BBC HomeExplore the BBC

MERCHER
30ain Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y Celfyddydau
Dolwar Fach, cartref Ann Griffiths
Ann Griffiths

Ganwyd: 1776

Magwyd: Llanfihangel-yng-Ngwynfa ger Llanfyllin


Emynyddes Fethodistaidd, chaiff ei hadnabod fel y ddynes bwysicaf yn hanes llenyddiaeth Gymraeg cyn yr 20fed ganrif.

Wyddech chi? : Cyn i Ann Griffiths gael tröedigaeth, roedd hi'n ymwelydd cyson â Thafarn Efail Llwydiarth rhwng Llangadfan a Llanfyllin - man poblogaidd ar gyfer noson o ganu, storïa neu ddawnsio.

Roedd Ann Griffiths yn byw yng nghyfnod y diwygiad yng Nghymru, a chaiff ei chofio am ei hemynau a'i llythyrau. Mae'r emynau Cymraeg yma yn cyfleu ei phrofiad dwys hi o gred y Methodistiaid, ac maent wedi dod yn rhan bwysig iawn o wasanaethau crefyddol yng Nghymru.

Ganwyd Ann yn ffermdy Dolwar Fach ym mhentref bach gwledig Llanfihangel-yng-Ngwynfa, ger Llanfyllin ym Mhowys. Bu farw ei mam pan oedd Ann yn 17 oed, a hi felly oedd yn gyfrifol am gynnal y tŷ wedi hynny.

Er iddi gael ei magu yn yr Eglwys Anglicanaidd, dilynodd ei brawd i'r symudiad Methodistaidd ar ôl clywed pregeth y Parchedig Benjamin Jones yn Llanfyllin ym 1796.

Erbyn 1798, roedd Dolwar Fach yn un o'r prif ganolfannau pregethau Methodistaidd, a chafodd ei wneud yn fan addoli swyddogol ym 1803.

Bu farw tad Ann yn Chwefror 1804 ac yn Hydref y flwyddyn honno priododd â Thomas Griffiths, ffarmwr o blwyf Meifod, a hynafwr gyda'r Methodistiaid.

Rhoddodd enedigaeth i'w hunig ferch ym Mehefin 1805, ond bu farw'r baban bythefnos yn ddiweddarach. Bu farw Ann ei hun yn fuan wedyn, cafodd ei chladdu ar Awst 12 1805 ym Llanfihangel-yng-Ngwynfa, pan oedd yn 29 oed.

Emynau a Llythyron
Mae 70 emyn ac wyth llythyr wedi goroesi o'i heiddo, oll yn dangos ei gweledigaeth a'i hymwybyddiaeth o brofiad ysbrydol pobl.

O'r wyth llythyr sydd wedi goroesi, mae saith ohonynt wedi eu cyfeirio at John Hughes, o Bontrobert - pregethwr blaenllaw gyda'r Methodistiaid rhwng 1800 a 1804.

Yr wythfed llythyr, sydd hefyd o'r un cyfnod, yw'r unig lythyr a ysgrifenwyd gan Ann ei hun. Cafodd hwn ei ysgrifennu at Elizabeth - chwaer Ruth Evans, morwyn yn Nolwar Fach a briododd John Hughes yn ddiweddarach. Mae'r llythyr hwn ar ddangos yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth.

Ym 1802 dechreuodd Ann Griffiths ysgrifennu emynau a barddoniaeth. Byddai'n adrodd ei thraethodau i'w morwyn, Ruth Evans wrth gerdded o Dolwar Fach i wasanaethau crefyddol yn y Bala. Ychydig iawn o emynau ysgrifennodd ar bapur - dim ond un emyn sydd wedi goroesi yn ei llaw ysgrifen.

Mae'n debyg nad oedd Ann wedi bwriadu i'r emynau gael eu canu mewn gwasanaethau fel emynau cynulleidfaol. Er hynny, caiff Ann ei chydnabod fel yr unig emynydd Cymraeg arall a fedrai fod mor bwerus a dwys â William Williams Pantycelyn. Caiff yr emynau hyn eu hadnabod fel rhai o'i rhai gorau:"Dyma babell y cyfarfod ..." "O! Am gael ffydd i edrych ..." a "Wele'n sefyll fel y myrtwydd ..."

Yr Ysgrythur oedd prif ddylanwad Ann, mae ei gwaith yn llawn cyfeiriadaeth ato.

Yn dilyn ei marwolaeth ym 1805, adroddodd Ruth yr emynau i'w gŵr a'i hysgrifennodd i lawr ar bapur. Flwyddyn yn ddiweddarach, fe'u cyhoeddwyd (o gof Ruth) fel 'Casgliad o Emynau' gan y Parchedig Thomas Charles .

Dewisodd y Dr Rowan Williams un o emynau Ann Griffiths - "Yr Arglwydd Iesu" i gael ei chanu yn y seremoni pan gafodd ei orseddu yn Archesgob Caergaint yn Chwefror 2003. Cyfieithodd yr emyn ei hun a credir mai dyna'r tro cyntaf i waith yr archesgob ei hun fod yn rhan o'r seremoni.

Perfformiodd Cwmni Theatr Maldwyn ddrama gerdd am hanes bywyd Ann Griffiths yn Eisteddfod Genedlaethol Meifod 2003. Bu'r sioe ar daith ddechrau Ionawr 2004 - a dyma'r sioe olaf i'r cwmni theatr ei pherfformio. Ewch i ddarllen mwy am y sioe.

Stori Newyddion: Cofio'r Ferch o Ddolwar Fach

Cliciwch yma i weld oriel o luniau o'r Gymanfa Ganu a gynhaliwyd yn Nolganog er cof am Ann Griffiths, ar Awst 14, 2005.


Cyfrannwch

Annette Strauch
Canes i rhai o emynau Ann Griffiths mewn Eglwys y Crwys yng Nghaerdydd."Wele'n sefyll fel y myrtwydd ..."
Fri Feb 6 21:59:43 2009


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy