BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Dweud eich Dweud

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Tŷ ar werth Diffyg tai i bobl leol!
Dylan Davies o Landysul yn dweud ei ddweud am y broblem o ddiffyg tai fforddiadwy yn ei fro enedigol, Dyffryn Teifi.
Dyffryn Teifi; ardal, hyfryd prydferth i fyw ynddi, cefn gwlad ar ei orau. Agos i dawelwch yr arfordir ac yn agos i fwrlwm tref Caerfyrddin ac wrth goridor yr M4.

Un broblem yng nglŵm â'r ardal yma, a hefyd gweddill Cymru. Diffyg tai fforddiadwy i bobl ifanc. Mae'n broblem, mae'n siŵr sydd yn poeni llawer o rieni myfyrwyr, a phobl sydd naill ai ar fin dechrau teulu neu ar fin priodi. Pam bod prisiau tai mor uchel yn yr ardal yma ac yn wir dros Gymru gyfan, gan fod Cymru yn cael ei chyfri fel un o wledydd tlotaf Ewrop - yn wlad amcan un?

Y broblem fwyaf yw bod prisiau tai trwy'r wlad gan gynnwys dros y ffin yn Lloegr yn uchel iawn. Yn ystod y ddeng mlynedd diwethaf mae prisiau tai wedi mynd drwy'r to, heibio'r simnai ac wedi saethu'r holl ffordd fyny at yr ariel teledu. Yn ôl arolwg yn ddiweddar prisiau tai yng Nghymru, ac yn enwedig mewn ardaloedd gwledig sydd wedi cynyddu fwyaf.

Wrth gwrs, yn Lloegr, nid yw'r broblem mor fawr â hynny gan fod y cyflogau llawer iawn yn well, ond yma yng Nghymru, mae'n stori wahanol.

Problem arall sydd yng Nghymru yw bod pobl 'ddŵad' yn gwerthu eu tai am £400,000 dyweder, ac yn prynu tŷ yng Nghymru am lai o arian na beth maent wedi gwerthu eu tŷ nhw yn Lloegr neu thu hwnt. Yr effaith mae hyn yn ei gael wrth gwrs ydy gwthio prisiau tai yng Nghymru i fyny, ac allan o afael pobl ifanc lleol sydd eisiau prynu tŷ. Mae llawer o fewnfudwyr yn prynu tai yng Nghymru fel tai haf, a rhai eraill yn prynu tai fel buddsoddiad.

Gyda phrisiau tai dros gan mil o bunnoedd, a thai gydag ychydig bach o dir yn agos iawn i'r ddau gan mil; pa obaith sydd gan bobl ifanc sydd newydd ddod allan o'r coleg gyda dyled enfawr, ac eisiau prynu tŷ i ddechrau teulu? Mae'n rhaid cael morgais uchel iawn a chlymu'r morgais lawr am 30-40 mlynedd. Nid yw'n ddechreuad perffaith i fywyd teuluol.

I siarad yn bersonol, oherwydd fy mod yn gweithio daeth yr awydd i fuddsoddi mewn tŷ. Wedi chwilio ar y we yn yr asiantaeth dai, roedd ambell i dŷ o fewn pris rhesymol, ond ar ôl gweld, roedd llawer o waith i'w wneud arnynt, felly roedd rhaid ail edrych a mynd am bris uwch. Ar ôl ymweliad â'r banc, gwelais y byddai'n rhaid benthyg dros gyfnod o drideg mlynedd a'r taliadau nôl a'r llog yn profi yn faich ariannol.

Penderfynais y bydd yn rhaid aros adref a chynilo fwy os wyf am brynu tŷ ac aros yn Nyffryn Teifi.

Beth am renti? Ers i'r 'hawl i brynu' ar dai cyngor ddod mewn i rym yn Hydref 1980 mae'r rhan fwyaf o'r tai cyngor wedi'u gwerthu. Er bod Tai Cantref yn prynu tai a'u gosod ar rent maent yn brin iawn. Mae tai ar rent yn brin iawn yr ardal yma, oni bai eich bod yn fodlon byw mewn fflat.

Beth yw'r ateb? Er bod y ddadl o godi 6000 mil o dai yng Ngheredigion dair blynedd yn ôl wedi bod yn ddadl boeth, ac ar y pryd roeddwn i yn erbyn y syniad, ond ar ôl ystyried, efallai mai dyma'r ateb. Os byddai Ceredigion yn codi'r tai yma, ac yna yn eu rhenti i bobl ifanc y fro, pobl sydd wedi cael eu geni, a'i magu yn yr ardal, ac nid cael eu gwerthu i bobl dros y ffin. 'Tai fforddiadwy i bobl leol.' Efallai y byddai hyn yn ffordd i'r bobl ifanc gael un droed ar yr ysgol dai, a hefyd yn sicrhau bod y Gymraeg yn dal ei gafael mewn ardaloedd gwledig.

Ar ôl ystyried, faint o bobl ifanc y fro sydd wedi hedfan o'r nyth i fynd i'r coleg ac wedi profi bywyd a bwrlwm y ddinas, faint fyddai'n barod i ddod 'nôl neu hyd yn oed ystyried dod 'nôl i'r ardal yma, lle mae gwaith a chyfleoedd yn brin iawn. Gwasg Gomer mae'n siŵr yw cyflogwr mwyaf ardal Ceredigion, ac mae rhan fwyaf o'r gweithwyr yn dod o'r ardal leol.

Mae'r cyfleoedd gwaith a hamdden yn well yng Nghaerdydd, gan fod Llywodraeth y Cynulliad yn fy marn i yn credu bod Cymru yn dechrau ac yn gorffen yng Nghaerdydd. Os nad oes gwaith, cyfleoedd a chyfleusterau eraill yn dechrau dod i ardaloedd gwledig fel Dyffryn Teifi, bydd yn gwthio pobl ifanc i'r ddinas.

Bydd yr ardaloedd cefn gwlad yn colli eu ieuenctid, bydd Dyffryn Teifi yn bod, ond ardal i ymddeol ynddo i gyfoethogion Lloegr, a bydd prisiau tai yn dal i gynyddu.

Erthygl gan Dylan Davies o Landysul

Cyhoeddwyd yr erthygl hon fel rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng BBC Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Peidiwch â datgelu eich cyfenw os ydych o dan 16 oed.
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy