BBC HomeExplore the BBC

MERCHER
15fed Gorffennaf 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Chwaraeon
Carl Robinson
Carl Robinson

Ganwyd: 13 Hydref 1976

Magwyd: Llandrindod


Chwaraewr pêl droed rhyngwladol

Mae Carl Robinson yn chwaraewr canol cae allweddol yn sgwad rhyngwladol Cymru ac eisoes enillodd dros ddwsin o gapiau.

Ganwyd ef yn Llandrindod ac fe amlygodd dalent i chwarae pêl droed yn ifanc. Fe chwaraeodd gyntaf i dîm dan 11 oed Rhaeadr ac fel fachgen ifanc roedd o'n aelod cyson o dwrnament Ian Rush yn flynyddol yn Aberystwyth.

Cynrychiolodd Robinson ei wlad yn gyntaf fel aelod o sgwad dan 21 Cymru. Fe welodd Wolverhampton Wanderers dalent yn yr hogyn ifanc a chynnig lle iddo yno dan hyfforddiant yn 1995 pan oedd o'n 18 oed.

Fe chwaraeodd Robinson ei gêm gyntaf i Wolves yn ystod tymor 1996-7 ac fe dreuliodd chwe tymor arall efo'r clwb cyn ymuno â Portsmouth yng Ngorffennaf 2002.

Fe enillodd ei gap llawn cyntaf ym Mawrth 2001 mewn gêm rhagbrofol Cwpan y Byd yn erbyn yr Wkran. Enillodd ei befformiad ar Stadiwm y Mileniwm 'Chwaraewr y Gêm' iddo.

Yn Ionawr 2003, fe aeth y chwaraewr canol cae ar fenthyg am fis o Portsmouth i Sheffield Wednesday ac yna i Walsall am bum mis.

Methodd Robinson gael lle yn nhîm Portsmouth ar gyfer y gêm gyntaf y tymor 2003-04 yn erbyn Aston Villa.

Ei funud fawr : chwarae dros Gymru yn ei gêm gyntaf ym Mawrth 2001


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy