BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Clonc
Coleg Llambed Cymdeithas Hanes Llambed
Ebrill 2006
Dr Beth Thomas o Amgueddfa Sain Ffagan yn ymweld â chymdeithas Hanes Llambed.

Cadeiriwyd cyfarfod mis Mawrth gan Dr. David Austin, ac roedd yn dda ganddo weld cynulliad deilwng wedi dod ynghyd. Croesawyd Dr Beth Thomas o Amgueddfa Sain Ffagan atom, a chafwyd noson ddiddorol iawn yn ei chwmni yn clywed fel y bu, ac y mae Sain Ffagan yn datblygu ar hyd yr amser.

Mae Dr Thomas wedi bod yn gweithio yno am 29 o flynyddoedd, a hi bellach sy'n gyfrifol am y casgliadau cenedlaethol a chymdeithasol sy'n cyrraedd Sain Ffagan - sefydliad sy'n hanfodol i hanes Cymru a'i phobol.

Aeth Beth Thomas â ni nôl i amser y Dr. Iorwerth Peat, curadur cyntaf yr Amgueddfa; bwriad y lle yr adeg hynny oedd cofnodi bywyd gwerinol Cymru, and erbyn yr 80au, sylweddolwyd fod yn rhaid cadw mewn côf ochr ddiwydiannol Cymru hefyd. Dyma pryd aed ar ôl adeiladau megis Neuadd y Gweithwyr Oakdale, a thai Rhydycar ym Merthyr Tydfil.

Mae symud adeiladau, a'r gwaith gofalus o nodi'r cerrig cyn y tynnu i lawr a'r ail-godi wedi bod yn mynd ymlaen dros y blynyddoedd, - Eglwys St. Teilo Talybont, ger Pontarddulais yn un o'r rhai diwethaf i'w hail leoli, and erbyn hyn, mae'r coed ar dir Sain Ffagan yn dod o dan gorchymun cadwraeth, sy'n gwneud pethau'n anodd i greu lle i lawer rhagor o adeiladau at y 45 sydd eisioes wedi eu codi yno.

Yn 1958, gwnaed apêl ar y radio gan yr Athro Griffith John Williams, (a fagwyd yng Nghellan), yn ymbil am arian i greu cronfa er mwyn gallu ariannu'r gwaith o greu archif glywedol; roedd e'n gweld yr hen ffordd o fyw yn edwino, ac yn gweld ymhellach fod yna eirfa gyfoethog yn mynd i'w golli, onibai ei rhoi ar gôf a chadw. Erbyn hyn mae yna dros 10,000 o leisiau wedi eu recordio, yn olrhain traddodiadau, ffordd o fyw, a thafodieithoedd led-led Cymru.

Un o'r adeiladau sy'n denu nifer dda o ymwelwyr, a miloedd o'r rheini'n blant, yw hen Ysgol Maestir, ger Llambed. Codwyd yr ysgol tua 1880 gan deulu'r Harfords, Falcondale, ond byr fu ei hoes fel ysgol, gan iddi gau tua 1916. Ar ôl hynny bu'n dŷ cyngor hyd nes i Gyngor Sir Dyfed ei rhoi yn rhodd i Sain Ffagan yn 1980. Bydd y plant a'u hathrawon yn gwisgo yng null cyfnod Fictoria, ac yn cael blas ar sut yr oedd addysg yn cael ei ddarparu yn yr oes honno - canrif a rhagor yn ôl erbyn hyn.

Soniodd Beth Thomas am Toll-dŷ Penparcau, Aberystwyth. Codwyd yn 1771 ar gost o £40, a David Jones o Ddihewyd yn geidwad yno. Symudwyd i Sain Ffagan tua diwedd y 50au.

Diddorol iawn oedd gweld biliau a thalebau gan fasnachwyr tre Llambed, megis Charles Evans, Mark Lane; Evan Evans, Cabinet-maker, Stryd y Coleg; David Jones, Optician, Sgwâr Harford; D.H.Evans, Cabinet Maker, a James Davies, Cabinet maker, Heol y Bont.

Erbyn heddiw, mae teitl Sain Ffagan wedi newid o fod yn 'Amgueddfa Werin Cymru' i 'Amgueddfa Hanes Cenedlaethol Cymru', gan ei fod yn cwmpasu darlun llawer ehangach na'r 'gwerinol' gwreiddiol.

Diolchwyd i Beth Thomas gan David Austin, a dymunodd yn dda iddi yn ei gwaith yn Sain Ffagan, a hwnnw'n waith â chyfrifoldeb arbennig yn perthyn iddo.

Cyfarfod nesaf:- Nos Fawrth Ebrill 25ain, am 7.30 y.h. yn yr Hen Neuadd. Gŵr gwadd,- Charles Arch, "Byw dan y Bwa". Croeso cynnes i bawb.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy