BBC HomeExplore the BBC

MAWRTH
8fed Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Hanes Lleol

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Traeth Tresaith © Bwrdd Croeso Cymru Adnabod Ardal - de-orllewin Ceredigion
Hanes de-orllewin Ceredigion a'r cylch gyda John Meirion Jones yn esbonio hanes a thraddodiadau'r ardal a gysylltir yn gryf gyda'r môr.

Mae'r ardal hon yn cwmpasu de-orllewin Ceredigion o'r Ferwig ar aber yr afon Teifi yn y de i bentref Llanarth yn y gogledd.

Ymestynna hefyd o'r pentrefi glan môr gorllewinol - Aberporth, Tresaith, Penbryn, Llangrannog, Cwmtydu a Chei Newydd - hyd at Dalgarreg, Ffostrasol, Coedybryn, Beulah, Llechryd a Llandygwydd i'r dwyrain.

O fewn ei therfynau amhenodol mae ei hieithwedd, ei chystrawen ieithyddol a'i thafodiaith yn gymharol gyson.

Amaethyddiaeth
'Mae cefn gwlad yn seiliedig ar fywyd amaethyddol. Lle'r oedd ffermydd bychain teuluol, bellach mae unedau mwy o faint. Ond nid ydynt hwythau yn medru cynnal teuluoedd mawrion. Gyda llawer o'r disgynyddion yn derbyn addysg uwchradd a phrifysgol maent yn symud o'r ardal. Gedy hyn lai o alwadau ac eisiau tai ar Gymry cynhenid ac mae tramorwyr yn symud mewn ac yn newid gwead a diwylliant Cymreig yr ardaloedd.

Yn yr ysgolion cynradd yn enwedig ar hyd yr arfordir mae canran uchel iawn o fewnfudwyr ar y cofrestrau. Ac er gwaith ymroddgar yr athrawon ychydig iawn o'r disgyblion sydd yn aros ac yn ymdoddi'n naturiol i'r gymdeithas.

Mae'r mewnlifiad yn fwy ar hyd yr arfordir, ac mae llawer o'r newydd ddyfodiaid o oedran ymddeol ac yn eu hamser yn mynd i ddibynnu'n drom ar y gwasanaethau cymdeithasol.Llangrannog © Bwrdd Croeso Cymru Twristiaeth tymhorol yw prif ddiwydiant y pentrefi morwrol er bod canolfan dechnolegol ac amddiffyn Aberporth, pysgota a ffatri bysgod Cei Newydd a gwaith swyddfa a swyddi proffesiynol y trefi fel bancwyr, athrawon, cyfreithwyr yn cyflenwi gofynion yr ardal gyfan.

Bellach nid yw llawer o'r cymunedau bychain yn medru cynnal gweithgareddau diwylliannol trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg. Daw llawer o'r brodorion i ganolfannau canolog. Dyma un o'r rhesymau tu ôl sefydlu'r papur bro, Y Gambo. Mae rhif y Cymry Cymraeg yn cwympo, mae llai yn mynychu capel ac eglwys. Mae eisiau gwaith a chartrefi o fewn cyrraedd pocedi y boblogaeth leol.

Eglwysi'r Saint
Mae dylanwad hanesyddol y saint cynnar yn drwm ar yr ardal. Er enghraifft, sefydlwyd eglwysi i Pedrog, Crannog, Tysilio, Ina, Cynllo, Dewi, Cynwyl, Tygwydd a Mihangel, ac yn sgil ymneilltuaeth gwelir patrwm eang o gapeli hardd eu gwneuthuriad dros y fro.

Un o'r elfennau pwysicaf yw'r traddodiad morwrol fu mor nodweddiadol o'r arfordir dros y ddau gan mlynedd a thu hwnt. Mae olion cestyll a chaerau cynnar ar hyd yr arfordir yn dangos fod llwythi wedi poblogi'r ardaloedd trwy'r oesoedd.

Odyn galch MwntBu diwydiant adeiladu llongau bron ymhob pentref ac mae olion odynnau calch i'w gweld hefyd. Doi'r calch i fewn mewn llongau bychain cyn ei losgi a'i wasgaru ar y tiroedd asid. Yn ystod y ddau gan mlynedd diwethaf aeth llawer o fechgyn y broydd i'r môr, rhai ohonynt i ddringo'n gapteiniaid a threulio eu hoesau yn morio'r cefnforoedd.

Un o'r enwocaf oedd y Capten Jac Alun, un o deulu'r Cilie, a oedd yn fardd ac enillydd ar yr englyn dair gwaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Aeth deg o fechgyn y Cilie i'r môr. Heddiw nid oes bron neb.

Bois y Cilie
Mae'r broydd yn enwog am eu beirdd a'u llenorion. Cofnodir beirdd y Cilie (gyda S.B. Jones yn enillydd coron a chadair y Genedlaethol ac Alun yn derbyn yn derbyn Gwobr yr Academi Gymreig am ei lyfr o farddoniaeth), T. Llew Jones (awdur a bardd), Dic Jones (awdur, bardd, beirniad ac enillydd cyson yn Eisteddfodau'r Urdd a'r Genedlaethol), Donald Evans (bardd dwbl-dwbl Coron a Chadair yr Eisteddfod Genedlaethol), amryw o dimau'r 'Talwrn', Emyr Davies (Aberporth), John Lloyd Jones (Llwyndafydd), Idris Reynolds (enillydd Cadair y Genedlaethol ddwy waith) a'r brodyr James.

Mae caniadaeth y cysegr, canu corawl (e.e. Ysgol Gerdd Ceredigion, Côr Bro Nest, Ar Ôl Tri, Côr Penparc, Côr Blaenporth a Chôr Pensiynwyr Aberteifi a'r Cylch) a cherdd dant yn gysylltiedig â'r fro. Gwnaeth Aelwyd Aberporth dan arweiniad y Parch. a Mrs Tegryn Davies waith arloesol a buont yn llwyddiannus droeon yn Eisteddfodau'r Urdd.

Perthyn i'r ardal dirwedd o olygfeydd trawiadol ac mae'r arfordir gyda'r mwyaf prydferth yng Nghymru a thu hwnt.

John Meirion Jones



0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy