BBC HomeExplore the BBC

IAU
26ain Tachwedd 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Clonc
Dylan ac Eilir Llwyddiant i Gwmni Ifanc Lleol
Chwefror 2004
Gyda chefnogaeth Y Ffatri Fenter a NatWest, mae 'na gynllun cyffrous i annog agwedd bositif ymysg pobl ifanc sydd am sefydlu busnes neu fenter arall.

Eleni, yn ennill y brif wobr o £800 roedd Dylan Davies o Drefach ac Eilir Williams o Gwrtnewydd a'r ddau yn aelodau o G.Ff.I. Pontsian. Mae'r ddau fentrus yma wedi sefydlu cwmni gwaith coed a thoi llwyddiannus. Yn masnachu fel Williams & Davies, mae Dylan ac Eilir wedi dangos sut y gall busnes bach ehangu a magu enw heb ei ail yn yr ardal. Cyn belled, maen nhw wedi gweithio i'r awdurdod lleol yn ogystal â chwmnïau adeiladu eraill sydd am fanteisio ar eu harbenigedd.

Yn siarad ar ran y pedwar beirniad, dywedodd Iestyn Pritchard, Menter a Busnes fod y gystadleuaeth eleni yn dangos ystod eang o syniadau.

"Mae'n galonogol iawn fod y cystadleuwyr eleni mor frwd am gyflogi'n lleol er mwyn helpu'r busnesau i ehangu. Mae hyn yn dangos yn glir i ni pa mor bwysig yw'r busnesau bach yma i economïau lleol."

Llongyfarchiadau gwresog i'r ddau ohonynt.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy