BBC HomeExplore the BBC

MAWRTH
24ain Tachwedd 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y Celfyddydau
Laura Ashley
Laura Ashley

Ganwyd: 1925

Magwyd: Dowlais


Cynllunydd dillad a deunyddiau a sefydlodd gwmni rhyngwladol, yng nghanolbarth Cymru.

  • Cau siop Laura Ashley yn Llanidloes
  • Wyddech chi? : Enw'r cwmni yn wreiddiol oedd 'Ashley Mountney' cyn i Bernard sylweddoli y byddai defnyddio enw llawn ei wraig yn masnachu'r cwmni yn well.

    Cynllunydd dillad a defnyddiau tŷ dylanwadol iawn yn ei chyfnod a lansiodd rwydwaith o siopau Laura Ashley.

    gwrando Nia Cediog yn trafod Laura Ashley ar raglen Hywel a Nia

    Ganwyd Laura Mountney yn Nowlais, Merthyr Tudful a'i magwyd mewn teulu o weision sifil o Fedyddwyr cryf. Cafodd ei haddysg yn Llundain ond daeth yn ôl i Gymru cyn yr Ail Ryfel Byd yn 1938 am flwyddyn cyn dychwelyd i'r ddinas. Cyfarfu â Bernard Ashley mewn clwb ieuenctid yn Wallinton ac fe briododd y ddau yn 1949.

    Dechreuodd Laura gynllunio ar fwrdd eu cegin ym Mhimlico gan gynhyrchu ddefnyddiau wedyn ar sgrin sidan Bernard. Gwerthwyd y sgarffiau yn ddiweddarach i siopau mawr Llundain megis John Lewis. Rhoddodd Bernard y gorau i'w waith yn y ddinas yn fuan iawn er mwyn canolbwyntio ar y busnes.

    Roedd Laura o'r cychwyn cyntaf yn defnyddio cynlluniau gweledig, rhamantaidd a blodeuog ar gyfer ei defnyddiau a gellid eu prynu drwy'r post hefyd. Ail leolwyd y busnes i Gaint yn 1955 ond bu bron iddynt golli popeth pan orlifodd yr afon Darent dair blynedd yn ddiweddarach a llifo drwy eu hadeiladau.

    Roedd Laura yn awyddus iawn i ddychwelyd i Gymru sef ysbrydoliaeth ei gwaith cynllunio. Yn sgil y llwyddiant, agorwyd ffatrïoedd ar draws gogledd a chanolbarth Cymru i gyflenwi'r holl angen.

    Agorodd y siop Laura Ashley gyntaf yn Stryd Pelham, De Kensington yn 1968 a sefydlwyd pencadlys y busnes yng Ngharno ger y Drenewydd.

    Yn ôl rhai, ymateb benywaidd i ffasiwn 'secsist' y chwedegau ydy ei gwaith hi ond fe brofodd lwyddiant mawr ar draws y byd. Erbyn 1981 roedd yna 5,000 o siopau yn gwerthu'r cynnyrch ac yn y flwyddyn honno fe agorodd ei siop gyntaf yng Nghaerdydd a gwireddu dymuniad.

    Ond bu farw yn ddiweddarach yn 1985 deng niwrnod yn unig ar ôl cwympo lawr y grisiau yng nghartref ei merch ar ei phen blwydd yn 60 oed.

    Dan arweiniad Bernard, fe roddwyd y cwmni ar y farchnad stoc prin ddeufis yn ddiweddarach ac amcangyfrifwyd gwerth y cwmni yn £200 miliwn.

    Ond, roedd ffasiwn a chwaeth yn newid a gwneuthurwyr ym Mhrydain yn ddrud a chwmnïau cynhyrchu ar fin symud i'r Dwyrain pell.

    Yn dilyn problemau ariannol, fe geisiwyd newid hynt y cwmni yn y 1990au ond heb fawr o lwyddiant.

    Fe achubwyd y cwmni i bob pwrpas yn 1998 gan Malayan United Industries a brynodd 40% o werth y cwmni. Ar waethaf yr holl drafferthion diweddar, mae enw Laura Ashley yn enwog ar draws y byd a'r cynllunydd o Ferthyr wedi gwneud enw go fawr ar sail cynllunio ar fwrdd cegin.

    Ei munud fawr: Agor y siop gyntaf yn Ne Kensington yn 1968.


    Cyfrannwch

    Annette Strauch o Fachynlleth & Yr Almaen
    'Rwy'n hoff iawn o ddillad Laura Ashley. Mae gen i sgertiau, cotiau, ffrogiau, trowsys, "cardis" a.y.y.b. Dwi ddim yn hoffi popeth - ond 'rwy'n hoffi "vintage", dillad gyda rhai o flodau (floral look). Gwares i lawer o arian mewn siopau Laura Ashley ym Mryste, Caerdydd - a Hanover, yr Almaen.Mae 'na cysylltiad Laura Ashley & Machynlleth (siop cyntaf hi?).Mi es i Langoed Hall - lle arbennig iawn hefyd.


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Peidiwch â datgelu eich cyfenw os ydych o dan 16 oed.
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

    Sylw:




    Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


    0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy