Piler cymdeithas Ceredigion a aeth yn swagmon yn Awstralia
Disgrifiwyd Joseph Jenkins gan yr Athro Hywel Teifi Edwards fel yr
alltud rhyfeddaf y gwyddai amdano. Esgyrn sychion ei hanes yw
iddo deithio'r holl ffordd o Dregaron i Awstralia a chrwydro fel
swagman yn y wlad anferth honno.
Yna, wedi dros chwarter canrif yn
alltud, teithiodd yn ei ôl i Dregaron unwaith eto.
Ond o roi cig ar yr esgyrn, ni allai'r un dramodydd, fel y dywedodd
ei gofiannydd, Bethan Phillips, fod wedi mentro creu cymeriad tebyg
i Joseph Jenkins.
Am ugain mlynedd bu'n ffermio Trecefel ger
Tregaron, ond daeth problemau personol i'w ran a phenderfynodd ei
ddadwreiddio'i hun.
Felly, ym mis Rhagfyr 1868, ac yntau'n hanner
can mlwydd oed, cododd ei bac ac anelu am stesion Tregaron.
Pen y
daith yn gyntaf oedd Aberystwyth, lle prynodd docyn trên arall am
Lerpwl, ac oddi yno bwriadai hwylio am Awstralia.
Magwraeth wledig
Brodor o Ddyffryn Aeron oedd Joseph Jenkins. Ganwyd ef yn
ffermdy Blaenplwyf yn un o dri ar ddeg o blant.
Daeth brawd iddo,
John, yn enwog fel bardd, gan fabwysiadu'r enw barddol Cerngoch.
Yn wir, roedd Joseph ei hun yn fardd hefyd, yn un ymhlith nythaid o
feirdd yn Nyffryn Aeron.
Mabwysiadodd yr enw barddol Amnon II,
ond cymwynas fawr Joseph â'i genedl oedd iddo gadw dyddiadur
hynod o fanwl ar hyd y blynyddoedd.
Dengys ei nodiadau dyddiadurol iddo fwynhau'r ddiod gadarn, a
bu hynny'n broblem iddo drwy ei oes.
Dechreuodd garu ag Elizabeth
Evans, merch fferm Tynant, a phriodwyd hwy ar 31 Gorffennaf
1846.
Ymhen ychydig flynyddoedd, ymfudodd dau o'i frodyr gan
ymsefydlu yn Wisconsin. Tybed a fu hynny'n symbyliad i Joseph
adael yn ddiweddarach ar daith lawer pellach?
Piler cymdeithas
Yn y lle cyntaf,
bodlonodd Joseph a'i wraig a'i blentyn newydd-anedig ar fynd cyn
belled â Thregaron yn unig, i ffermio Trecefel.
Hwy oedd yr unig
deulu Undodaidd yn y cylch, ond yna fe drodd Joseph i fod yn
eglwyswr selog.
Fe'i gwnaed hefyd yn Gwnstabl Plwyf, a
dechreuodd droi mewn cylchoedd pwysig gan ei daflu ei hun i
wleidyddiaeth leol.
Daeth yn ffrindiau â theulu Powell Nanteos, teulu
Vaughan y Trawscoed a David Davies Llandinam.
Dros y blynyddoedd ychwanegwyd pum plentyn arall at y teulu -
mab arall a phedair merch.
Bu farw'r mab hynaf, Jenkin, yn 17
mlwydd oed.
Ar ôl degawd llwyddiannus o ffermio, dechreuodd
ffawd Joseph Jenkins droi.
Dechreuodd ei ffortiwn edwino, aeth i
ddyled ac aeth hefyd i yfed yn drymach.
Roedd pethau mor ddrwg
nes i Elizabeth benderfynu mynd adref i fyw at ei theulu a
phenderfynodd Joseph adael am y wlad bell gan deimlo fod pawb a
phopeth yn ei erbyn.
O ddrwg i waeth
Gadawodd Lerpwl ar yr SS Eurynome fel teithiwr ail ddosbarth.
Wedi tri mis o fordaith stormus, glaniodd y llong yn Port Phillip ac
aeth Joseph yn ei flaen am Melbourne.
Cariai ei holl eiddo ar ei gefn,
gan gynnwys ei Feibl Cymraeg, llyfrau barddoniaeth a'i
ddyddiaduron.
Ond fel y mab afradlon gynt, roedd Joseph wedi
cyrraedd gwlad oedd yn waeth o lawer na'r un a adawsai.
Doedd fawr
ddim gwaith ar ei gyfer ar y tir, a'r unig ateb oedd mynd yn swagman.
Aeth ei deithiau ag ef trwy ddiffeithwch a thrwy'r gwyllt.
Cyrhaeddodd y tiroedd cloddio aur yn Victoria, ond buan y
sylweddolodd fod mwy o arian i'w gael o drin y tir yn Nhrecefel nag
oedd o aur o dan y tir yn Awstralia.
Yn Ballarat bu'n cystadlu yn yr
eisteddfod; yn wir, bu'n fuddugol ar yr englyn yno am dair blynedd
ar ddeg yn olynol.
Cododd ei bac gan deithio tua Castlemaine, Taradale a Maldon.
Crwydrodd o fferm ddefaid i fferm ddefaid. Câi waith achlysurol yn
trin y tir, yn torri coed ac yn cneifio.
Aeth teithiau Joseph Jenkins ag ef ar grwydr o Melbourne a Geelong
yn ne Victoria ac ar draws o Skipton i Castlemaine.
Derbyniai ambell
lythyr o'i gartref ac un dydd, er mawr sioc a galar iddo, darllenodd i'w
fab, Lewis, farw yn ugain oed.
Er gwaetha'r hiraeth, arhosodd yn y wlad
bell gan ddechrau ymhél â gwleidyddiaeth.
Tystia ei ddyddiaduron i hynt a helynt ei fywyd dros y blynyddoedd.
Aeth yn ôl i Ballarat, ac ar ddydd Nadolig 1869 gwnaeth araith ar ffurf
22 o benillion o lwyfan yr eisteddfod yno.
Clywodd am farwolaeth ei
fam.
Ar ddiwedd 1873 ymunodd â mudiad dirwestol.
Y flwyddyn
ddilynol, dioddefodd o salwch drwg a chafodd ei frathu, nid am y tro
cyntaf, gan sarff wenwynig.
Fis Mehefin 1876 clywodd am farwolaeth
ei dad-yng-nghyfraith.
Ym mis Chwefror 1877 mae'n adrodd iddo
aredig un erw ar ddeg o dir mewn wyth diwrnod.
Ar ddydd Gŵyl
Ddewi 1878 enillodd y wobr gyntaf, fel arfer, ar yr englyn yn Ballarat.
Erbyn 1879 ymddengys fod ei iechyd gryn dipyn yn well.
Yn 1880
ymddiddorai Joseph yn helynt yr herwr Ned Kelly, gan ddanfon
hanesion am Kelly a'i gang i'w deulu adref.
Yn 1882 cododd gaban
iddo'i hun yn North Walmer, a hwn oedd ei gartref sefydlog cyntaf ers
iddo gyrraedd Awstralia.
Yna clywodd am farwolaeth un arall o'i blant,
Margaret, yn 32 mlwydd oed.
Treuliodd hanner 1883 yn ddi-waith cyn
cael gwaith parhaol gyda'r Cyngor yn Maldon yn glanhau ffyrdd am
bunt yr wythnos.
Yn ystod haf 1887 cawn ei hanes yn cymryd
Aborigini i mewn i'w gaban am fwyd a llety.
Dychwelyd adref
Ac yntau bellach yn 72, teimlai'n rhy hen a llesg i weithio.
Clywodd wedyn am farwolaeth ei fab, Ieuan, o'r dwymyn goch ac
yna, ym mis Mai 1894, am farwolaeth ei frawd, Cerngoch.
Y
colledion hyn a wnaeth iddo benderfynu mynd adref o'r diwedd - cyn
y byddai pob un o'i gyfoedion a'i deulu wedi mynd o'i flaen.
Llwyddodd i grafu digon o arian ynghyd i adael Awstralia ar yr SS
Ophir.
Cyrhaeddodd i Lundain ddechrau mis Ionawr 1895, ac yno'n
disgwyl amdano ar y cei roedd pum perthynas iddo.
Ni wnaeth yr un
ohonynt ei adnabod gan fod Joseph, erbyn hyn, yn hen ŵr, yn grwm
ac yn fusgrell.
Ddeuddydd yn ddiweddarach roedd Joseph yn ei ôl yn
Nhrecefel, ond teimlai fel estron yn ei wlad ei hun.
Bu farw ar 26 Medi 1898 ac fe'i claddwyd ym mynwent Capel y
Groes, Llanwnnen. Bellach, ym mhen draw'r byd ym Maldon ceir
ffynnon goffa i'r swagman o Dregaron.
Mae ei ddyddiaduron ar restr
ddarllen holl ysgolion uwchradd Victoria ac mae pobl yn heidio i
ddilyn y Swagman's Tour.
Yr eironi yw fod Joseph Jenkins yn cael ei
werthfawrogi'n fwy yn Awstralia bell nag y mae yma yng Nghymru.
Lyn Ebenezer