BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Clonc
Twynog Davies Pantyfedwen ar y Brig
Ebrill 2007
Cysylltiadau Twynog Davies gydag awdur emyn Pantyfedwen, Morris Eddie Evans.

Do, fe wnaeth y genedl Gymreig bledleisio ar y rhaglen Dechrau Canu, Dechrau Canmol yn ddiweddar mae Pantyfedwen yw yr emyn dôn mwyaf poblogaidd.

I bawb ohonoch sydd â chysylltiad gyda'r Eisteddfod yma yn Llanbed, mae hyn yn lawenydd pur ond i mi efallai mae'r dôn yn golygu ychydig mwy oherwydd y cysylltiadau a gefais gyda'r awdur - Morris Eddie Evans yn ôl yn yr wythdegau cynnar. Dyma'r cefnidr yn frâs.

Cefais y fraint a'r anrhydedd o sefydlu ac arwain Côr Cymysg Penparc a'r Cylch ger Aberteifi am gyfnod o bymtheg mlynedd rhwng 1972 - 1987. Tua diwedd 1979, derbyniwyd gwahoddiad oddi wrth Radio Cymru yn gofyn a fyddem yn ystyried gwneud rhaglen ar Ganiadaeth y Cysegr o emyn donau Eddie Evans.

Dyma fynd ati gyda'g egni a brwdfyrdedd a mwynhau y profiad y fawr. Trueni yn wir mae Pantyfedwen yw'r unig un o donau Eddie Evans a genir yn reolaidd oherwydd mae ganddo nifer o donau cynulleidfadol caniadwy a chyfoethog yn cynnwys Nant Peris, Glanystwyth, Maesglas a Llangernyw a hon oedd yn fuddugol yn Eisteddfod Machynlleth yn 1937.

Darlledwyd y rhaglen gan y Côr ar y Sul Mai 5ed 1980 gyda'r Parch. Goronwy Evans yn cyflwyno yr emynau. Aeth wythnos heibio ond yn sydyn dyma lythyr yn cyrraedd oddi wrth Eddie Evans yn cyfleu yn wylaidd iawn ei ganmoliaeth a'i werthfawrogiad o'r rhaglen ac am waith y côr. Bu hyn yn gyfnod o lythyru rhwng y ddau ohonom am gyfnod o tua pedair blynedd ac y mae'r pump llythyr sydd gennyf wedi eu ysgrifennu mewn llaw ysgrifen daclus a Chymraeg gloyw yn drysor gennyf erbyn hyn. Nid yn unig bu yna lythyru cyson ond hefyd cafwyd sawl sgwrs ar y ffôn. Cofiaf yn dda y bore pan gododd y ffôn i ddweud fod ei briod Gwyneth wedi marw.

Er na chefais y fraint o'i gyfarfod yn y cnawd, teimlais fod yna gysylltiad agos wedi datblygu rhyngddom ac r'wyn gwybod faint oedd y 'casette' o'i emyn donau yn golygu iddo. Cymerodd ddiddordeb hefyd yn nghôr Plant yr Urdd ar ôl iddynt ymddangos ar raglen prynhawn Sul Caniadaeth y Cysegr - yn wir dyma'r unig raglen Gymraeg oedd yn medru dderbyn o'i gartref yn Oldham ar y pryd.

Ganwyd Eddie Evans yn Cloth Hall, Talysarn, Dyffryn Nantlle ond symudodd y teulu i Lerpwl yn 1904. Bu yn organydd yng nghapel M.C. Edge Lane am 36 o flynyddoedd ond symudodd ef a'i deulu i ardal Oldham a bu yn helpu allan mewn nifer o Eglwysi bach yn yr ardal fel organydd. Dysgodd y grefft i gyfansoddi gan J H Roberts, Pencerdd, Gwynedd ac yr oedd yn awdur ar dros ddau gant o emyn donau. Bu farw yn 1984 yn 93 oed.

Yn rhyfedd iawn fel y gwyddoch mae'n siwr fod yna hanes diddorol i emyn y Parch Rhys Nicholas a thôn Eddie Evans. Mae'n debyg fod yr emynydd wedi bod yn pregethu ar yn adnod "lle yr oeddwn i yn ddall, yr wyf yn awr yn gweled" (Ioan 9.25). Bu hyn yn symbyliad iddo lunio'r emyn ond awgrymodd ei briod Beti fod angen gwell clo a bod eisiau cynnwys yr 'Haleliwia'. Dyma ychwanegu y ddwy linell olaf sydd yn glo perffaith i'r tri pennill. Beirniaid y gystadleuaeth yn Eisteddfod Rhys Thomas James Llanbed yn 1967 oedd E. Gwyndaf Evans a Gwilym R. Tilsely ac fe wobrwyd emyn y Parch Rhys Nicholas.

Yn y flwyddyn ganlynol yn ôl yr arfer bellach, r'oedd y gystadleuaeth yn seiliedig ar gyfansoddi emyn dôn i eiriau Rhys Nicholas. Yr athro Ian Parrot oedd yn beirniadu ac fe wobrwyd y dôn 'Arobryn'. Teimlodd yr wythawd er hynny a benodwyd i ganu y dôn fuddugol nad oedd Arobryn yn dôn gynulleidfaol ac mi ofynnwyd i'r beirniad i ail ystyried a'r ail ddewis fel y gwyddom oedd Pantyfedwen.

Elwyn Davies, Fronlas, Llanybydder yn anffodus ydi'r unig un o'r wyth sydd bellach yn fyw. Dyma'i eiriau "Cofiaf yn dda" meddai "o ganu Pantyfedwen o flaen tua 1000 o bobol yn y babell fawr. Yr wythawd ganodd y pennill cyntaf a'r olaf gyda'r tenor enwog o Gwrtnewydd y diweddar Edgar Evans yn canu'r ail bennill. R'oedd y gymeradwyaeth yn fyddarol ac mi ofynnwyd i'r parti i ail ganu'r dôn".

Mae'r cyfan bellach yn hanes. Mae'n werth darllen mwy am y gystadleuaeth rhyfeddol yma yn llyfr gwerthfawr Goronwy Evans, Llais Llwyfan Llanbed ac y mae llun o'r wythawd i'w gweld ar dudalen 38. O siarad gydag Eddie Evans ar sawl achlysur, r'wyn gwybod faint oedd ennill y gystadleuaeth yn golygu iddo.

Mae'r briodas rhwng emyn Rhys Nicholas a thôn Eddie Evans yn un annatod ond tybed beth fyddai wedi digwydd i'r dôn onibai fod yr wythawd deallus a cherddorol hynny yn 1968 wedi herio dewis cyntaf y beirniad. Efallai yn wir na fuasai Pantyfedwen erioed wedi gweld golau dydd ac mi fyddai'r genedl wedi colli un o'i thysorau a chanu cynulleidfaol oherwydd hynny dipyn tlotach.

Twynog Davies


Cyfrannwch

Ann M. Davies ( Mrs ) - Oldham, Lancashire
Cyfrannwyd y pwt hwn yn Saesneg yn wreiddiol.
Rwy’n ferch i Morris Eddie Evans – yn anffodus rwyf wedi 'colli' llawer o fy Nghymraeg – gormod i ddeall yr erthygl hon yn llawn, ond rwyf yn gallu deall llawer ohoni. Rwy’n gwybod bod Pantyfedwen yn dal i gael ei chanu yng Nghymru gyda'r parch a’r cariad mwyaf. Nid yn unig fy mod yn caru’r dôn, roeddwn i yno hefyd trwy gydol yr holl fisoedd yr oedd Dad yn cyfansoddi yr emyn dôn hyfryd hon, yn ogystal â’r poen o aros i gael fy ngalw i Eisteddfod Llambed ac aros am y canlyniadau!

(I am the daughter of Morris Eddie Evans - regrettably I have 'lost' an awful lot of my Welsh - far too much to fully understand your article, though I do manage to get the gist of most! I know that Pantyfedwen is still sung in Wales with the greatest of respect and love - and I not only love the tune I was there throughout the many months of Dad composing this beautiful hymn tune - as well as the soul searching/heart ache of waiting to be called to Lampeter for the Eisteddfod and results!!)


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy