BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Dweud eich Dweud

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Fferm wynt Egni adnewyddol - y dyfodol yn Nyffryn Teifi?
Dylan Davies yn edrych ar y ddadl o blaid ac yn erbyn egni adnewyddol o ffermydd gwynt i baneli solar.

Ers blynyddoedd, mae gwyddonwyr, amgylcheddwyr a'r llywodraeth eisiau i ni ddefnyddio llai o drydan fel bod modd llosgi llai o danwydd ffosil gan ei fod yn arwain at newid yn yr hinsawdd.

Yn fy marn i, nid yw'r newid yn yr hinsawdd yn ddim i wneud â dyn, ond yn hytrach yn newid naturiol. Ond, beth bynnag am hynny, mae tanwydd ffosil yn mynd i redeg allan. Nawr yw'r amser i edrych am danwydd newydd. Yn ôl y llywodraeth, egni adnewyddol sydd yn defnyddio egni naturiol yr haul, gwynt a dŵr yw'r ffordd ymlaen. Targed y llywodraeth erbyn 2010 yw bod 10% o'r trydan yr ydym yn ei ddefnyddio yn egni adnewyddol.

Dadl y fferm wynt
Bore yma, llithrodd llythyr trwy'r blwch post i gynnig fferm wynt ar fferm yn Alltwalis. Wrth gwrs, mae hyn wedi codi ychydig o nyth cacwn yn yr ardal. Cred rhai bod y math yma o gynhyrchu egni yn wael gan ei fod yn anharddu'r ardal. I fod yn onest, mae'n rhaid cytuno. Rhyw ffordd neu gilydd maent yn edrych allan o le. Mae'r rhai enfawr sydd wedi cael eu codi ar bwys Castell Newydd Emlyn yn gallu cael eu gweld mor bell â Boncath yn Sir Benfro.

Ar ôl i'r twrbeini gwynt gael eu hadeiladu am y tro cyntaf, y peth cyntaf ddaeth i'r meddwl oedd 'waw' Rwy'n dal yn meddwl hynny wrth eu pasio. A oes rhaid adeiladu twrbein gwynt mor uchel? Pan rydw i wedi bod dramor yn Norwy, yr Iseldiroedd a'r Almaen, mae'r twrbeini gwynt llawer yn llai o ran uchder.

Gwartheg yn pori o dan fferm wynt yn Swydd EfrogOnd, problem wrth adeiladu'r twrbeini yn isel yw nad oes modd amaethu'r tir oddi tanynt, ac hefyd nid ydynt yn cael yr effaith fwyaf o'r gwynt. Felly trwy eu hadeiladu yn uwch mae'n bosib amaethu'r tir o dan y twrbein, ac hefyd mae modd dal y gwynt cryfaf.

Felly ai pris bach am egni adnewyddol yw anharddu'r amgylchedd? Yn ôl yr arbenigwyr yn y maes mae rhagor, nid yn unig mae yn effeithio ar brydferthwch yr ardal ond mae hefyd yn effeithio ar ecoleg yr ardal; yn enwedig yr adar. Maent yn poeni bydd yr adar yn hedfan i mewn i'r twrbeini. Heblaw am addysgu'r adar i beidio hedfan i mewn i'r tŵr, byddai'n rhaid gwneud gwaith ymchwil i wneud yn siŵr bod dim effaith ar fywyd gwyllt. Yn ôl y daflen, mae'r ymchwil wedi ei wneud yn barod i sicrhau na fydd effaith ar fywyd gwyllt yr ardal.

'Beth am y sŵn'? Dwi'n clywed rhai yn sgrechian. Yn bersonol, dwi wedi sefyll ar bwys fferm Castell Newydd Emlyn, ac nid oes llawer o sŵn gan y fferm. Os nad egni gwynt yw'r ffordd ymlaen yna beth arall sydd i'w gynnig?

Egni dŵr a'r haul
Egni dŵr ac egni'r haul fyddai'n bosib mewn ardal wledig Dyffryn Teifi. Wrth gwrs, mae egni dŵr wedi cael ei ddefnyddio ar raddfa fach ar gyfer diwydiant o'r blaen, ond beth am raddfa fawr? Mae pŵer dŵr wedi cael ei ddefnyddio o'r blaen i bweru cartrefi Pont-Tyweli. Pam na fyddai'n bosib i ddefnyddio pŵer afon Teifi i roi trydan i'n cartrefi? Mae'r afon yna yn barod ac mae'r pwerdy yno o hyd. Rydym yn cael digon o law, ac mae nifer o adeiladau ar bwys yr afon y byddai'n bosib eu defnyddio i greu trydan ac hefyd byddai'r effaith ar fywyd gwyllt yn fach iawn.

Beth am egni'r haul? Mae'n bosibl i ddefnyddio'r haul i dwymo dŵr ac i greu trydan yn ein cartrefi yn barod trwy baneli solar. Felly, pam na fyddai'n bosib i ddefnyddio egni'r haul? Y broblem yng Nghymru yw nad ydym yn cael llawer o haul, ac fel y darganfyddais yn ddiweddar pan y bum yn edrych mewn i'r posibilrwydd o dwymo'r dŵr trwy ddefnyddio gwres yr haul neu 'solar power' mae cael y system i mewn i'r cartref yn gostus iawn.

I gloi, mae yna nifer fawr o bosibiliadau am egni adnewyddol, ac er bod cais cynllunio i adeiladu fferm wynt ar bwys Talgarreg wedi ei wrthod mae'n rhaid cofio bod yn rhaid symud ymlaen hefyd. Byddai'n well gennyf i os byddai egni adnewyddol yn dod o wahanol ffynonellau yn hytrach na dim ond dibynnu ar egni'r gwynt. Yn genedlaethol, mae egni'r môr ac egni bio-thermal yn cael ei dreialu yn barod. Ond tybed beth fydd yn pweru ein cartrefi yn y dyfodol? Yr unig beth sydd yn sicr, nid wyf am dderbyn egni niwclear.

Gan Dylan Davies o Landysul

Cyhoeddwyd yr erthygl hon fel rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng BBC Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.


Cyfrannwch

Becca a Lauren o Rhydywaun
rydw in meddwl fod yr dyfodol yn mwy gwyrdd ir byd diolch i tyrbin gwynt ! (: Diolch , Beccaa Ond dwin hoff iawn or bywch y dweid y gwir Gallw fo Lauren ;),,,,,,Seit dda Iawn neis Deall Popeth ac joio.Dwyn Hoff iwan or buwch Galw e daisy dal ati gan Lauren Blwyddyn 9 ysgol gyfun Rhydywaun ! Hello pawb :L
Mon Jun 8 10:34:38 2009

Lauren a Becca, y.g.rhydywaun bl 9
yn fy marn i mae egni adneweddol gwynt , yn syniad dda i cadw ein ddaear yn gwyrdd . Diolch yn fawr iawn(:
Mon Jun 8 10:01:18 2009

Rhiannon Jones
Mae ffermydd gwynt yn syniad da iawn. mae'n ffordd i cael egni heb niweidio'r amgylchedd. mae'n creu golygfa anniben yn anffodus ac yn gwneud i'r gwla edrych yn 'messy'.
Sun Nov 30 14:38:30 2008

Nicole
Yn fy marn i dwin credu fod mae ffermydd gwynt yn syniad da ond ar y llaw arall dydy nhw ddim yn edrych yn pert iawn ac maen nhwn creu gormod o swn.
Sun Oct 5 14:03:04 2008

Michael o ysgol gyfun cwm rhymni
rydw i yn meddwl bod fferm gwynt yn peth dda aschos mae pobl heddiw ddim on yn poeni amdano nhw ddim y pobl yn y dyfodol. Ac mae nhw yn creu typin bach o swn ond ddim digon o swn i cadw pobl i fynnu. diolch
Thu May 3 14:35:50 2007

will parker o rhyl
Seit dda iawn. Diolch yn fawr i chi gyd.
Wed Jan 24 15:01:53 2007

bl.6 @ ysgol pencae caerdydd
Rydyn ni'n meddwl bod ffermydd gwynt yn syniad da ond gallen nhw fod yn swnllyd/stopio'r olygfa. :)
Wed Jan 17 15:04:08 2007


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Peidiwch â datgelu eich cyfenw os ydych o dan 16 oed.
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy