BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Hanes Lleol

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Canolfan Edward Richard Hanes Ysgol Ramadeg Edward Richard
Gwyn Griffiths yn hel atgofion am Edward Richard o Ystradmeurig, a'r ysgol ramadeg sydd bellach wedi ail agor fel canolfan gymunedol.
Pan oeddwn yn blentyn ysgol yng Ngheredigion ychydig i'r gogledd o Dregaron daeth hen lanc a dreuliodd oes yn offeriaid yng Ngwlad yr Haf i ymddeol at ei chwaer ar fferm oedd yn ffinio â ni.

Yr oedd y Parch Tom Richards yn ŵr dysgedig a diwylliedig. Tori rhonc mewn sir Ryddfrydol, ac yr oedd stori ei fywyd yn ddiddorol. Yn fachgen ysgol cafodd niwed i'w goes yn chwarae pêl-droed, pechod mawr yng ngolwg ei rieni Calfinaidd. Gymaint oedd ei ofn o'r storm anochel fel na soniodd wrth ei rieni am y niwed am bythefnos. Erbyn hynny yr oedd y boen yn annioddefol.

Pan aed ag ef at y meddyg darganfuwyd iddo dorri asgwrn ei goes ac nid oedd ddewis ond torri ei goes i ffwrdd. Penderfynwyd na fyddai bachgen gyda choes bren o fawr werth ar y fferm.

Cefnodd y teulu ar anghydffurfiaeth a throi at yr eglwys ac anfonwyd Tom i hen Ysgol Ramadeg Edward Richard, Coleg Sant Ioan fel y'i gelwid erbyn hynny, ym mhentref Ystrad Meurig. Aeth oddi yno i Rydychen ac yna i fod yn offeiriad yn Lloegr.

Treuliais nosweithiau'n gwrando ar Tom Richards yn hel atgofion am Ystrad Meurig, ac yn rhamantu am straeon chwedlonol am y coleg cyn ei ddyddiau ef.

Agoriad y ganolfanPan ddarllenais fod hen ysgol Edward Richard i'w hagor fel canolfan gymunedol yn ddiweddar, yr oedd yr atynfa'n ormod. Roedd yr hen adeilad, bellach wedi ei adnewyddu'n hardd a chwaethus, dan ei sang o gyn-ddisgyblion, ardalwyr, hen gyfoedion o Ysgol Sir Tregaron, perthnasau, a phobl ddwad.

Cafwyd agoriad swyddogol teilwng gydag anerchiad difyr y Parch Richard Jones, Cegidfa, Y Trallwng - ŵyr i John 'Latin' Jones prifathro lliwgar y coleg o 1870 hyd 1915. John Latin
Mab gof Swyddffynnon, wedi ei eni ym 1842 oedd John Latin. Treuliodd flynyddoedd ei ieuenctid gydag ewythr yn Ynys y Berfedd, tyddyn ar ddarn o wlad yn ymwthio i ystlys orllewinol Cors Caron.

Cafodd ei anfon i Goleg Ystrad Meurig ac yn ôl a glywais gan Tom Richards byddai'n gwneud ei waith cartref yng ngegin Ynys y Berfedd yn gorwedd ar ei hyd ar lawr yn darllen a sgrifennu yng ngolau'r tân mawn.

Argymhellwyd ei fod yn cynnig am ysgoloriaeth i Goleg yr Iesu, Rhydychen, ym 1862. Anfarwolodd ei hun yn yr arholiad drwy ysgrifennu ei draethawd mewn Lladin. Nid oedd yn or-hyderus o'i Saesneg!

Yng ngeiriau Tom Richards, "Roedden nhw'n credu bod Cicero wedi atgyfodi!"

Ail ddosbarth gafodd yn y Clasuron ym 1864, ond yn ôl clasur o hanes lleol George Osborne-Jones, Edward Richard of Ystrad Meurig,a gyhoeddwyd ym 1934, buasai wedi cael dosbarth cyntaf onibai bod ei Saesneg hytrach yn simsan.

Yr oedd yn ffyddlon iawn i'r Gymraeg a defnyddiai hi'n gyson fel athro, yn arbennig mewn gwersi cyfieithu Lladin a Groeg lle byddai cystrawen neu air Cymraeg yn daclusach na'r Saesneg.

Yn ôl Osborne-Jones, er bod disgyblion yn dod i'r ysgol o'r de diwydiannol, o'r gogledd-ddwyrain a hyd yn oed o Loegr gwrthodai gynnal gymaint ag un gwasanaeth Saesneg yng Nghapel Edward Richard.

Bu'n ffyddlon i egwyddorion sylfaenydd yr ysgol, Edward Richard, ac fel ei ragflaenydd enwog yr oedd yn englynwr graenus a dywed Osborne-Jones yn ei gyfrol iddo lunio cyfieithiad o Onward Christian Soldiers Sabine Baring-Gould oedd lawn cystal â'r gweiddiol.

Ysgol Edward Richard
Sefydlodd Edward Richard ei ysgol ym 1734, er, mae'n debyg y bu yn y pentref ysgol cyn hynny. Yr oedd, ynghyd â'r Morrisiad a Goronwy Owen o Fôn, Ieuan Brydydd Hir a Iolo Morganwg yn un o feirdd disglaer traddodiad clasurol Cymraeg y ddeunawfed ganrif.

Er i Lewis Morris, y bu ei ddau fab yn ddisgyblion yn ysgol Edward Richard, awgrymu ei fod hyd yn oed fwy o awdurdod ar Ladin a Groeg nag ar ei iaith ei hun!

Yr oedd Ieuan Brydydd Hir ac Edward Richard o'r un fro, Ieuan o gyffiniau Swyddffynnon ac Edward Richard o Ystrad Meurig. Yn ôl fy nghyfaill Raymond Osborne-Jones (nai George Osborne-Jones), Ieuan Brydydd Hir ddysgodd Edward Richard i gynghaneddu. Y disgybl yn dysgu'r athro.

Yr oedd Ieuan, wedi'r cwbl, yn fardd gyda'r gorau, a mwy fyth o hynafieithydd.

Yr oedd gwybodaeth Edward Richard o'r clasuron yn ddihareb. Y mae stori amdano'n mynd i Landrindod ar ei wyliau a chyfarfod athro o Rydychen. Buan y trodd y drafodaeth at y clasuron a'r ddau yn mwynhau ei hunain yn fawr.

Y canlyniad fu i'r gŵr o Rydychen dderbyn her i anfon rhai o'i fyfyrwyr disgleiriaf i Ystrad Meurig i herio disgyblion Richard mewn gwybodaeth o Ladin a Groeg.

Fel y clywais y stori gan Tom Richards, pan ddaeth bechgyn Rhydychen oddi ar y trên yng ngorsaf Ystrad Fflur yr hyn a welsant oedd hanner dwsin o ddynion ifanc wrth eu gwaith yn codi clawdd ac yn sgwrsio'n hamddenol mewn Lladin. "Arswyd y byd," meddent, "mae gweison ffermydd yn siarad Lladin yma." Aethant yn ôl ar y trên nesaf heb fynd yn agos i Ystrad Meurig.

Yn ôl George Osborne-Jones yr oedd Edward Richard a'r gŵr o Rydychen wedi betio can gini ar ganlyniad yr ornest. Yn ôl y stori fel y mae'n ei lyfr roedd y bechgyn o Rydychen yn cerdded o'r orsaf pan welsant weithiwr ffordd. Gofynnwyd iddo am y ffordd i Ystrad Meurig ac atebodd hwy mewn Lladin.

Aethant ychydig ymhellach a gweld dyn ffordd arall. Pan ofynnwyd yr un cwestiwn i hwn cawsant eu hateb mewn Groeg. Wedi cyrraedd y coleg yr oedd disgyblion Richard yn brysur yn astudio'n galed o flaen tanllwyth o fawn.

Awgrymodd Richard ei bod yn cychwyn ar unwaith. Ond yr oedd hyder bechgyn Rhydychen wedi ei sigo. "Ond mae gweithwyr cyffredin y parthau hyn yn medru sgwrsio mewn Lladin a Groeg," meddent.

"Ydynt yn burion, lawn cystal â'u Cymraeg" atebodd Richard, "ond cofiwch dydyn nhw ddim yn rhy dda mewn Saesneg."

Penderfynodd bechgyn Rydychen dalu'r can gini ac anghofiwyd am y gystadleuaeth.

Cauwyd yr ysgol ym 1973. Gwych gweld yr adeilad hardd ar agor unwaith eto i wasanaethu ardaloedd Ystrad Meurig, Swyddffynnon a Thyngraig. A braf fu cael hel atgofion a chlywed straeon am ysgol ac ardal cyforiog o hanes a thraddodiadau.

Gwyn Griffiths



Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy