BBC HomeExplore the BBC

LLUN
30ain Tachwedd 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Hanes Lleol

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Cyril Fathers, yn adrodd ei hanes fel faciwî yng Nghilgerran Atgofion Faciwî
Daeth y diweddar Cyril Fathers o Gilgerran ar fwrdd bws BBC Cymru yn Aberteifi, i adrodd ei hanes fel plentyn noddedig yng ngorllewin Cymru yn y 1940au.

Atgofion Cyril Fathers am ddod draw i Gilgerran fel faciwî.

"Dwi'n cofio'r diwrnod y des i draw i Gymru fel evacuee. Mehefin 23 1940 oedd y dyddiad, tri diwrnod cyn fy mhenblwydd yn 12oed. Cefais fy anfon i Gilgerran.

"Mr a Mrs Dafydd John oedd yn gofalu amdanaf. Roeddent yn strict ond roeddwn i'n cael digon o fwyd. Roedd ffarm bach 'da nhw, ac roeddwn i'n helpu ar y ffarm. Yn y gaeaf roedd yncl Dai a fi yn mynd i roi bwyd i'r da - rhoi gwair iddyn nhw. Dysges i wrth yncl Dai sut i ofalu am greaduriaid.

"Rwy'n cofio yr amser yn yr ysgol yn Capel Newydd. Dysges i Gymraeg. Cefais amser da yn ystod amser cinio ac ar y penwythnos. Roedd yn rhaid i ni gerdded tair milltir i'r ysgol ymhob tywydd, ac un amser pan es i i'r ysgol roedd yn bwrw eira. Wnes i gerdded tair milltir i'r ysgol, ond roedd rhai heb fynd gan ei bod yn bwrw eira. Doedd yr athrawes ddim yn deall pam bo fi wedi dod i'r ysgol!

"Ar ôl gorffen yn yr ysgol gweithies i ar dair ffarm ac roedd pob ffarm yn wahanol. Rhai yn dda, rhai ddim mor dda.

"Pan es i nôl i Lloegr ar ôl 13 mlynedd yng Nghymru - wedd neb yn Lloegr yn gallu siarad Cymraeg. Wnes i gyfarfod rhai Cymry yn Lloegr - rhai yn siarad Cymraeg, byddwn yn siarad â nhw er mwyn i mi gadw fy Nghymraeg pan o'n i bant yn Lloegr.

"Dw i nawr wedi dod nôl i Gilgerran i fyw ac er fy mod wedi ymddeol rwy'n dal i weithio! Dwi wedi dysgu ci defaid a dwi wedi trial cŵn defaid ambell waith ond nawr rwy'n gweithio gyda hwyaid â chwn yn lle defaid!

"Er bod pobl yn credu fod y Cymry yn hen ffasiwn, rwy'n credu fod hynny'n dda. Maent yn gwneud i chi deimlo'n gartrefol, ac maent yn eich helpu. Rwy'n hapus fy mod yn byw yng Nghilgerran ac er fy mod wedi byw yn Lloegr am 51 mlynedd rwy'n falch fy mod wedi dod nôl i Gilgerran. Ble sydd â gwell golygfeydd ?!"

Cyril Fathers

A oes gennych chi atgofion tebyg am fod yn blentyn noddedig yng Nghymru adeg yr Ail Ryfel Byd? Efallai i chi roi llety i bentyn yn y cyfnod hwn. Cysylltwch â ni i ddweud eich stori trwy lenwi'r ffurflen isod, neu ein e-bostio at cymru@bbc.co.uk

Hunodd Cyril Fathers ar 21 Medi 2007



Cyfrannwch

Ellie Rapson o Caerdydd
Roedd y tudalen yma yn helpu fi gyda fy ngwaith cartref.Roeddwn i angen cael llun a stori o evacuee a roedd y tudalen yma yn yr unig un wnes i ddarganfod a oedd mewn Gymraeg.

Sara Lewis o Gaergybi
Roedd y tudalen yma wedi fy helpu i lawer a fy waith cartref,roedd rhaid i mi ysgrifennu stori am faciwi a chafodd ei anfon i Gymru yn ystod yr ail rhyfel byd,diolch.


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Peidiwch â datgelu eich cyfenw os ydych o dan 16 oed.
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy