BBC HomeExplore the BBC

MERCHER
6ed Ionawr 2010
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Llên
Llanfair ym Muellt, y dref a gysylltir â Hilda Vaughan
Hilda Vaughan

Ganwyd: 1892

Magwyd: Llanfair-ym-Muallt

Addysg: Ysgolion preifat


Nofelydd

Nofelydd a ysgrifennodd yn anad dim am bobl Sir Faesyfed a'r Gororau oedd Hilda Vaughan.

Adnabyddai'r ardal yn dda, ac roedd gyda hi glust am y dull arbennig o siarad Saesneg a geir ymhlith pobl y sir hyd heddiw - cymysgedd o acen swydd Henffordd gydag elfen Gymraeg yn yr eirfa.

Roedd hi'n ymwybodol iawn o berthyn i dir a welodd lawer o frwydro a dioddefaint ar hyd y canrifoedd.

Mae ei nofelau'n adlewyrchu cymeriad unigryw y sir fwyaf anadnabyddus a diboblog yng Nghymru.

Gwreiddiau yn y Gororau

Fe'i ganed yn Llanfair-ym-Muallt, Sir Frycheiniog, ond gyda Sir Faesyfed, dros Wy, y cysylltir hi oherwydd cefndir ei nofelau; roedd ei thad yn gyfreithiwr a Chlerc i Gyngor Sir Faesyfed.

Fe'i haddysgwyd hi'n breifat ond yn annigonol, meddai hi, ond cafodd ei deffro'n ddeallusol gan ei chymydog, sgweiar Parc Cilmeri, dyn o bwys yn ei gyfnod.

Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf gwelodd bethau a oedd yn gwbl ddiarth i'w magwraeth breintiedig yn un o ysbytai'r Groes Goch, a chyda Byddin Tir y Merched yn Siroedd Faesyfed a Brycheiniog.

Ysgrifennodd yn glir ac yn onest am ei magwraeth mewn dwy ysgrif hunangofiannol a ail-argraffwyd yn Nhrafodion Cymdeithas Sir Faesyfed ym 1983.

Priodi awdur

Ym 1922 aeth ar gwrs llenyddol i Goleg Bedford yn Llundain ac yno cwympo mewn cariad â Charles Morgan, a'i briodi yn y flwyddyn ganlynol.

Roedd Charles Morgan yn feirniad drama i'r Times, a daeth yn enwog yn y man fel nofelydd.

Eu huchelgais i ddod yn llenorion a ddenodd y ddau at ei gilydd.

Gresyn na chafodd nofelau Hilda Vaughan yr un sylw ag a gafodd nofelau ei gŵr.

Cafodd y Morganiaid ddau o blant: Roger Morgan, a oedd yn Lyfrgellydd Tŷ'r Arglwyddi, a Shirley Morgan, a briododd ag Ardalydd Môn. Bu farw'r awdures ym 1985.

Ei nofelau

Nofel gyntaf Hilda Vaughan oedd The Battle to the Weak (1925), sydd wedi eilleoli ger 'Llanganten', hynny yw Llanfair-ym-Muallt, ac ynddi mae hi'n ymdrechu i feistrioli ei chrefft.

Yn rhyfedd ddigon, nid yw ei hail nofel,Here are Lovers (1926), cystal, ond yn The Invader (1928), comedi a'r mwyaf Cymreig o'i holl lyfrau, a Her Father's House (1930), daethpwyd o hyd i'w llais ei hun.

Ei nofel orau, yn ddi-au, yw The Soldier and the Gentlewoman(1932).

Aeth ymlaen i gyhoeddi rhagor o nofelau ac ennill bri fel awdures boblogaidd: yn eu plith ceir The Curtain Rises (1935), Harvest Home (1936),Pardon and Peace (1945), Iron and Gold (1948) a The Candle and the Light (1954); ail-argraffwyd Iron and Gold yn 2002.

Ei llwyddiant mwyaf

Gwelir ei gwaith orau, yn ddi-os, yn y nofelig fer A Thing of Nought (1934),stori serch drasig lle y defnyddir yr un cefndir â geir yn ei nofelau am Sir Faesyfed ond yn fwy cynnil.

Prif rinwedd y stori yw ei phortreadau o bobl bryniau'r sir, a'i harddull caboledig ac urddasol.

Mae'r nofelig hon wedi'i chynnwys yn yr antholeg A View across the Valley (gol. Jane Aaron, 1999).

Fe fu hi farw ym 1985.

Meic Stephens

Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy