BBC HomeExplore the BBC

MAWRTH
8fed Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Chwaraeon
Kevin Sheedy
Kevin Sheedy

Ganwyd: 21 Hydref 1959

Magwyd: Llanfair ym Muallt


Chwaraewr pêl droed dros Everton a Gweriniaeth Iwerddon ond a anwyd yn Llanfair-ym-Muallt.

Ganwyd y chwaraewr pêl-droed Kevin Sheedy yn Llanfair-ym-Muallt ond enillodd 45 o gapiau dros Weriniaeth yr Iwerddon.

Dechreuodd ei yrfa yn ei arddegau yn Hereford United ac yna cyfnod byr iawn yn Lerpwl cyn symud i Everton am £100,00 yn 1982.

Roedd yr asgellwr chwith hwn yn allweddol yn llwyddiant Everton yn yr 1908au, yn ennill Cwpan yr FA a phencampwriaeth y Gynghrair yr un flwyddyn sef 1984, Cwpan enillwyr Ewrop yn 1985 a'r Gynghrair eto yn 1987.

Ar y llwyfan rhyngwladol, dewisodd chware dros y Weriniaeth gan iddo deimlo mai yno y byddai'n cael y cyfle gorau i chwarae ac fe aeth i gwpan y Byd yn 1990. Fe wnaeth ei benderfyniad yn llanc 16 oed yn Hereford ac mae'n cydnabod nad oedd y dewis yn un hawdd.

"Fe bwysodd y penderfyniad yn drwm ar fy meddwl, ac fe'm rhwygwyd rhwng y ddwy wlad ac roedd o'n benderfyniad agos. Ond dw i'n meddwl imi wneud y penderfyniad iawn gan imi chwarae yn ddiweddarach yng Nghwpwn y Byd a Phencampwriaeth Ewrop."

Ei berfformiad mwyaf nodedig yn rhyngwladol oedd yn yr Eidal yn 1990 pan sgoriodd yn erbyn Lloegr.

Gadawodd Parc Goodison yn 1992 ac ymuno â Newcastle United gan chwarae'n ddiweddarach i Blackpool.

Er iddo roi'r gorau i chwarae, mae wedi gweithio fel dirpwy reolwr yn Nhranmere a Hartlepool.

Ei funud fawr: sgorio gôl yn erbyn Lloegr yn Italia 90.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy