BBC HomeExplore the BBC

SUL
29ain Tachwedd 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
cantorion
Siân James
Siân James

Ganwyd: 1962

Magwyd: Llanerfyl, Sir Faldwyn

Addysg: Ysgol Gynradd Llanerfyl, Ysgol Uwchradd Llanfair Caereinion a Phrifysgol Cymru, Bangor


Cyn aelod o'r grŵp Bwchadanas, yn un o gantoresau gwerin amlyca' Cymru ac arweinydd Parti Cut Lloi.

Ganed yn Llanerfyl, Sir Faldwyn yn 1962 a chafodd ei haddysg yn Ysgol Gynradd Llanerfyl, Ysgol Uwchradd Llanfair Caereinion a Phrifysgol Cymru, Bangor, lle graddiodd mewn Cerddoriaeth, ac ennill cymhwyster dysgu.

Fe'i magwyd ar aelwyd ddiwylliedig, ac fe'i trwythwyd yn y pethe o oedran cynnar. Dechreuodd gystadlu a chymryd rhan mewn eisteddfodau pan oedd ond yn dair oed, a dysgodd i ganu'r piano yn chwech oed, y feiolin yn wyth oed a'r fiola yn un ar ddeg oed. Cyn ei bod yn ddeunaw, roedd wedi dechrau perfformio'n fyw ar lwyfan gyda'i dehongliad o ganeuon gwerin Cymraeg, ynghyd â chyfansoddiadau ei hun - arwydd clir o'r hyn oedd i ddod.

Tra yr oedd yn y coleg, datblygodd ei diddordeb mewn cyfansoddi o dan ddylanwad ei thiwtor a'r cyfansoddwr enwog, William Mathias. Yn yr un cyfnod, ffurfiodd y band gwerin Bwchadanas gyda chriw o ffrindiau. Rhyddhawyd un albym 'Cariad Cywir', sy'n gyfuniad bywiog o arddulliau gwerin a roc.

Ym 1990, rhyddhaodd Siân James ei halbym unigol cyntaf, 'Cysgodion Karma' sy'n gymysgedd o ganeuon traddodiadol a gwreiddiol ac roedd ei hail albym 'Distaw' yn cynnwys caneuon gwreiddiol yn bennaf, ond roedd unwaith eto yn cynnwys dehongliadau ei hun o ganeuon gwerin traddodiadol.

Traddodiadol yn unig oedd 'Gweini Tymor' a ryddhawyd yn 1996, ond roedd y nesaf 'Di-gwsg' yn ganeuon gwreiddiol mewn arddull Geltaidd. Comisiynwyd ei phumed albym 'Birdman' fel trac sain i gyfres chwe rhaglen gan BBC 2 o'r un enw. Mae ei chasgliad diweddaraf 'Pur' (2001) yn fwy o adlewyrchiad o'i pherfformiadau byw, gan mai dim ond llais a thelyn a glywir.

Fel rhan o'r grŵp Bwchadanas ac fel perfformiwr unigol, mae Siân James wedi teithio yn helaeth o amgylch o byd, gan chwarae mewn gwyliau a chyngherddau yn y gwledydd Celtaidd, Ffrainc, Sbaen a Gogledd America.

Mae cryn ddiddordeb yn ei gwaith ar lefel ryngwladol, ac mae wedi chwarae rhan flaenllaw yn yr adfywiad mewn cerddoriaeth Geltaidd draddodiadol a welwyd dros y blynyddoedd diwethaf, yn enwedig yng ngogledd America.

Bydd Siân James yn adnabyddus i wylwyr S4C hefyd fel actores mewn ffilmiau fel Y Dylluan Wen a chyfresi fel Iechyd Da. Bu ganddi gyfres ei hun am gyfnod hefyd, lle gwahoddodd artistiad gwerin rhyngwladol fel The Saw Doctors a Capercaillie i gymryd rhan, arwydd o'r parch sydd ati yn y cylchoedd gwerin a chanu Celtaidd.

Gyda'i llais clir, melys, sy'n offeryn amryddawn ynddo'i hun, ar adegau yn gorwynt o gryf, dro arall yn gysurlon o dyner, go brin ein bod wedi clywed hanner yr un sydd gan y berfformwraig dalentog hon i'w gynnig.

Sian James, yn anad neb arall, yw wyneb canu traddodiadol Cymreig yng ngolwg y byd, a bydd yn ddiddorol gweld dros y blynyddoedd nesaf i ba gyfeiriad yr aiff yn gerddorol a phroffesiynol.

Mae Siân James hefyd yn arweinydd Parti Cut Lloi, criw o ddynion yn Sir Drefaldwyn sy'n diddanu cynulleidfaoedd yn canu alawon gwerin a pherfformio sgetsys byrion mewn neuaddau pentre' ledled Cymru.


Cyfrannwch

Annette Strauch
Pan mi oeddwn i'n byw yn yr Almaen mi brynais i lawer o dapiau Sian James. Llais hyfryd!Hen ffeffryn i: "Ac mae ffordd yn hir...!"
Fri Feb 6 17:35:50 2009

Aberfa
waw....ti'n actio mor dda. Dwi eisiau bod fel ti pan dwi yn fawr - canu actio POB DIM!
Sun Feb 3 15:49:40 2008


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy