BBC HomeExplore the BBC

IAU
26ain Tachwedd 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Clonc
Llun o aelodau'r gymdeithas hŷn yn eu hen wisgoedd. Dathlu Ffair Wenog
Chwefror 2005
Bu dathlu Ffair Wenog yn llwyddiant ysgubol ym mhlwyf Llanwenog.

Bydd Nos Sadwrn y 15fed o Ionawr yn noson a gofir yn hir ym mhlwyf Llanwenog. Dyma'r noson yr atgyfodwyd "Ffair Santes Wenog" yn Ysgol Llanwenog. Achlysur oedd hwn a drefnwyd gan 'Bwerdy Llanwenog', dan arweiniad Euros Lewis, er mwyn rhoi gwybodaeth i'r trigolion lleol am yr hyn sy'n digwydd yn y plwyf.

'Roedd yr ymateb yn syfrdanol gyda'r ysgol yn orlawn. Roedd gan bob mudiad yn y plwyf fyrddau arddangos o amgylch yr ystafell.

Roedden nhw i gyd yno - Yr Eglwys a'r Capeli lleol, y W.I. a'r Henoed, Y Cyngor Plwyf, Ysgol Cwrtnewydd a Llanwenog ynghyd â'r Ysgol Feithrin, Clwb Cledlyn a C.Ff.I. Llanwenog, gyda sawl stondin yn dangos crefftau lleol. Roedd car ralio Dorian Rees, Tanrhos yn atyniad mawr i bob oedran.

Cafwyd eitemau gan gôr unedig y ddwy ysgol ac aelodau'r C.Ff.I. Rhoddodd Eifion Davies frasluno hanes Ffair Wennog, a chafwyd cyfieithiad ar y pryd i'r di-Gymraeg yn y gynulleidfa. Roedd y cyfieithu yng ngofal uned 'Cymraeg i Oedolion', Felinfach a chawsant gyfle hefyd i ledaenu gwybodaeth am gyfleoedd i ddysgu'r iaith yn y sir.

Roedd awyrgylch hyfryd yn yr ysgol a chyfle am wydraid o win a chaws, neu gwpanaid o de a chacen. Roedd plant a ffrindiau'r ddwy ysgol wedi bod yn ddiwyd yn gwneud calonnau a dynion sinsir ac roedd y rhain ynghyd â 'loshin du' a bara sinsir ar werth, a'r arian yn mynd at Apêl y 'Tsunami'.

Ar ddiwedd y noson, diolchodd Geraint Davies, Cadeirydd y Pwerdy, i bawb a gyfrannodd mewn unrhyw ffordd at lwyddiant arbennig y noson.

Darllenwch anerchiad Eifion noson Ffair Santes Wenog

Cyfrannwch

Meirion Jones o Ddinas Mawddwy
Dwi'n aelod o Gwmni Theatr Maldwyn ers bron i dair blynedd. Rwyf wedi dysgu llawer o sgiliau ac wedi cael cyfleon a profiadau byth gofiadwy!Mae'r sioe Llwybyr Efnisien newydd cael ei gwneud ac yn falch iawn o fod yn ran o'r cwmni!Hoffwn ddiolch yn fawr i Penri,Linda a Derec!!!Maent wedi rhoi cyfleon gwych i ni ac mae pawb o Faldwyn ai pob cyfnogaeth tu ol i'r cwmni!!!!

Lynwen Roberts o Llangadfan
Gai jyst ddeud pa mor FFANTASTIG oedd y sioe "Llwybr Efnisien" a berfformiwyd gan Ysgol Theatr Maldwyn yn ddiweddar. Mi fuaswn i'n argymell i unrhywun weld y sioe yma yn eich theatr lleol neu i brynu'r DVD. Grêt! 11 allan o 10!XXX

Llio Elin o Tal y Llyn
Rydw i hefyd yn aelod o Ysgol theatr maldwyn. Rydan ni gyd yn edrych ymlaen i berfformio'r sioe diweddaraf sef 'Llwybr Efnisien'... Mae yna llawer o waith ac ymarferion wedi rhoi i fewn i'r sioe yma felly diolch yn fawr i Penri, Linda, Derec a Mel am eu gwaith arbennig!!.

Sioned Besent o Pennal
Dwin aelod o Cwmni Theatr maldwyn ers blwyddyn 8!!! Mae'n gret! Fi methu aros tan den ni'n perfformio ein sioe nesaf. Llwybr Efnisien!! . . . diolch yn fawr i penri.. linda.. a Mel!!!

Luke McCall o Bala
Dwi'n aelod o gwmni theatr maldwyn ers mis medi 2006, mi wnes i fwnhau gwneud y cyngerdd 'dolig, ac yn edrych ymlaen at mis Mai, pryd fyddwn yn perrformio sioe gerdd newydd or enw "Llwybr Efnisien" diolch yn fawr i Penri, Linda a Mel am ein dysgu!

Rhys Robets o Tregynon
Wnes i ymuno a Theatr Maldwyn yn mis Medi ac wedi cael llawer o hwyl yn cwrdd a pobl newydd a paratoi am y cyngerdd Nadolig. Dwi'n edrych ymlaen at wneud ein sioe yn Mis Medi.

Derek Pugh o Gaergrawnt
Mae gen i cryn diddordeb yn Rheilffordd y Cambrian. Roedd fy nhadcu yn gweithio ar y Cambrian a fuodd fy nhad yn gweithio ar y rheilfford hefyd. Hanesydd yng Nghaergrawnt ydw i. Fyddai lawr yn yr ardal yr hen Cambrian wythnos yma.

Gareth Ellis o Groesoswallt`
Rydw i wedi bod yn aelod o Gwmni Theatr Ieuenctid Maldwyn yn y blwyddyn diwethaf. Mwynhaeais yn fawr a cafais lawer o hwyl gyda fy ffrindiau yn perfformio.Roedd y sioeau yn werth yr ymarfer i gyd! Roeddent yn gret! Roeddwn wedi siomi bod yr un hyn mor bell i ffwrdd achos dydw i ddim yn gallu cyrraedd yno! Er hynny,diolch am yr hwyl i gyd!

Catrin Evans o Llangynog
Dwi'n aelod o Gwmni Theatr Ieuenctid Maldwyn! Mae'n ardderchog!! Dwi 'di neud llawer o ffrindiau ac yn ddiolchgar am y cyfle i gael perfformio. Dwi methu aros tan Mai (dyna pryd fyddwn ni'n gwneud ein sioeau.)Felly diolch yn fawr i pawb sydd yn ein dysgu bob nos iau!


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy