent fwyaf o'i math gwelson nesaf sef Tyne Cot, anghredadwy oedd gweld y miloedd o feddi.

Buom yn ymweld a Hill 62 ar ôl hynny, lle oedd 'na ffosydd wedi'u cadw yn rhoi cyfle i ni cerdded trwy'r union ffosydd lle bu miloedd o filwyr yn brwydro. Yn ôl i Ypres wedyn i fod yn rhan o'r seremoni sy'n cael ei gynnal yn ddyddiol am 8 o'r gloch i gofio am y milwyr colledig a frwydrodd i amddiffyn Ypres.

Braf a chyd-ddigwyddiad llwyr oedd gweld Giles Mosely, cyn ddisgybl ein hysgol yn gorymdeithio yn y seremoni. O fewn y gofgolofn, gwelodd Natalie enw'i pherthynas a gosododd babi wrth ei enw. Hyfryd oedd cwrdd â hen wraig oedd yn bresennol i bob seremoni.

Wedi brecwast cynnar bore dydd Sul, aeth pawb yn ôl ar y bws. Ein hymweliad cyntaf oedd i Delville Woods, sef cofgolofn anferth er cof am filwyr o Dde'r Affrig. Yno hefyd, roedd coeden Hornbeam' a oedd wedi goroesi'r ymladd - tipyn o goeden!

Yna, mi aethon ni i weld coedwig Mametz a'r gofeb i'r Cymry a oedd yno. Roedd pawb yn teimlo'n emosiynol iawn pan ganodd ein criw yr Anthem Genedlaethol, tra fod Rhydian yn rhoi croes ar y golofn. Wedi hynny, aethon ni i weld Crater Lochnagar, sef crater anferthol a oedd wedi ffurfio ar ôl i fom ffrwydro adeg y Rhyfel. Wedi ymweliad cloi a Heilly Station, lle'r oedd perthynas i Mrs Dafis wedi'i gladdu; roedd hi'n amser i gael cinio a hynny yn Hamel, lle fwytodd Rhydian bron yr holl fwyd ar y bws (fel arfer)!

Wedi cinio, mi gawson ni gyfle gwych i gerdded ar hyd ffosydd llinell flaen Prydain trwy dir neb, nes cyrraedd llinell flaen yr Almaen a cholofn i gofio am filwyr o Newfoundland. Roedd yn brofiad gwych i weld sut oedd system y ffosydd yn gweithio.

Cawsom gyfle i siopa yn Boulogne ar y bore dydd Llun, gyda Miss Anwen Jones yn ei helfen! Felly, wedi'r daith yn ôl ar y bws, gyda Mr Roland Griffiths yn ein cadw ar ddihun drwy ganu, mi gyrhaeddon ni Llanbed yn ddiogel ac wedi mwynhau, ond yn barod am ein gwelyau.

Diolch yn fawr i'r Adran Hanes am drefnu'r daith ac yn arbennig i Miss Anwen Môn Jones am ei threfrniadau trylwyr ac i Mrs Margaret Williams, Mrs Caroline Davies, Dr Ceri Davies, Mrs Heledd Dafis, Mr Roland Griffiths, Mrs Anne Pugh a Mrs Pat Thomas am eu cwmniaeth."

Erthygl gan Luned Mair, Dewi a Natalie Moore


Cyfrannwch

cymru
mae hyn yn help mawr i fy essay hanes diolch!!!
Fri Apr 17 11:55:37 2009


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy