BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Hanes Lleol

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Torlun pren o gyfarfod i addoli'r Crynwyr o'r enw '12 Crynwr yn hollol llonydd' © Llyfrgell Cymdeithas Grefyddol y Cyfeillion O Lanbrynmair i Bennsylvania
I nifer o fewnfudwyr y 18fed a'r 19eg Ganrif roedd y Byd Newydd yn cwrdd â'u gobeithion ac yn well na'u holl ddisgwyliadau.
Galwad Gobaith nid llawnder
Rhyddid crefyddol, safon bywyd gwell, y cyfle i weithio iddyn nhw'u hunain, i fod yn berchen ar dir a datblygu cymunedau llwyddiannus, yn rhydd oddi wrth hualau'r penarglwyddi ffiwdal a ffiniau dosbarth.

Y mynyddoedd cambrian ger Llanbrynmair Er hyn, i drigolion pentref bychan ym Mhowys, Llanbrynmair, nid felly oedd hi. Er i nifer ohonyn nhw aros yn America, ni wireddwyd eu gweledigaeth o baradwys eidylaidd, ar ffurf tref o'r enw Beulah. Wedi ei lesteirio gan bwysau o'r tu allan megis yr hinsawdd, y lleoliad ac, yn olaf, gwleidyddiaeth, ni ddatblygodd Beulah i fod yn baradwys fel roedden nhw wedi breuddwydio amdano, ac erbyn hyn nid yw'n llawer mwy nag atgof. Ond beth aeth o'i le?

Roedd yr ymfudwyr o Lanbrynmair i gyd yn anghydffurfwyr, nifer ohonyn nhw'n Grynwyr, a benderfynodd bod bywyd yn annioddefol ym Mhrydain yn ystod y 18fed Ganrif. George Fox, sylfaenydd ffydd y Crynwyr © Llyfrgell Cymdeithas Grefyddol y Cyfeillion Roedd George Fox, sylfaenydd crefydd y Crynwyr, yn credu bod rhywfaint "o Dduw ym mhob person". Mae ffydd y Crynwyr wedi ei seilio ar y cynsail y gall bawb gyfathrebu â Duw, heb yr angen am Eglwysi, swyddogion eglwysig na gwasanaethau yn cynnwys sacramentau.

Roedd hon yn safbwynt chwyldroadol yn y 17eg Ganrif oherwydd yr adeg honno roedd yr Eglwys yn agos iawn at y frenhiniaeth a gwleidyddiaeth. Roedd yr eglwys sefydledig, yr Eglwys Anglicanaidd, yn barnu bod safbwynt Fox yn ymosodiad ar strwythur cymdeithas ei hun, oedd yn golygu bod nifer o Grynwyr wedi eu herlid a'u carcharu oherwydd eu cred.

Roedd Proclamasiwn 1655 yn eu rhoi yn yr un dosbarth â brygowthwyr fel pobl a arferai 'aflonyddu ar weinidogion mewn modd haerllug ac anghristnogol' ac felly, pan fydden nhw'n ymddwyn fel hyn, gan gynnwys, efallai, gynnal cyfarfod crefyddol yn nhŷ rhywun, fe ystyrid eu bod yn amharu ar yr heddwch ac felly fe fyddai achos yn cael ei ddwyn yn eu herbyn. Yn wir rhwng 1662 a 1670 fe garcharwyd tua 6,000 o Grynwyr, yn bennaf am gynnal cyfarfodydd a gâi eu gwahardd gan y Ddeddf a nodwyd eisoes. Er hynny fe ffynnodd ei athroniaeth ac erbyn iddo farw ym 1691 roedd dros 500,000 o Grynwyr o gwmpas y wlad.

I'r Crynwyr yn Llanbrynmair dim ond un o'r nifer o ffactorau a'u gorfodai i roi'r gorau i'w cartrefi oedd erledigaeth grefyddol, gan eu gorfodi i fentro i geisio bywyd newydd filoedd o filltiroedd i ffwrdd. Dros 100 mlynedd ynghynt, ym 1679, cynhaliwyd achos llys yn y Bala, Gogledd Cymru, a effeithiodd ar nifer fawr o Grynwyr a wrthodai dalu degymau. Ffurf ar drethi oedd y degymau a dalwyd i'r penarglwyddi ffiwdal, yn yr achos hwn, - yr Eglwys Anglicanaidd.

Achosodd hyn i nifer symud o Gymru i'r America; er nad oes ffigurau pendant ar gael, mae'n wybyddus bod y rhai a adawodd tua'r adeg yma wedi dechrau'r gwladfeydd ym Mangor, Narbeth, Maesyfed, Berwyn, Tŷ Ddewi, Hwlffordd, Bala-Cynwyd a Bryn Mawr, yr enwyd ysgol Iâl ar ei ôl ym Mhennsylvania. Rhoddodd llwyddiant yr ymfudwyr hyn obaith i drigolion Llanbrynmair a oedd, ym 1795, yn wynebu mwy o drafferthion. Yn economaidd, roedden nhw'n ei chael yn anodd i ymdopi: roedd cyfres o gynaeafau gwael wedi gadael y dref yn brwydro i dyfu digon o gnydau i'w bwyta, roedd y tir yn wael ac roedd y rhenti roedden nhw'n cael eu gorfodi i'w talu yn cael eu hystyried gan nifer, yn enwedig aelodau hŷn cymuned y Crynwyr, yn afresymol. Roedd y sefyllfa roedden nhw'n eu cael eu hunain ynddi, er nad yn unigryw, wedi achosi pryder ymhlith Cymry eraill. Ysgrifennodd William Jones, disgybl Voltaire, a gŵr a addysgodd ei hun, o Langadfan yn y 1790au:

"Mae'r caledi mae trigolion y wlad ddiffaith hon yn ei ddioddef oherwydd Ariangarwch Anniwall y Tirfeddianwyr, wedi effeithio ar fy nheimladau i'r fath raddau nes fy mod wedi penderfynu ysgrifennu i Lundain i geisio Gwybodaeth am unrhyw dir heb ei amaethu yn America er mwyn cynnig fy ngwasanaeth i gyd-drefnu Cynllun i symud cynifer o'm cydwladwyr sydd â digon o ysbryd i adael eu tasgfeistri Eifftaidd a mentro arni yr ochr arall i'r Atlantig"

Er na ddilynodd yr ymfudwyr William Jones fe gawson nhw'u sbarduno gan ei eiriau ac fe benderfynon nhw fentro arni yn America.

Pam America?
William Penn a gydnabyddir yn gyffredin fel sylfaenydd Pennsylvania © Llyfrgell Cymdeithas Grefyddol y CyfeillionYstyriwyd America gan nifer fel y 'Wlad Sanctaidd', gwlad rhyddid crefyddol a chyfleon gwych. Yn aml ystyrir William Penn (1644-1718) fel sefydlwr trefedigaethau'r Crynwyr yn America. Teithiodd yno yn 1681 er mwyn adeiladu Barwniaeth Gymreig, a oedd i fod yn drefedigaeth i'r Crynwyr lle roedd pobl yn byw yn ôl rheolau'r Crynwyr, yn siarad Cymraeg ac, yn gyffredinol, yn byw fel y bydden nhw wedi hoffi ei wneud yng Nghymru petaen nhw wedi cael rhwydd hynt i wneud hynny.

Roedd prosiect y Crynwyr yn cynnwys dealltwriaeth llafar gyda William Penn a Chymdeithas y Cyfeillion bod 40,000 erw o dir yn y rhan de-orllewinol o'r hyn y daethpwyd i'w adnabod yn ddiweddarach fel Pennsylvania (mae rhai ffynonellau yn dweud 30,000) i'w neilltuo fel y Farwniaeth hon. Yn anffodus chafodd y cytundeb hwn 'mo'i roi ar bapur ac yn ddiweddarach fe drôdd yn ffynhonnell dadl chwyrn rhwng Penn a'r Crynwyr Cymreig. Er gwaetha'r chwerwder hwn datblygodd Pennsylvania yn atyniad i Grynwyr a chrefyddau anghydffurfiol eraill e.e. y Bedyddwyr.

Mae nifer o fythau sy'n bodoli ers amser maith yn ymwneud â chysylltiadau rhwng America a Chymru. Un stori a gafodd ei hadfywio yn y 1790au oedd stori'r Madogiad; hanes y tywysog Cymreig, Madog, a ddarganfu America yn 1170, ac a fu'n byw ynghanol, a phriodi i mewn i, dylwyth yr Indiaid brodorol. Mae'r chwedl yn canolbwyntio ar lwyth o Indiaid croen olau oedd yn medru'r Gymraeg, - llwyth roedd llawer o bobl yn dymuno'u darganfod.

Roedd Morgan John Rhys, Crynwr o Forgannwg, a sefydlodd Beulah, yn credu'r stori hon ac fe roddodd gyhoeddusrwydd i'w obeithion y byddai Cymry'n dod i America, o dan ei nawdd ef, i bregethu ac i drawsnewid mwy o lwythi Indiaidd.

A yw Pennsylvania wedi ei enwi ar ôl William Penn?
'Pen' yw'r gair Cymraeg am 'goetiroedd uchel neu ar benrhyn'. Mae Penn yn hawlio, mewn llythyr i Robert Turner, ei fod wedi bwriadu ei alw'n Gymru Newydd ond roedd yr ysgrifennydd, a oedd yn Gymro, yn gwrthwynebu. Felly fe ddaeth yn Pennsylvania, yn golygu pen neu fryn. Y pwynt diddorol am y stori hon yw bod 'pen' yn y Gymraeg wedi ei sillafu ag un n, ond bod dwy n yng nghyfenw Penn, fel yn yr enw newydd am y sir.

Fe ddaethon nhw o Lanbrynmair
William Penn ac arwyddo cytundeb Pennsylvania © Llyfrgell Cymdeithas Grefyddol y Cyfeillion"O'r bobl gafodd eu geni yn Llanbrynmair yn ystod yr hanner can mlynedd diwethaf, erbyn hyn mae mwy ohonyn nhw'n byw yn America nag yn Llanbrynmair" Y Parch Samuel Roberts, oedd yn byw yn America, a ddywedodd hyn yn 1857, 50 mlynedd ar ôl i'r fintai gyntaf o ymfudwyr Cymreig cyntaf adael Llanbrynmair. Roedd y grŵp yn cynnwys Ezekiel Hughes ac Edward Bebb, George a Jane Roberts a chyfeillion a theulu o Lanbrynmair.

Roedd effaith eu hymfudo ar Lanbrynmair yn ddramatig. Er bod y nifer o ymfudwyr yn gymharol isel, dim ond bychan iawn oedd poblogaeth Cymru, felly roedd unrhyw golled yn y niferoedd yn cael cryn effaith; cyn y 18fed Ganrif roedd poblogaeth y wlad mor isel â 0.5 miliwn. Roedd ymfudiad y Crynwyr o Ganolbarth Cymru mor drylwyr a dramatig nes bod y sect, fwy neu lai, wedi diflannu erbyn canol y 19eg Ganrif.

Yn y dechrau
 George Fox © Llyfrgell Cymdeithas Grefyddol y CyfeillionCysylltodd yr arloeswyr dewr â Morgan John Rhys. Roedd y gŵr hwn yn mynd i gael rhan bwysig yn nyfodol y mewnfudwyr. Roedd wedi cyrraedd ym 1794 ac fe fu'n teithio o gwmpas y Weriniaeth yn ymgyrchu yn erbyn caethwasiaeth cyn canolbwyntio'i ymdrechion ar greu tref ddelfrydol, Beulah. Ei weledigaeth oedd sefydlu tref i gartrefu'r holl sectau anghydffurfiol, yn cynnwys Crynwyr a Bedyddwyr.

Er mwyn ceisio gwireddu hyn fe sefydlodd y cwmni Cambrian a phrynodd 17,400 erw o dir, 250 milltir i'r gorllewin o Philadelphia oddi wrth y Dr. Benjamin Rush am £9,450. Roedd y tir hwn mewn lle da, rhwng yr afonydd Blacklick a Connemaugh, ac, yn ddamcaniaethol, fe ddylai fod wedi darparu lleoliad delfrydol ar gyfer yr ymsefydlwyr.

Cychwyn gwael
Fel gyda bron pob symudiad i'r Byd Newydd, daeth yr ymfudwyr ar draws nifer o broblemau nad oedden nhw wedi eu paratoi ar eu cyfer. Problem a darodd nifer ohonyn nhw oedd 'hiraeth' a effeithiodd arnyn nhw er gwaethaf unrhyw broblemau roedden nhw wedi dod ar eu traws yn eu gwlad enedigol. Dechreuodd eu trafferthion gyda'r daith beryglus i America, a gymrodd o'r 6ed o Awst hyd y 27in o Hydref 1795.

Roedd yr amodau ar fwrdd y llong yn erchyll ac er na gofnodwyd unrhyw farwolaethau ar daith y Maria, fe gyrhaeddon nhw Philadelphia wedi blino ac yn llwglyd, mewn dinas oer. Roedd un o'r teithwyr, gwraig y Parch. Rees Lloyd yn feichiog ac fe roddodd enedigaeth i'w baban Ebenezer ar y diwrnod y cyrhaeddon nhw. Bu'r baban fyw yn ddim ond 8 mis oed.

Arweiniodd Morgan John Rhys yr ymgyrch i ymgartrefu yn yr ardal, gan arwain 12 o deuluoedd i mewn i dir gwyllt dieithr America. Cofnododd George Roberts ei atgofion am yr adeg hwn,
"Gadewais Philadelphia am Cambria ar Fedi 20ed 1796, crwydrais ar droed ar hyd y ffordd yn y diffeithwch hyd Fis Tachwedd 19eg pan adeiladwyd caban bychan o bolion, nad oedd ddim mwy na fy nghoes, lle buom yn byw yn gymharol hapus am ddwy flynedd, weithiau heb damaid o fara yn y tŷ"

Roedd Roberts yn hapus, ond roedd ef yn un o'r ychydig rai. Llwyddodd i ddatblygu ei randir, oedd tua wyth i ddeg erw, ychydig filltiroedd i'r dwyrain o Beulah a chreodd fywyd da iddo'i hun.

Roedd pethau'n mynd o chwith mewn llefydd eraill; roedd hyn mor wahanol i'r wlad llawn digonedd roedd nifer o'r teithwyr wedi ei ddisgwyl. I'r Parch. Rees Lloyd nid dyma'r oedd wedi bod yn gobeithio amdano, ac fe ysgrifennodd ddarn yn cynghori yn erbyn symud i'r lle hwn a oedd i fod yn baradwys Arcadaidd:

"Mae'n rhy anodd i bobl dlawd i ennill bywoliaeth ar y tir hwn...alla i ddim, â chydwybod glir, annog fy nghydwladwyr i ddibynnu llawer ar y lle hwn."

Cafodd gaeafau caled mewn amgylchiadau gelyniaethus yn Niffeithwch yr Allegheny, diffyg offer addas a deiet annigonol, effaith ar nifer o'r rhai oedd yn byw yn yr ardal. Ar ôl cyfnod yn pregethu egwyddorion Beulah ar yr arfordir dwyreiniol, dychwelodd Morgan John Rhys i'r ardal gyda mwy o ymsefydlwyr, yn llawn brwdfrydedd am egwyddorion Beulah, yn ystod gwanwyn 1797. Roedd ganddo gynlluniau ar gyfer tref wych, gyda llyfrgell a choleg diwinyddol, ond daeth ar draws pobl oedd â'u hysbryd wedi cyrraedd y gwaelodion.

Symud Ymlaen
Doedd y tiroedd o gwmpas Beulah ddim mor ffafriol i ffermio a byw'n gyfforddus ag roedd Morgan John Rhys wedi ei obeithio. Roedd ardaloedd eraill, yn enwedig Ohio, yn ddewisiadau gwell i'r rhai a oedd eisiau byw bywyd ar y tir. Yn dilyn newidiadau mewn deddfwriaeth ffederal ym 1800, fe gawson nhw'u hagor i'r ymsefydlwyr. Gadawodd nifer Beulah yn fuan iawn gan anelu am y gorllewin i geisio bywyd haws.

Ond doedd y Parch Rees Lloyd, er yn anhapus yn Beulah, ac wedi colli dau o blant i'r hinsawdd, ddim eisiau gwneud taith arall fyddai'n mynd ag ef i diroedd anghyfarwydd. Penderfynodd adeiladu tref weledigaethol ei hun, ddim ond 3 milltir i'r dwyrain o Beulah. Ebensburgh oedd y dref hon. Roedd yn fwy newydd, yn llai o ran maint ac yn llai anturus ei uchelgeisiau, ond fe oroesodd.

Er nad yw Beulah'n bodoli bellach, mae Ebenbursgh yn dal i fod, ac mae'n dal i ffynnu. Bu farw Rees Lloyd yno, yn aelod uchel ei barch o gymuned brysur a chynyddol gefnog, yn falch o fod wedi datblygu tref, er nad oedd hon yr eidyl Gymreig roedd wedi breuddwydio amdani unwaith.

Un ffactor amlwg dros oroesiad Ebensburgh oedd ei ddatblygwr, y Parch. Rees Lloyd. Roedd ef eisiau aros yn yr ardal i fyw a ffynnu yno, ac felly cymrodd nifer o gamau craff ym myd busnes a gwleidyddiaeth er mwyn ceisio gwireddu hynny. Gweithiodd yn ddiflino yn yr ardal, ar ei dir ac yn ei eglwys. Ar ôl prynu tir gan Dr. Benjamin Rush, datblygodd Ebensburgh, ond rhoddodd neu fe werthodd nifer o ddarnau o dir canolog i ffigurau amlwg a dylanwadol. Bu hyn o help i'r dre, er gwaetha'r ffaith nad oedd fawr mwy na phentref bychan, i gael ei wneud yn sedd sirol ym 1805, gan ei wneud yn ddewis poblogaidd ar gyfer datblygiad pellach.

Bu farw gweledydd Beulah, Morgan Rhys, yn ystod gaeaf 1804/5, gan adael y dref heb ei arweinydd idealistig. Roedd Rhys wedi treulio tipyn o'i amser yn teithio i fyny ac i lawr yr arfordir Dwyreiniol yn hybu ei weledigaeth, ond heb roi amser ac ymdrech i mewn i'w datblygu, ac mae hyn, erbyn heddiw, yn cael ei ystyried gan nifer o haneswyr y ffactor bwysicaf ym methiant Beulah. Ymsefydlodd mewnfudwyr newydd i'r ardal yn nhref newydd Ebensburgh neu fe deithion nhw ymlaen i mewn i Ohio, gan ddilyn nifer o fewnfudwyr gwreiddiol Llanbrynmair i mewn i wlad well.

Dylanwadau parhaol
Efallai nad yw'r Americanwyr yn dathlu eu hetifeddiaeth Gymreig mor gyhoeddus ag y maen nhw eu gwreiddiau Gwyddelig, ond wrth gloddio ychydig yn ddyfnach gwelir bod gwaed Cymreig i'w weld mewn llawer o hanes America. Y gymdeithas iaith ethnig hynaf yw Cymdeithas Gymraeg Philaedelphia, sy'n dyddio o 1729. Yn ogystal â hyn, mae 16 o'r rhai a arwyddodd y Datganiad Annibyniaeth o dras Cymreig.

Yng Nghymru, y Crynwyr a ymfudodd o Feirionnydd a Sir Drefaldwyn oedd mwyafrif y Crynwyr yn yr ardal. Dim ond cyfran fechan o boblogaeth Canolbarth Cymru sydd yn Grynwyr erbyn heddiw. P'un a fyddai Beulah wedi goroesi ai peidio, fe fydd ymfudiad y bobl hyn o Lanbrynmair yn gadael ôl parhaol ar Ganolbarth Cymru ac America.



0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy