BBC HomeExplore the BBC

MERCHER
23ain Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Llên
Bedd Dewi Emrys
Dewi Emrys

Ganwyd: Mai 28, 1881

Magwyd: Ceinewydd, Aberteifi, a Rhosycaerau, Sir Benfro

Addysg: Ysgol Pencaer, Ysgol Ramadeg Jenkins Abergwaun, Ysgol Uwchradd Abergwaun, Coleg Presbyteraidd Caerfyrddin


Rhan 4 - (1948-1952) Melys hun wedi aml siom

Ar ôl iddo ennill ei bedwaredd gadair Genedlaethol bu'n rhaid iddo roi'r ffidil yn y to. Oherwydd ei fod, ers 1936, yn athro beirdd tra llwyddiannus, fe ellid tybio y byddai'r Eisteddfod Genedlaethol wedi galw arno i feirniadu. Ond roedd Dewi yn feirniad llym a phan fyddai'n gweld beiau mewn cyfansoddiad fe ddywedai hynny heb flewyn ar ei dafod. Un tro dywedodd fod llawer o feirdd yn ddim byd ond 'rhyw felinau gwynt y Gynghanedd oedd yn nyddu geiriau blith draphlith heb ddeall na phoeni am eu hystyr.'

Ychwanegodd:"Pan oeddwn yn hogyn, gwelais siwglwr yn stwffio'i geg â darnau o newyddiadur a'u tynnu allan yn bistylloedd o rubanau amryliw.

"Camp y rhain - beirdd y gystadleuaeth - yw llyncu geiriadur a'i dirwyn allan yn blethwaith o gynganeddion na ddichon i neb ddirnad eu hystyr."

Yn 1930 ganed merch iddo, Dwynwen, a'r blynyddoedd a dilynodd yn hanes y bardd yr ysgrifennodd mam Dwynwen, Dilys Cadwaladr, amdanynt yn Y Cymro o dan y teitl - Taith Yr Anialwch -.

Ond yn 1941 daeth y cyrchu mawr gan awyrennau'r Almaen dros drefi a dinasoedd Prydain, gan gynnwys Abertawe a De Cymru. Bu'n rhaid anfon Dwynwen i ffwrdd yn faciwî i Ogledd Cymru a pheth amser wedyn symudodd Dewi i fyw i bentref bach Talgarreg yng Ngheredigion. Yno y treuliodd yr un ar ddeg mlynedd nesaf.

Erbyn dechrau'r pumdegau roedd y galwadau i bregethu neu i feirniadu wedi mynd mor brin nes y sylweddolodd un o'i gymdogion a'i ffrindiau gorau, Tom Stephens ei fod mewn angen.

Yn ystod gaeaf 1951 sylweddolodd nad oedd gan y Prifardd ddigon o lo yn ei fwthyn i'w gadw'n gynnes.

Ar y cyd â T Llew Jones penderfynwyd bod gwasanaeth mawr Dewi fel athro beirdd yn y Babell Lên yn haeddu tysteb genedlaethol.

Dywedodd T Llew Jones, a enillodd y Gadair Genedlaethol ei hun yn 1958 a 1959: "Teimlai Tom a minnau'n siŵr y byddai ei lu ddisgyblion yn awyddus i gyfrannu rhywbeth i ddangos eu gwerthfawrogiad o'i waith.

"Gyrrwyd hysbysebion i'r wythnosolion ac yn wir cafwyd ymateb go lew. Ond rhyw goron neu chweugain oedd y cyfraniadau, oddi wrth feirdd gwlad yma a thraw, a rhyw bobl a gofiai'n annwyl am Dewi o'r dyddiau cynnar.

"Ni allaf gofio'n gywir faint oedd swm y dysteb i Dewi yn y diwedd ond nid oedd yn fawr.

"Mae'n amheus gennyf a ddaeth hi'n uwch na rhyw ganpunt i gyd." Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol 1952 yn Aberystwyth ac roedd yn rhaid tynnu ychydig arian o'r gronfa er mwyn galluogi'r Prifardd i fynd iddi mewn siwt deidi â thipyn o bres yn ei boced.

Erbyn hyn roedd Dewi'n wael ei iechyd ac roedd yr Eisteddfod yn un siomedig iddo. Cafodd y dyn fu'n eilun tyrfaoedd mewn eisteddfodau ar hyd a lled Cymru ei anwybyddu bron yn llwyr gan y dorf a ddaeth ynghyd yn 1952. Cymerodd Dewi lwyfan y Babell Lên i gyhoeddi bod cyflwyno tysteb iddo yng ngwesty'r Bele Vue y noson honno.

Dywedodd T Llew Jones: Yr oedd ei ymddangosiad mor sydyn â'i eiriau mor annisgwyl nes codi ton o chwerthin trwy'r Babell Len.

Fel yna, mewn ffordd ddigon rhyfedd ac yn sŵn tipyn o chwerthin amharchus y dyrfa y gwnaeth Dewi Emrys ei 'exit' olaf oddi ar lwyfan yr Eisteddfod."

Mis yn ddiweddarach, bu farw Dewi Emrys yn ysbyty Aberystwyth ar Fedi'r ugeinfed 1952 a chladdwyd ef ym mynwent Pisgah, Talgarreg. Ychydig iawn o bobl a welodd yn dda i ddod i'r angladd. Yn wir, roedd y capel yn hanner gwag.

Dywedodd adroddiad Y Cymro: Ychydig berthnasau, ychydig gyfeillion ac ychydig gymdogion. A'r rhai sy'n honni bod yn gynheiliaid llên a diwylliant Cymru, roeddent yn rhy brysur gyda phethau eraill i ddod ynghyd i ffarwelio ag un o'r tywysogion."

Cyhoeddodd ddim ond dwy gyfrol o'i gerddi Cymraeg, sef Y Cwm Unig (1930) a Cerddi'r Bwthyn (1950), ac un o'i gerddi Saesneg, Rhymes of the Road (1928) o dan yr enw David Emrys.

Cafwyd gyfrol goffa, Wedi Storom, ym 1965.

Ychwanegodd at ei fri fel llenor ar gyfrif ei olygyddiaeth o'r golofn farddol yn Y Cymro rhwng 1936 a 1952, lle rhoddai gyngor ac anogaeth i lu o feirdd ifainc; cyhoeddwyd pigion o farddoniaeth ei 'ddisgyblion' yn y gyfrol Cerddi'r Babell (1938).

Ysgrifennodd hefyd gyfrol o ysgrifau, sef Odl a Chynghanedd (1937).

Ar ôl i Dewi farw fe ddaeth y Parchedig Undodaidd D Jacob Davies o hyd i gwpled mewn rhyw ddrôr ym mwthyn Dewi - cwpled yr oedd Dewi wedi'i adael i'w osod ar ei garreg fedd. Ac felly y bu.

'Melys hun wedi aml siom
Distawrwydd wedi storom.'

Daniel Davies


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy