BBC HomeExplore the BBC

MERCHER
9fed Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Chwaraeon
Mark Jones
Mark Jones

Ganwyd: 7 Tachwedd 1979

Magwyd: Llanfair ym Muallt


Chwaraewr rygbi i Lanelli a Chymru

Wyddech chi? :ysgytlaeth ydy ei hoff ddiod!

Ganwyd Mark Jones yn Llanfair-ym-Muallt ar 7 Tachwedd 1979 ac fe'i magwyd ar ffarm ddefaid a gwartheg y teulu yn Llafan Fawr gyda'i ddau frawd a'i rieni Brenda a Gwyn.

Yn hogyn ifanc, fe aeth Mark i Ysgol Gynradd Dyffryn Irfon yn Garth. Yn ddiweddarach, fe aeth i Ysgol Uwchradd Llanfair-ym-Muallt ac yno y dangosodd ei fedr mewn athletau a rygbi.

Yn ystod ei flynyddoedd yn yr ysgol, roedd yn chwarae i dîmau ieuenctid Clwb Rygbi Llanfair-ym-Muallt ac yn chwarae i'r tîm dan-19 llwyddiannus a phryd hynny y gwahoddwyd ef gyntaf i chwarae dros dîm ieuenctid Cymru.

Yn ifanc iawn, fe arwyddodd i dîm rygbi Llanymddyfri ac yn ystod ei dymor cyntaf yn y tîm llawn, ef oedd y sgorïwr uchaf yn y Gynghrair.

Y tymor canlynol arwyddodd i dîm rygbi Llanelli ac yno y mae hyd heddiw. Ymddangosodd am y tro cyntaf yn y crys coch yn Stadiwm y Mileniwm mewn gêm yn erbyn y Saeson yn 2001 ac hyd yn hyn mae wedi ennill 11 cap ac wedi sgorio pedwar cais.

Mae Mark yn byw erbyn hyn yng Nghaerdydd ond mae ei gysylltiad â Llanfair-ym-Muallt yn dal yn agos gan mai ef oedd hyfforddwr y tîm yn 2002/2003.

Ffeil-o-ffeithiau
Enw llawn: Mark Anthony Jones
Ffugenw: Boyce
Taldra: 6' 2"
Pwysau: 13st 7lb
Ei funud fawr: ennill ei gap cyntaf dros Gymru yn 2001


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy