Un o feirdd mwyaf Cymru
Ychydig iawn a wyddom, mewn gwirionedd, am fywyd y bardd canoloesol Dafydd ap Gwilym. Ond awgrymir yn bendant iddo gael ei eni ym Mrogynin, Penrhyncoch, tua pum milltir i'r dwyrain o Aberystwyth.Yn ifanc iawn, fe symudodd gyda'i rieni i Lanbadarn Fawr, Aberystwyth a thybir iddo dreulio peth amser yng Nghastell Newydd Emlyn gyda pherthnasau.
Yn uchelwr, roedd ganddo ddigon o arian i deithio ar draws Cymru, yn ymweld â thafarndai yn y bwrdeisdrefi Normanaidd ac â phlasdai'r uchelwyr i'w diddori wrth adrodd ei gywyddau.
Dengys ei gerddi iddo gael ei hyfforddi yn nhraddodiad barddol ei genedl a gellir cysylltu ef â Beirdd y Tywysogion a fyddai'n canmol eu noddwyr tywysogaidd.
Fe ddylanwadodd rhai o ysgolheigion crwydrol Profens a Ffrainc sef y Glêr arno ac fe ddefnyddiodd eu themâu hwy yn ei waith megis natur a serch gan sôn am ddwy wraig yn arbennig sef Morfudd, bryd golau, a Dyddgu dywyll.
Mae ei ddefnydd o ddeialog awgrymog a hiwmor ysgafn yn newydd iawn ym marddoniaeth Cymru fel y dengys y llinellau hyn o'r gerdd Merched Llanbadarn:
Plygu rhag llid yr ydwyf,
Pla ar holl ferched y plwyf!
Am na chefais, drais drawsoed,
Onaddun yr un erioed,
Na morwyn fwyn ofynaig,
Na merch fach, na gwrach, na gwraig.
Py rusiant, py ddireidi,
Py fethiant, na fynnant fi?
Py ddrwg i riain feinael
Yng nghoed tywylldew fy nghael?
Nid oedd gywilydd iddi
Yng ngwâl dail fy ngweled i.
Mae cynnwys Dafydd ap Gwilym a'i dechneg barddol ystwyth yn rhoi dimensiwn newydd i'r traddodiad barddol yng Nghymru. Mae'r undod hwn o draddodiad barddol a dylanwadau mwy cyfoes yn sicr yn gosod barddoniaeth Cymru o fewn y traddodiad Ewropeaidd a hynny cyn y cofnodwyd gwaith Chaucer hyd yn oed.
Fe fu farw tua 1380 ac fe gredir yn gyffredinol iddo gael ei gladdu yn Abaty Ystrad Fflur ger Ponrhydfendigaid yng Ngheredigion. Mae'r abaty bellach yn adfail ond gosodwyd llechen goffa yno i'r gŵr a gaiff ei gydnabod yn un o feirdd mwyaf Cymru.
Gyda llaw, mae Dafydd yn enwog hefyd am ei helyntion caru. Nid bardd yn unig mo Dafydd ap Gwilym!