BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Clonc
Disgyblion Ysgol Llanwnnen gyda'u dynion eira. Eira - yr ateb
Chwefror 2010
Dylan Iorwerth sy'n cynnig rhai syniadau sut i ymdrin ag eira mawr.

Slawer dydd, roedd plwyfi'n gyfrifol am eu ffyrdd a'u priffyrdd eu hunain, hynny oedd yna i'w cael.

Os ydw i'n deall yn iawn, yn y dyddiau cyn tarmac, pobol leol a fyddai'n trefnu i lenwi tyllau a cheisio gwella ambell i bont.

Ac mi fyddai ambell dirfeddiannwr neu ddyn busnes weithiau yn talu am greu ffordd newydd, er mwyn hwyluso eu teithio a'u masnach.

O weld yr eira mawr ddechrau mis Ionawr, efallai ei bod yn bryd i ni feddwl am drefn debyg eto.

Does yna fawr o help i'w gael o unman arall.

Oherwydd prinder arian - a halen - doedd y rhan fwya' o gynghorau sir Cymru ddim yn gallu gwneud mwy na chlirio'r ffyrdd mawr a gadael y gweddill i'r elfennau.

Felly yr oedd hi yn ardal Clonc wrth gwrs - yn y ddwy sir - a rhai strydoedd, ffyrdd cefn a stadau wedi bod dan drwch o eira a rhew am bythefnos fwy neu lai.

Mae'n amlwg na fedr yr awdurdodau cyhoeddus ddim gwario arian i baratoi at aeafau caled sy'n dod bob rhyw 30 mlynedd, ond mi fyddai'n ddiddorol gwybod faint o arian a gafodd ei golli oherwydd bod pawb yn styc.

Athrawon

Wedi'r cyfan, mewn ceir bach cyffredin fel sydd gan y rhan fwya' ohonon ni, does dim llawer o bwynt clirio priffordd, os na fedrwch chi ei chyrraedd hi.

A faint o rieni oedd wedi gorfod aros o'r gwaith oherwydd bod y plant gartre' hefyd?

Yn ogystal â bod yn ofnadwy o beryglus, roedd cerdded strydoedd Llanbed yn brofiad rhyfedd yn ystod yr oerfel mawr.

Dim ond un neu ddau o bobol yma ac acw yn rhynnu ar y corneli, a'r siopau bron yn wag.

Yr unig eithriad oedd bod rhai o'r archfarchnadoedd wedi gwneud ffortiwn yn gwerthu stwff diangen i bobol mewn panic gwyllt.

A dyna gwestiwn arall - beth mae pawb am ei wneud gyda'r holl fara wedi rhewi a'r mynyddoedd o bapur toilet?

Ynghanol oes yr iechyd a diogelwch, pan nad ydi ffarmwr yn cael yfed ei laeth ei hun na'r un ris yn cael bod heb ganllaw, roedd ein ffyrdd a'n palmentydd yn cael eu gadael fel cylchoedd sglefrio.

Os maddeuwch chi'r defnydd o eiriau, mae angen ateb slic.

Felly pam na all pob cymuned ddechrau cyflogi un neu ddau o ffermwyr neu yrwyr JCB lleol i fod ar gael bob gaea' i glirio os bydd angen?

A chael cronfa halen i bob pentre', wedi'i phrynu i mewn ar y cyd gyda'r shop chips leol.

Arian

A dweud y gwir, mae yna lot o sgôp yn y syniad. Os oes pobol ddierth yn mynd yn styc yn eich ardal chi, mi allech chi godi crocbris am eu tynnu nhw allan - a dyna help i dalu'r cyflogau.

Wedyn, ar rywle fel rhiw Llanwnnen neu Lanwenog, bob tro y byddai peryg o rew, mi allech chi fynd yno gyda thancer o ddŵr i chwistrellu'r ffordd yn iawn, er mwyn gwneud rhagor o arian maes o law.

Mwya'r rhew, mwya'r elw, fel y dywed yr hen ddihareb.

Yn union fel yr oedd y gwŷr mawr yn talu am ffyrdd erstalwm, efallai y byddai'r archfarchnadoedd mawr a'u tebyg yn gweld gwerth mewn talu i glirio'r eira a'r rhew er mwyn i'r nwyddau gyrraedd y siopau.

Sainsbury's yn noddi'r gaeaf.

Ac mae'n siŵr y byddai rhai plant ysgol yn dod at ei gilydd a rhoi eu holl arian poced mewn cronfa i dalu i'r clirwyr eira gadw draw.

Mae arian i'w wneud ym mhob ffordd y gallwch chi feddwl. Dim ond tri pheth sy'n hollol sicr.

Petaech chi'n creu trefn fel hyn, fyddai hi ddim yn bwrw eira am flynyddoedd; fe fyddai rhywrai'n sicr o gwyno nad yw'r gwasanaeth yn ddigon da ac, yn ola', fyddai'r sefyllfa ddim gwirionach nag yr yw hi heddiw.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy