BBC HomeExplore the BBC
Nid yw'r dudalen hon wedi ei diweddaru ers tipynFe'i gadawyd yma er gwybodaeth.Rhagor o wybodaeth

SUL
27ain Mai 2012
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Slogan Cofiwch Dryweryn ar y wal yn Llanrhystud Sgrifen ar y Wal
Dr Meic Stephens oedd arlunydd gwreiddiol y slogan enwog ar y mur wrth ochr y ffordd ger Llanrhystud. Mae'n cofio'r noson yn y 1960au yn glir pan baentiodd 'Cofiwch Tryweryn'.

Mae'n rhaid bod cannoedd o filoedd o bobol, a mwy, wedi gweld y geiriau 'Cofiwch Dryweryn' ar y wal wrth ochr y ffordd rhyw filltir i'r gogledd o bentref Llanrhystud.

Erbyn hyn mae'n rhan o bleser y daith o'r Cei Newydd i Aberystwyth i gadw llygad mas am yr adfail a'r llythrennau mawr gwyn, rhywbeth i esbonio i'r plantos neu ffrindiau sydd ddim yn gyfarwydd â'u hystyr.

Ni ddylai fod angen atgoffa'r Cymry am y sen a'r anghyfiawnder, yr ing a thristwch, sydd ynghlwm wrth yr enw Tryweryn, ond mae wastad rhywun, yn enwedig y rhai sy'n rhy ifainc i gofio'r '50au hwyr a'r '60au cynnar, sydd ag angen am y ffeithiau. Mae'r slogan yn sbardun eitha' effeithiol i adrodd yr hanes trist drachefn.

Mae gyrru heibio'r wal, sy'n perthyn i hen fwthyn Troed-y-rhiw, wastad yn rhoi pleser arbennig imi, ac mae'n rhaid arafu er mwyn gwerthfawrogi ceinder y geiriau trawiadol. Wedi'r cyfan, dyma fy natganiad enwocaf, fy ngherdd fwyaf adnabyddus, fy ngweithred boliticaidd mwyaf dylanwadol.

Ie, fi wnaeth y paentio, gyda fy mrwsh bach i, rhyw bryd yn ystod 1963 neu 1964. Ni fedraf bod yn siŵr am y flwyddyn, gan nad oeddwn wedi nodi'r achlysur yn fy nyddiadur, am resymau amlwg. Ond rwy'n cofio'r noson yn glir. Cofiaf hefyd pwy oedd gyda fi ym mherfedd y noson dywyll honno, er nad wyf yn barod i'w enwi.

Nid dyma'r slogan gyntaf imi ei phaentio. Gydag eraill, roeddwn wedi bod yn brysur ledled y wlad ers tro. Dewis paentio waliau oedd ein hoff dacteg oherwydd nid oedd gan Plaid Cymru yr hawl i ddarlledu, felly dyma un o'r ychydig gyfryngau i ledaenu'r neges genedlaethol. Cawsom ein dal ddim ond unwaith: ym Merthyr Tudful, lle roeddem wrthi'n paentio 'Lift the TV ban on Plaid Cymru' ar wal hir castell Cyfarthfa pan ddaeth car yr heddlu heibio. Cawsom ddirwy o £12 yr un - swm sylweddol yn y dyddiau hynny - a dalwyd gan rhywun sydd wedi aros yn ddi-enw hyd heddiw.

Amcan ddeublyg oedd gyda ni yn paentio ger Llanrhystud. Roeddem am atgoffa'r Cymry am y brad a'r dioddefaint, y dig, yr ing a'r chwalfa, oedd wedi cymryd lle pan gafwyd yr hawl gan Gorfforaeth Lerpwl - yn groes i farn gyhoeddus yng Nghymru - i foddi Capel Celyn a gwneud cronfa ddŵr i Lannau'r Mersi, a hynny heb dalu dimai coch amdani.

Ar yr un pryd, roeddem am rybuddio ein cyd-wladwyr i fod yn wyliadwrus rhag i'r un peth ddigwydd eto. Roedd boddi Cwm Tryweryn yn drobwynt yn hanes ein gwlad a charreg filltir yn nhwf cenedlaetholdeb gwleidyddol. Yn wir, dyna paham yr ymunais i â Phlaid Cymru, ynghyd â miloedd o bobol eraill: roedd rhaid i Gymru gael gafael ar ei thynged ei hun.

Rhaid cyfaddef rhywbeth arall: nid yr un yw'r slogan sydd ar y wal y dwthwn hwn â'r hyn a baentiais i yn ôl yn 1963/4. Mae dwylo eraill wedi bod wrthi yn adnewyddu'r geiriau o dro i dro, diolch iddynt. Rhaid nodi hefyd fy mod i wedi paentio'r gair 'Tryweryn', nid y 'Dryweryn' sydd yno bellach. A dyna oedd sillafiad y llu o slogannau tebyg a welwyd ym mhob cwr o Gymru yn ystod y '60au: 'Cofiwch Tryweryn'. Mae rhywun 'smala wedi ychwanegu'r geiriau 'Sori, Miss' i ymddiheuro am y treiglad anghywir. Ond erbyn 1982, pan baentiodd Aneurin Jones ei lun gwych o'r murddun, 'Dryweryn' oedd y sillafiad.

Bid hynny fel y bo, rhyfedd meddwl bod gwaith fy nwylo i wedi mynd, meddir, yn 'eicon genedlaethol' ac hyd yn oed yn 'rhan o'n treftadaeth' y mae'n rhaid ei gadw ar bob cyfrif. Byddai'n hyfryd o beth pe bai rhywun yn mynd ati i gasglu arian i dalu am atgyweirio'r wal - buaswn yn anfon y tâl am y pwt bach hwn i gefnogi'r achos.

Dr Meic Stephens


Cyfrannwch

Aberystwyth
Wrth yrru heibio'r wal enwog yn ddiweddar, synnais wrth weld fod rhywyn wedi ychwanegu geiriau amharchus a digywilydd i'r darlun.Mae'n afiach fod rhywyn yn credu fod hyn yn ddoniol, gobeithio y bydd yn cael ei atgyweirio cyn hir.
Mon May 12 22:18:48 2008

Charles Cochrane o Niwbwrch
Diolch am y sgrifen “Cofiwch Drywerin” ac am eglurhad y sillafiad ar wal y hen fwthyn Troed-y-rhiw. Roeddwn i’n amau bod rhywbeth wedi cael ei newid dros y blynyddoedd.

Mae gen i atgofion melys o’r bryn i lawr i Llanrhystud. Yn ystod yr 80au roeddwn i’n gweithio dros gwmni a oedd yn ailwynebu’r prif ffyrdd. Roedd rhan fwyaf y gang yn deillio o Ynys Môn efo John Cat fel foreman ac roeddwn i’n chwarae’r Stop a Go (Mwy o Stop na Go). Roedden ni’n paentio’r lôn yn ddu efo tar ac wedyn taflu graean mawrion ymhobman.

Fel bron â ym mhob cwr o Gymru gawson ni groeso cynnes gan y trigolion lleol ac roedden nhw yn derbyn yr oediadau hir yn amyneddgar. Pob tro fues i heibio i’r Wal, mi berodd hi i fi wenu a chofio bod cymaint o’r Werin wedi bod yn barod i wrthsefyll yr anghyfiawnder a phrotestio yn ei erbyn.

Mae rhaid sicrhau dyfodol tymor hir y gofeb arwyddocaol hon.


Fri Nov 3 12:06:26 2006


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy