BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Clonc
Trec Mencap Cymru i Batagonia Trec i Batagonia
Chwefror 2009
Hanes Trec Mencap Cymru i Batagonia yn ystod Hydref 2008 gan Ieuan Roberts

Fis Mai 2007 y clywais am y trec elusennol i Batagonia yr oedd Mencap Cymru yn ei drefnu ar gyfer Hydref 2008 yng nghwmni Iolo Williams. Ond cymerodd dair wythnos imi godi digon o hyder i sôn wrth Margaret am fy mwriad i fynd. Bwriad y trec oedd cerdded a champio am bum diwrnod ym Mharc Cenedlaethol Los Glaciares, sydd fil o filltiroedd i'r de o'r Wladfa, cael diwrnod yn gweld y morfilod ar benrhyn Valdes, diwrnod yn y Gaiman, Y Wladfa, cyn dychwelyd trwy Buenos Aires. Ni chafodd groeso mawr ganddi am y golygai godi o leiaf £3,500 ond cofrestrais gyda Mencap gan fwriadu codi y rhan fwyaf o'r arian drwy werthu cynnyrch fy hobi, sef cerfio llwyau caru a gwaith turnio coed.

Mae Mencap yn elusen sydd yn cynorthwyo rhai ag anawsterau addysgol o bob oed. Mae'n gweithredu ledled Cymru ac yn berchen ac yn rhedeg cartref Gellilon, Heol Newydd, Llanbed.

Ar ôl llwyddo i gasglu mwy na'r isafswm, gwneud digon o ymarfer cerdded gyda phac trwm ar y cefn, a chasglu'r gêr pwrpasol, dyma gyfarfod yn Gatwick gyda'r deugain arall a oedd yn cymryd rhan ar yr 16eg o Hydref ac yn hedfan i El Calafate yn ne Patagonia trwy Madrid a Buenos Aires. Nid oeddwn yn edrych ymlaen at yr holl hedfan.

Roedd y rhewfryniau (icebergs) yn arnofio ar Lyn Argentina ger maes awyr El Calafate yn olygfa hudolus a chafwyd ymdeimlad o'r paith wrth yrru mewn bws am dair awr i dref fechan El Chalten a gweld guanacos, rhea, gwyddau yr ucheldir, gwartheg Hereford, defaid Merino a cheffylau ar y tir anial a oedd yn dangos yn eglur effeithiau rhewlifol ond ychydig filoedd o flynyddoedd yn ôl. Ardal sych iawn yw hon gan fod y gwynt yn dod o'r gorllewin dros fynyddoedd yr Andes ac yn gollwng y dŵr i gyd ar y mynyddoedd yn ffurf eira. Maes eira de Patagonia yw'r trydydd mwyaf yn y byd ar ôl Antartica a'r ynys Werdd a'r syndod yw bod yr ardal ond cyn belled i'r de o'r cyhydedd ag yw ardal Paris i'r gogledd ohono.

Cyrraed tref fechan El Chalten a oedd ond wedi ei sefydlu yn 1985 yn wreiddiol i sicrhau na fyddai gwlad Chile yn hawlio'r ardal. Ond gwelodd yr Ariannin ei photensial fel canolfan drecio a dringo mynyddoedd. Mae'n dal fel tref ffin, 'frontier town' gyda strydoedd llwch. Aros dros nos yn hostel Fitzroy cyn cael y cyfan y byddwn ei angen am 5 diwrnod o drecio i mewn i'r bag cefn a dechrau ar y trec ar ôl cinio a cherdded am y mynyddoedd drwy goedwig ffawydd y de, Nothofagus. Cyrraedd y camp cyntaf mewn da bryd i fynd i weld rhewlif a llyn Torre a gweld dau gondor yn hedfan yn uchel uwch y mynyddoedd. Nifer o bebyll yn y goedwig oedd y camp gyda dim cyfleusterau o gwbl ac ar ôl tamaid o fwyd, dyma fynd i'r sach gysgu gyda'r eira'n cwympo tu fas.

Codi drannoeth wrth i'r wawr dorri am 6.30 a haen o eira ar y llawr, rhoi popeth yn ôl yn y sach gefn, tamaid o frecwast a dechrau cerdded am 8.30. Cael fy nghyfweld gan Iolo a oedd yn gwneud eitem i'w raglen radio, Byd Iolo, tra'n cerdded drwy'r goedwig yn y bore a chael cawod drom o eira yn y prynhawn. Roedd yr ail gamp ger llyn Capri, yn debyg i'r gyntaf a gwelsom adar cara cara, bronfraith austral a deryn to gwddwg rufous a bu rhagor o eira eto dros nos.

Roedd y tywydd wedi gwella'r bore wedyn a braf oedd cerdded mewn ychydig o eira gydag ochr ddeheuol mynydd Fitzroy yn uchel o'n blaen. El Chalten yw ei enw Indiaidd, sef mynydd tân, gan fod y cymylau wastad fel mwg drosto. Ond cafodd yr enw Fitzroy ar ôl capten 'Y Bounty', llong Charles Darwin.

Gweld dom puma yn yr eira a chnocell y coed Magellan gyda'i ben coch llachar ar gorff du, cyn cael golygfa wych o rewlif a llyn Piedras Blancas wrth odre Fitzroy. Dod ar draws lwmpyn o bren cnotiog ffawydd y de ac i'r sach cefn ag ef, er na ddylwn.

Ond fe wnâi gofnod da o'r gwyliau ar ôl ei durnio. Ymhen naw milltir, cyrraedd camp Piedra del Fraile yn gorwedd wrth lan afon Electrico a gweld bod ystafell gymdeithasol o sinc a thân coed ynddi a bar hefyd - roeddem wedi cyrraedd yr Hilton!

Cliriodd y cymylau dros nos a gostyngodd y tymheredd i 10C yn is na'r rhewbwynt, ac roedd rhai yn oer iawn yn eu sachau cysgu, ac eraill wedi gweld Croes y De, y 'Southern Cross' tra'n gorfod codi ganol nos! Gwawriodd yn fore bendigedig a mewn dim gweld yr haul yn goleuo pinaclau'r mynyddoedd yn oren llachar.

Hwn oedd y diwrnod pwysicaf i weld y golygfeydd ar y trec a buom yn ffodus i gael y tywydd o'n plaid. Cerdded i fyny dyffryn Electrico dros nifer o farianau o gerrig a chreigiau a oedd wedi cael eu gadael gan rewlif Marconi a ymestynnai ymhellach i lawr y dyffryn.

Cael gorffwys uwch llyn Electrico gyda'i ddŵr glaswyrdd rhewlifol, a gweld y gwynt yn chwythu'r eira ffres oddi ar y pinaclau o'n cwmpas a'r awyr las yn gefndir. Sylwi ar y creiglus, y mwsoglau a'r cnwpfwsoglau ar y llawr a'r cennau duon ar y creigiau ar ffurf ffan, - yr unig fywyd a oedd yno. Dringo ychydig yn galetach nes cyrraedd llyn Polone ar uchder tua 3300 troedfedd a gweld ochr ogleddol mynydd Fitzroy yn disgleirio yn yr haul yn fur o graig igneaidd ryw 8000 troedfedd yn uwch na ni. Yr hyn a'm syfrdanodd oedd bod y rhewlifoedd ar ochr ogleddol Fitzroy, a oedd yn wynebu'r haul, wedi cilio llawer mwy na'r rhai ar yr ochr ddeheuol y gwelsom y diwrnod cynt a hynny'n dangos effaith gwres yr haul a chynhesu byd eang yn eglur.

Ar ôl cinio, dychwelyd i lawr i'r camp yn gynnar a chael cyfle i orffwys a gweld perchnogion y lle yn paratoi gwledd ar gyfer y noson honno, sef asado oen. Fe aeth i lawr yn fendigedig gyda sawl can o gwrw a chanu mawr ar ôl hynny. Noson fawr. Roedd cerdded y diwrnod olaf yn hawdd i lawr y dyffryn am 6 milltir mewn glaw ysgafn i gyfarfod â'r bysiau ac yn ôl i El Chalten. Cael cinio yno, cyn y daith bws i El Calafate, hedfan i Drelew, a bws i westy ym Mhorth Madryn.

Y bore wedyn, taith bws i Benrhyn Valdes i weld morfilod cywir y de 'Southern right whale' o borthladd Puerto Piramides ar ochr ogleddol Golfo Nuevo. Maent yn dod i'r fan honno i roi genedigaeth i'w lloi gan ei bod yn gysgodol yma a gwelsom nifer fawr o fuchod a lloi ac ambell darw yn ymddangos wrth neidio'n uchel allan o'r môr cyn gweld eu cynffon wedyn yn suddo i'r dyfnderoedd.

Ar ôl cinio arall o asado oen ym Mhunta Delgada, mynd i lawr i'r traeth i weld morfilod trwyn eliffant gyda'u lloi bach a'r teirw yn bygwth ei gilydd yn aml. O'r bws gwelsom dylluan dyrchol, mara Patagonia, ysgyfarnogod, petris Patagonia a cheiliog rhea yn edrych ar ôl nifer fawr o gywion bach. Cyn swper, cael cyfle i gerdded prom Porth Madryn i weld y gofeb i'r Gymraes.

Y bore wedyn, galw yn ardal Y Glaniad ym Mhorth Madryn i weld sawl cofeb i'r ymfudwyr ac i'r Indiaid ac yna cael cip ar weddillion yr ogofau yr oeddent wedi eu creu yn lloches yn y graig feddal ar lan y môr, cyn cychwyn ar ein taith bws i'r Gaiman. Y bwriad oedd treulio'r bore yng Ngholeg Camwy yn y Gaiman ac yna weddill y diwrnod yn y Gaiman a Threlew i gael peth o naws y Wladfa cyn hedfan am Buenos Aires am 11.00 y nos.

Ond cawsom siom fawr pan glywsom bod awyren y noson honno wedi ei chanslo ac y byddai'n rhaid mynd am 1.00 y prynhawn hwnnw. Cyrraedd Coleg Camwy a chael ein gwefreiddio wrth weld y plant Indiaidd â diddordeb am Gymru a'r Gymraeg yn tynnu dagrau i'n llygaid. Cyflwynwyd iddynt gopi o'r Gwyddoniadur, lamp mwynwyr a llwy garu gennyf fi, ynghyd â nifer o lyfrau Cymraeg. Ond mewn dim o dro rhaid oedd gadael am Buenos Aires.

Aeth nifer ohonom i weld arddangosfa Tango gyda'r nos yn dilyn pryd o stêc, fel y dylai stêc fod, yn fwy na modfedd o drwch gyda haenen dda o fraster, yn toddi yn ein cegau. Mae'r Archentwyr yn gwybod sut i goginio cig gan ddechrau gyda bridiau sydd yn aeddfedu'n araf fel yr Henffordd, ac felly yn llawn blas.

Treuliwyd y diwrnod olaf o amgylch y ddinas gan weld cofeb rhyfel y Malvinas, yr Eglwys Gadeiriol ac ardal ddiddorol a lliwgar La Boca a Caminito, a gwneud peth siopa ar gyfer anrheg neu ddwy. Ond rhaid oedd bod yn ofalus rhag drwgweithredwyr - cafodd pedair o'r merched brofiad o ddwyn! Hedfan yn ôl am Gymru fach dros nos.

O edrych yn ôl, roedd yn brofiad enfawr ond mae sawl peth yn serennu i mi.
• Maint y wlad a chymaint ohoni yn anial o gymharu â Chymru.
• Er ehangder y goedwig yn y mynyddoedd, dim ond tair rhywogaeth o goed oedd yno a'r rheiny o'r un teulu
• Cyfarfod â'r athrawon a'r plant yng Ngholeg Camwy
• Gweld y morfilod a'r morloi
• Os am gig, ewch i'r Ariannin
• Yn fwy na dim - rwyf yn gyfarwydd â gweld effeithiau rhewlifiant ugain mil o flynyddoedd yn ôl ar dirwedd Cymru ond gwelais y peth yn digwydd yn y presennol o flaen fy llygaid - gwefreiddiol! "

Erthygl gan Ieuan Roberts


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy