BBC HomeExplore the BBC

IAU
26ain Tachwedd 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Clonc
Capel Bethel
Ebrill 2005
Cafwyd darlith ardderchog yng Nghapel Bethel ynglŷn â hiwmor Waldo Williams ac Idwal Jones yng nghwmni Emyr Llewelyn.

Cynhaliwyd noson ardderchog yng nghapel Bethel, Drefach yn ddiweddar pan wahoddwyd Emyr Llywelyn i ddarlithio ar hiwmor Waldo Williams ac Idwal Jones.

Cafwyd toreth o straeon difyr am y ddau fardd ac am hanes Emyr Llywelyn ei hun ym myd addysg. Roedd y capel llawn yn fwrlwm o chwerthin a phawb yn mwynhau gwrando ar storïwr dawnus wrth ei waith.

I gloi'r noson cafwyd medli o ganeuon Idwal Jones gan Leisiau'r Werin, sef côr o ferched lleol o dan arweinyddiaeth Mrs Elonwy Davies gyda Mrs Dulcie James wrth yr organ. Roedd y gynulleidfa wrth ei bodd yn ymuno yng ngeiriau'r hen ffefrynnau, megis 'Siani', 'Eistedd ar ben llidiart' a'r 'Un dyn bach ar ôl' .

Llywydd y noson oedd Mrs Ann Davies, Dolgors, Llanllwni. Magwyd Ann yn Garth Villa, Drefach a chroesawyd hi gan weinidog y capel sef y Parchedig Rheinallt Davies. Cyfrannodd Ann yn hael iawn at y gronfa a chyflwynwyd blodyn iddi ar ran y capel gan Meinir Jones Pwllybilwg.

Diolchwyd i bawb a gyfrannodd at lwyddiant y noson gan Gillian Jones, Meysydd a chyfeiriodd at gefnogaeth a chymorth Pwerdy Plwyf Llanwenog at y gweithgaredd diwylliannol arbennig hwn.

I gloi'r noson paratowyd paned o de ac ymborth blasus gan wragedd y Capel yn Neuadd y Pentref.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy