BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Hanes Lleol

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
© Amgueddfa Llanidloes Pryce-Jones: Arloeswr y Diwydiant Archebu Drwy'r Post
Gyda tua 10 miliwn o ddefaid yng Nghymru, 'dyw hi ddim yn syndod bod ffermio defaid yn fusnes mawr.
Urdd grefyddol y Sistersiaid oedd y cyntaf i arloesi'r diwydiant gwlân yng Nghymru, diwydiant a ddaeth, erbyn y 13eg Ganrif yn un o'r diwydiannau pwysicaf yng Nghymru.

Dros y canrifoedd, drwy gynnydd mewn technoleg, cysylltiadau peirianyddol a chludiant, fe ehangodd y diwydiant, ac erbyn y 19eg, roedd y Drenewydd, a fu'n dref farchnad ers 1279, yn ganolfan allweddol.

Yma y sefydlodd Pryce Pryce-Jones ei fusnes gwlân ei hun, gan werthu'r clytiau gwlân drwy'r post. Hwn oedd y busnes gwerthu-drwy'r-post cyntaf yn y byd.

Ffeithiau tirwedd ac ansawdd pridd Cymru sy'n gyfrifol am bwysigrwydd y diwydiant gwlân yma. Fel y mae ystadegau Adran Amaeth a Materion Gwledig Llywodraeth y Cynulliad yn dangos, mae tir Cymru ar y cyfan yn uchel, y mae'n cael llawer o law ac mae'r pridd yn wael. Mae 80% o dir amaethyddol Cymru yn cael ei ystyried 'o ansawdd gwael'. Yn Lloegr, dim ond 34% o'r tir sy'n cael ei gyfrif felly.

Ond, er bod tir Cymru'n anaddas ar gyfer cnydau âr, mae'n dir pori perffaith i wartheg a defaid. Mae'r defaid yn arbennig o werthfawr i ucheldiroedd Cymru, gyda 90% o'r diadelloedd magu i'w cael mewn ardaloedd sydd wedi eu dynodi'n swyddogol fel rhai 'Llai Ffafriol'.

Mae llawer o dir Powys yn syrthio i'r categori hwn, a Phowys sydd â'r nifer fwyaf o ddefaid yng Nghymru. Nid rhyfedd, felly, yw mai'r sir hon, o ganol y 16eg Ganrif hyd ddiwedd y 19eg Ganrif, oedd y ganolfan bwysicaf i'r diwydiant gwehyddu Cymreig.

Tri chyfnod y diwydiant

Gellir rhannu datblygiad y diwydiant gwlân yn dri chyfnod. Yn ystod y cyntaf, cyfnod y diwydiannau cartref, roedd cardio (gwneud i'r ceinciau o wlân i gyd orwedd i'r un cyfeiriad cyn eu nyddu'n edafedd), nyddu a gwehyddu gwlân yn waith ar gyfer misoedd y gaeaf, i deuluoedd a fyddai'n treulio'r haf yn gweithio ar eu ffermydd. Yn y 18ed Ganrif gallai'r rhan fwyaf o fythynwyr fforddio troell, ond wrth i dechnoleg symud ymlaen ac i fframiau gwau ddod yn fwy cymhleth, cafodd cardio â llaw ei ddisodli gan y peiriant cardio, a'r datblygiad hwn a orfododd y diwydiannau cartref i symud i'r ail gyfnod.

Yr ail gyfnod oedd cyfnod y siopau gwehyddu. Dyma pryd y datblygodd y Drenewydd fel un o ganolfannau pwysicaf y diwydiant gwlân, gan ddisodli marchnad gwlanen y Trallwng. Roedd gwehyddion yn gorfod talu rhent afresymol o uchel i'r gwneuthurwyr gwlanen er mwyn cael byw ar loriau isaf eu hadeiladau tri-neu-bedwar-llawr. Ar y lloriau uchaf fe geid peiriannau oedd yn fwyfwy soffistigedig, tebyg i beiriannau nyddu, mewn gweithdai mawr agored.

Cynyddodd poblogaeth y dref fwy na phum gwaith mewn 60 mlynedd, gan gyrraedd 4,550 erbyn 1831, gan roi Caerdydd yn y cysgod - dim ond 1,870 o bobl oedd yng Nghaerdydd yn ôl cyfrifiad 1801.

Ond nid oedd popeth yn hawdd i'r Drenewydd. Bu cyfnodau o ddirwasgiad a lesteiriodd dwf a ffyniant y diwydiant lleol. Ym 1838 bu'r Drenewydd yn gartref i gyfarfod cyntaf y Siartwyr yng Nghymru, gyda'r gweithwyr yn mynnu amodau gwell a hawliau dinesig. Nid oedd hwn yn gais afresymol o ystyried i'r gweithwyr gael eu talu mewn tocynnau oedd dim modd eu gwario heblaw yn siop y cynhyrchwyr!

Yn ystod y trydydd cyfnod gwelwyd datblygu ffatrïoedd mawrion yn y Drenewydd gyda grym ager yn eu pweru. Bu ager yn disodli'r hen weithfeydd oedd yn dal i ddefnyddio pŵer dŵr. Dioddefodd y diwydiant gwlân yn Sir Drefaldwyn oherwydd cystadleuaeth oddi wrth y trefi tecstilau yn Swydd Gaerhirfryn a Gorllewin Swydd Efrog, lle cynhyrchwyd gwlanen yn rhatach.

Menter Pryce-Jones

Cafodd y dirwasgiad ei leddfu rhywfaint ar ôl i'r rheilffordd agor rhwng Llanidloes a'r Drenewydd ym 1859, gan wella cysylltiadau trafnidiaeth yr ardal. Hon oedd y flwyddyn pan wnaeth Pryce Pryce-Jones, a anwyd yn Llanllwcharian, adael y busnes defnyddiau lle, bu'n gweithio ers yn 12 oed, er mwyn sefydlu ei siop ddillad ei hun yn y Drenewydd.

Siop ddillad wahanol iawn oedd hon. Anfonai Pryce-Jones batrymau a thaflenni o Wlanen Gymreig a ddarparwyd gan wneuthurwyr a masnachwyr gwlân lleol i foneddigion lleol. Byddai eu harchebion wedyn yn cael eu hanfon atynt, yn gyntaf ar goets fawr ac yna ar drên. Roedd hon yn ffordd hwylus o siopa i bobl mewn lleoliadau anghysbell, gan arbed iddyn nhw'r amser a'r ymdrech o deithio i'r dre.

Roedd y busnes yn llwyddiant ac fe enillodd nifer o wobrau yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru. Erbyn 1880 roedd ganddo dros 100,000 o gwsmeriaid, yn cynnwys Florence Nightingale a'r Frenhines Victoria, ac fe ddefnyddiwyd eu henwau'n aml mewn hysbysebiadau.

Wrth i'r rhwydwaith rheilffordd ehangu, fe ehangodd y busnes hefyd, gan werthu gwlanen Cymru i weddill Ewrop, America ac yn y pen draw i Awstralia. Darparodd cwmni'r 'London and North Western Railway Company' 3 fan cario parseli arbennig ar ei gyfer i deithio ar hyd y llinell rhwng y Drenewydd ac Euston. Roedd y busnes yn gallu addo y byddai nwyddau yn cyrraedd y diwrnod canlynol yn y rhan fwyaf o Loegr.

Symudodd y busnes i adeiladau helaethach, ac fe symudodd eto ym 1879 gan adeiladu Warws Cenedlaethol Cymreig, ger gorsaf reilffordd y Drenewydd. Ym 1895 adeiladodd ffatri gyferbyn ac ym 1901 fe ychwanegodd ei swyddfa bost ei hun er mwyn ymdopi â'i fasnach cynyddol. Cafodd ei wobrwyo am ei ymdrechion ym 1887 pan gafodd ei urddo'n farchog gan y Frenhines Victoria.

Ar ddiwedd y 19eg Ganrif roedd y melinau gwlân unwaith eto'n teimlo effaith dirwasgiad. 'Doedd y glo a roddai bŵer i'r peiriannau ddim ar gael yn lleol, ac roedd y gost o'i gario o bell yn cael ei adlewyrchu ym mhris y brethyn. Heb gyswllt rheilffordd uniongyrchol o'r Drenewydd i Gymoedd De Cymru, roedd rhaid i'r gwneuthurwyr lleol anfon eu gwlanen i'r Gogledd lle roedd y gystadleuaeth yn dal yn llym. Yn y pen draw Rochdale oedd yn cynhyrchu'r rhan fwyaf o Wlanen "Cymreig" Pryce-Jones.

Ym 1912 bu'n rhaid i ffatri fwyaf y Drenewydd, Melin y Cambrian, gau, oherwydd difrod helaeth yn dilyn tân. Ar ôl hynny doedd y Drenewydd ddim bellach yn ganolfan o bwys ar gyfer y diwydiant gwlân a mudodd nifer o weithwyr i geisio gwaith mewn llefydd eraill. Serch hynny, cafodd cwmni Pryce-Jones lwyddiant o hyd nes i ddirwasgiad y 1920au a'r 1930au roi diwedd ar ei lewyrch. Gwerthwyd y busnes i gwmni o Lerpwl ym 1938.

Effaith yr arloeswr o Gymro

Nid oes modd gorbrisio'r effaith a gafodd Pryce-Jones yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Adfywiodd y diwydiant gwlân lleol, creodd swyddi, trefnodd ddigwyddiadau lleol ar gyfer ei weithwyr, ac, wrth gwrs, fe sefydlodd y diwydiant archebu drwy'r post.

Yn ôl adroddiad a gomisiynwyd gan y Sefydliad Marchnata Uniongyrchol, cafodd 1.3 biliwn o eitemau eu harchebu drwy'r post yn 2002 ac gwerth y diwydiant yn y D.U. yn unig oedd £8.25 biliwn.

Mae syniad chwyldroadol Pryce-Jones o wneud yn sicr bod ei nwyddau yn gallu cael eu harchebu gan bawb a phobun, ymhobman, wedi gafael ac mae wedi cael ei ddatblygu ar hyd a lled y byd. Ond heddiw, nid yw dewis y cwsmer wedi ei gyfyngu i Wlanen Cymreig mewn catalog!

  • Gwefan Y Drenewydd


  • Cyfrannwch

    S.E.Jones
    Tybed oes ganddoch unrhyw wybodaeth gyfoes neu hanesyddol, hynny yw Lluniau ag ati gallwch anfon i'r ysgol yma i'n helpu efo gwaith cwrs yn ystod y flwyddyn. Gyda diolch S.e.jones

    Mae gennym adrannau Hanes Lleol ar bob gwefan Lleol i Mi (i bob rhan o Gymru), gydag erthyglau a lluniau newydd yn cael eu hychwanegu yn gyson. Gan mai cyfrannwyr sydd yn ysgrifennu ein herthyglau yn bennaf, nid oes modd i ni anfon gwybodaeth benodol at ysgolion neu unigolion. Mae'r deunydd ar gyfer y wefan hon yn unig. Diolch yn fawr am eich ymholiad. Gol.


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

    Sylw:




    Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


    0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy