BBC HomeExplore the BBC

IAU
26ain Tachwedd 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Clonc
Y dosbarth Ymweld â Ffosydd y Rhyfel Byd Cyntaf
Gorffennaf 04
Ar ddydd Gwener, 11eg o Fehefin, bu 71 o ddisgyblion Blwyddyn 9 ar daith i Ffrainc a Gwlad Belg gyda'r adran Hanes i ymweld â Ffosydd Y Rhyfel Byd Cyntaf.


Wedi diwrnod hir o deithio, cyrhaeddom y gwesty yn Lille yn ddiogel. Treuliwyd dydd Sadwrn yng Ngwlad Belg. Yn gyntaf, buom yn ymweld ag Amgueddfa 'Flanders Field' cyn symud ymlaen i weld bedd y Prif fardd Hedd Wyn. Ar ôl picnic yn yr haul aethom i ymweld â mynwent Tyne Cot sef y fynwent Brydeinig fwyaf o'i fath a oedd yn coffau'r milwyr a fu farw tra'n amddiffyn yr 'Ypres Salient'. Aethom ymlaen i ymweld hefyd â mynwent Almaenaidd sef Langemark, mynwent anghyffredin gan nad oes llawer i'w cael yng Ngwlad Belg na Ffrainc.

Cafodd y disgyblion wir brofiad o'r ffosydd yn Hill 62. Yma mae rhan o'r ffosydd wedi cael eu cadw mor debyg â phosib fel yr oedd hi adeg y Rhyfel Byd Cyntaf. Dychwelsom i Ypres i gael swper ac i weld seremoni emosiynol ger cofgolofn Menin Gate, Ypres lle chwaraeir y 'Last Post' i gofio am y milwyr colledig bob nos.

Treuliwyd dydd Sul o amgylch ardal y Somme yn Ffrainc. Buom yn ymweld ag Amgueddfa y Rhyfel Mawr yn Peron a hefyd cofgolofn drawiadol Thiepval. Treuliwyd y prynhawn ym Mharc Coffa Beaumont Hamel, sy'n cofio am ymdrechion milwyr o Newfoundland, Canada yn yr ymladd ffyrnig. Cawsom ein tywys gan fyfyrwyr o Ganada a chafwyd cyfle gwych i flasu hanes y rhyfel gan fod y disgyblion wedi cael cyfle i gerdded drwy'r ffosydd ' o linell flaen y Cynghreiriaid dros dir neb a draw at ffosydd yr Almaenwyr.

I ddiweddu'r gweithgareddau hanesyddol, buom yn ymweld â choedwig Mametz. Yma yn ystod y rhyfel bu milwyr Cymreig yn ymladd er mwyn cipio'r goedwig o feddiant yr Almaenwyr. Braint oedd ymweld â chofgolofn y Ddraig Goch sy'n coffau ymdrech a llwyddiant y Cymry.

Yn wir, cafwyd taith brysur a llwyddiannus. Dychwelsom nos Lun, 14eg o Fehefin, ar ôl cael cyfle i siopa yn Bologne a phawb wedi blino ond wedi mwynhau. Diolch yn fawr i Mrs Margaret Williams am drefnu taith lwyddiannus arall.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy