BBC HomeExplore the BBC

SADWRN
19eg Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Adar Brith
George Powell, Llun drwy garedigrwydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru
George Powell

Ganwyd: 1842

Magwyd: Ceredigion


Dafad ddu teulu bonedd Plas Nanteos

Ar y muriau y tu mewn i eglwys hynafol Llanbadarn Fawr, lle bu Sulien yn cynnal ysgol dros fil o flynyddoedd yn ôl, ceir meini coffa i aelodau un o deuluoedd bonedd mwyaf nodedig yr ardal, sef Powelliaid Nanteos.

Fe barhaodd eu cysylltiad â Nanteos am 250 o flynyddoedd, ac wrth ddarllen y beddargraffiadau ar y meini mae modd eu holrhain o'r uniad priodas a arweiniodd at ddyfodiad y Powell cyntaf i'r plas hyd ganol y ganrif ddiwethaf, pan fu farw'r olaf o'r llinach.

Dim ond un aelod o'r teulu a gladdwyd y tu allan i furiau'r eglwys.

George Powell oedd hwnnw, un a fu'n sgweier Nanteos am bedair blynedd.

Claddwyd George mewn bedd cyffredin a di-nod wrth ystlys yr eglwys sy'n wynebu'r ffordd fawr. Heddiw mae drain ac ysgall yn cuddio bedd dafad ddu'r teulu Powell.

Roedd George yn enigma. Yn ddisgynnydd i linach o filwyr nodedig, roedd yn casáu rhyfel.

Yn ddisgynnydd i linach o helwyr amlwg, roedd yn casáu hela.

Yn ddisgynnydd i linach a fu'n amlwg mewn gwleidyddiaeth leol a Phrydeinig, roedd yn casáu unrhyw beth yn ymwneud â gwleidyddiaeth.

Yn ddisgynnydd i deulu a roddai bwyslais ar olyniaeth, roedd George yn wrywgydiwr.

Celfyddyd a'r gansen

Roedd George yn hoff iawn o'r celfyddydau cain. Roedd yn gyfarwydd â Wagner ac Offenbach, Liszt a Clara Schumann.

Ysgrifennai'n rheolaidd at Longfellow. Roedd yn ffrind personol i Swinburne ac yn hanner-addoli'r Marquis de Sade.

Mae'n debyg i George a Swinburne gyfarfod yn Eton, lle datblygodd y ddau, yn dilyn y defnydd o'r gansen fel cosb, hoffter at fasochistiaeth.

Cadwai'r ddau dŷ yn Normandi lle byddai bob amser griw dihysbydd o fechgyn ifanc yn tendio arnynt.

Cadwent fwncïod hefyd, a hynny am resymau digon amheus, ac fe ddywedodd neb llai na Guy de Maupassant fod Powell wedi gweini iddo fwnci wedi'i rostio.

Mynnai hefyd fod ganddo law ddynol wedi'i phiclo, a defnyddiai hi ar ei ddesg i gadw papurau yn eu lle.

Mae'n debyg yr hoffai George sugno ar fysedd y llaw fferllyd!

Daeth arferion rhyfedd Powell mor amlwg fel i Ralph Waldo Emerson ei gyhuddo'n gyhoeddus o fod yn sodomiad, cyhuddiad a wadwyd yn llwyr ganddo.

Mae'n bosibl mai fel ymateb i'r cyhuddiad hwn yr aeth Swinburne ati i geisio profi nad oedd ef o'r un tueddiad drwy fynychu puteindy yn St John's Wood a gwahodd Powell i ymuno ag ef yno.

Y chwedl a'r chwip

Am ryw reswm, daeth George o dan ddylanwad diwylliant a hanes Gwlad yr Iâ. Cyhoeddodd gyfrolau o'i farddoniaeth ei hun o dan y ffugenw Mjolnir, sef yr enw ar forthwyl y duw rhyfel, Thor.

Ond erbyn hyn roedd ei arferion rhywiol a'i yfed trwm wedi ei wneud yn esgymun gan y teulu.

Gwaharddwyd ef a Swinburne o Nanteos, ond byddai Swinburne yn dal i ymweld â'r ardal gan aros gyda George yn Aberystwyth.

Amlygodd George ei werthfawrogiad drwy gyflwyno i'r bardd rai o lythyron de Sade, gwialen fedw a ddefnyddiwyd yn Eton, a llun o'r dodrefnyn a ddefnyddid ar gyfer clymu disgyblion arno i'w chwipio.

Erbyn hyn roedd chwedl Cwpan Nanteos wedi lledaenu'n eang.

Yr hanes a grëwyd oedd mai hwn oedd y Greal Sanctaidd a gludwyd yn wreiddiol i Glastonbury ac yna i Ystrad Fflur lle cafodd ei ddefnyddio fel Cwpan Iacháu cyn i fynach ei achub rhag milwyr Lloegr pan ddiddymwyd y fynachlog a'i ddwyn yn ddiogel i Nanteos.

Honnwyd ymhellach i Wagner ymweld â'r plas ac iddo wirioni cymaint ar y chwedl fel iddo gyfansoddi'r opera Parsifal. Ffantasi lwyr oedd hyn, er ei bod hi'n debygol i George gyfarfod â'r cyfansoddwr.

Bedd George Powell Er gwaetha'i ffordd ryfedd o fyw, etifeddodd George blasty Nanteos.

Dywedir i'w dad unwaith, er mwyn ceisio creu diddordeb ynddo mewn hela, gyflwyno iddo ddryll hela a rhoi gorchymyn iddo fynd allan i saethu rhywbeth.

Am unwaith, ufuddhaodd George i orchymyn ei dad. Aeth allan a saethu eidion gorau stad Nanteos.

Nid yn unig y bu i George etifeddu Nanteos, ond fe fentrodd briodi hefyd, er mai priodas wedi'i threfnu er mwyn taflu llen dros fywyd rhywiol George oedd hi.

Dywedir mai morwyn fach a fu'n tendio ar George tra oedd yn gwaelu yn ardal Wdig oedd ei wraig.

Yn fuan wedi marwolaeth George, fe ailbriododd hi a symud i fyw i America.

Bu farw George yn 1882, a hynny, yn ôl papur lleol, o effeithiau cramp eithafol.

Claddwyd y cyntaf - a'r olaf - o'r teulu Powell y tu allan i furiau'r eglwys.

Y cymeriad rhyfeddaf

Er gwaethaf ei foesoldeb amheus, roedd i George lawer o agweddau cadarnhaol.

Roedd yn gasglwr toreithiog o lyfrau, dogfennau a lluniau a chyflwynodd y rhan fwyaf o'i gasgliadau i'r Brifysgol yn Aberystwyth ac i sefydliadau lleol eraill.

Ceisiodd sefydlu oriel gelf yn y dref, ac er gwaetha'i ddiffyg diddordeb mewn gwleidyddiaeth, fe'i gwnaed yn Uchel Siryf Ceredigion.

Saif Plas Nanteos o hyd, bron yn ddigyfnewid o ran ei ffurf o ddyddiau George.

Erys ar ei ôl hefyd y Stafelloedd Ymgynnull a godwyd ar gyfer dawnsfeydd a pherfformiadau cerddorol a chwaraeon.

Erys cwpan enwog mewn banc yn ardal Amwythig, ac er bod sôn am ysbrydion yn cyniwair yn Nanteos does neb, hyd yma, wedi gweld ysbryd yr hen George.

O linach y teulu Powell, a fu'n ei lordio hi am ddwy ganrif a hanner yn Nyffryn Paith ger Aberystwyth, does dim amheuaeth mai George oedd y cymeriad rhyfeddaf o blith teulu rhyfeddol.

Gan Lyn Ebenezer


Dweud eich Dweud

Bedd George Powell

0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy