BBC HomeExplore the BBC

LLUN
30ain Tachwedd 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Hanes Lleol

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Aberaeron © BCC Aberaeron
Tref weddol newydd yw Aberaeron, wedi cael caniatâd i'w chodi yn 1807.
Aberaeron, Alban a'r Gwynneiaid

Cymwynaswr pennaf Aberaeron oedd y Parchedig Alban Thomas, yn enedigol o Gastell Newydd Emlyn. Cafodd ef a'i wraig, Susannah Maria, (merch Henry Jones, Tyglyn yng Nghiliau Aeron) holl gyfoeth (ac yr oedd yn sylweddol iawn) Lewis Gwynne, a fu'n byw ym Mynachdy, plasdy ym Mhennant.

Claddwyd Lewis Gwynne ym mynwent Llanbadarn Trefeglwys ym 1805. Mae cofeb iddo yn yr eglwys ac arno mae'r geiriau canlynol : "Roedd yn ddyn na welir mo'i debyg byth mwy." Am i Alban Thomas briodi merch Henry Jones, rhaid iddo oedd cynnwys yr enw Jones, ac wedi etifeddu holl gyfoeth Lewis Gwynne yn ogystal. Felly wrth yr enw Alban Thomas Jones Gwynne y cai ei adnabod.

Â'i holl gyfoeth, penderfynodd wneud harbwr yn Aberaeron. Gynt, yn Aberarth oedd yr harbwr ac yno y daeth y cerrig o Fryste i godi'r Fynachlog yn Ystrad Fflur. Penderfynodd fod yn rhaid newid cwrs yr afon. Roedd yn arfer llifo drwy Stryd y Dŵr i gyfeiriad Castell Cadwgan a oedd ar lan y môr. Mae'r môr wedi hawlio'r castell ers blynyddoedd bellach, nid oes yno mwyach ond yr olion ac ambell dwmpath o bridd.

Cyn hir roedd gan Alban Thomas Jones Gwynne adeiladwyr i godi waliau i ffurfio'r harbwr a seiri a masiyred i godi tai a fyddai'n gartrefi i'r gweithwyr.

Mae Aberaeron wedi parchu enwau'r arloeswyr, mae yna westy o'r enw Mynachdy, Sgwâr Alban, Stryd Gwynne a Stryd Tyglyn. Cawn ein hatgoffa o'r cyfnod, Regent Street, Stryd y Gaer, Tafarndy Buddug a thafarndy Cadwgan. Mae llawer bachgen wedi cael yr enw Alban hefyd.

Cynllun John Nash
Cynlluniwyd Aberaeron gyda help John Nash, yr athrylith o bensaer. Mae stryd lydan yn pasio drwy'r dre, piti fod y Cyngor wedi culhau'r ffordd - er mwyn diogelwch meddent hwy.

Tai lliwgar AberaeronMae'r dref wedi ei chynllunio'n ofalus, tŷ mawr ar bob pen y stryd a thai llai eu maint yn y canol, yn clymu'r ddeupen ynghyd.

Bu Alban Thomas Jones Gwynne farw'n 68 oed, a'i gladdu ym mynwent Llanddewi Aberarth. Ar ei garreg fedd mae'r deyrnged hyfryd yma, "What he was, time will tell."

Roedd y mynachod yn arfer dod i gasglu pysgod o'r goredi sydd o hyd i'w gweld ar y traeth. Roedd y mynachod yn arfer bwyta pysgod bob dydd Gwener.


Elizabeth Evans

  • Cliciwch yma i ddarllen am hanes plasau a phentrefi dyffryn Aeron



  • Cyfrannwch

    Annette Strauch
    Mae Aberaeron yn brydferth iawn. 'Rwy'n hoffi bwyta yn y Harbourmaster - a mynd am dro yno. Mae tai yn lliwgar. Diddorol i ddarllen mwy am y hanes Aberaeron.
    Fri Feb 6 17:32:12 2009


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

    Sylw:




    Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


    0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy