BBC HomeExplore the BBC

LLUN
7fed Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Rhai o actorion Clod y Cledd Dolur a Digrifwch yn Clod y Cledd
Cyflwynwyd gwledd o gerddoriaeth a drama yn Theatr Felin-fach ar ddiwedd Mawrth 2006 gan Theatr Gydweithredol Troed-y-Rhiw a Chôr Cardi-Gân yn eu perfformiad grymus o Clod Y Cledd.
Wedi bod yn rhan o'r perfformiad cyntaf un o Clod Y Cledd a gomisiynwyd gan CIC (Cwmni Ieuenctid Ceredigion) yn ôl yn 1989 roeddwn yn edrych ymlaen at weld yr addasiad o'r ddrama gerdd hon ac ni chefais fy siomi.

Portreadwyd cymeriadau Gwilym a Mari mewn modd sensitif a chredadwy gan Caryl Glyn a Rhydian Rees fel mam a mab yn ceisio dygymod ag emosiynau annifyr a dwfn a ddaw i'r wyneb yn sgîl dyfodiad yr Ail Ryfel Byd tra cafwyd perfformiad gwych oddi wrth Catrin Williams fel Elen - merch ifanc yn ceisio dygymod â'r gwrthdaro o fewn ei chydwybod ei hun rhwng caru milwr a bod yn heddychwraig.

Drama ddolurus yw Clod y Cledd sy'n amlygu'r boen a'r gwrthdaro emosiynol sydd yn codi o fewn cymuned glos yn sgîl rhyfel ac fel y mae rhyfel yn medru chwalu perthynas dyn, nid yn unig efo'i elyn, ond hefyd efo'i gymydog a'i gariad.

Er difrifoldeb prif thema Clod y Cledd, sef rhyfel, roedd cymeriadau Sam a bois yr Home Guard yn sicrhau digon o gyfle i'r gynulleidfa chwerthin yn iach hefyd. Roedd dawn Huw Emlyn fel Sam i ddifyrru'r gynulleidfa yn amlwg tra roedd Côr Cardi-gân yn wefreiddiol wrth helpu i adrodd stori'r ddrama gyda chaneuon ag emynau grymus.

Roedd y ffilm a ddangoswyd ar ddiwedd y ddrama yn ffurf syml ag effeithiol o'n hatgoffa mae poen a dioddefaint yn hytrach na chlod sydd yn eistedd llaw yn llaw a chledd.

Hwn yw'r ail gyflwyniad i mi ei weld gan Theatr Gydweithredol Troed-y-Rhiw yn ddiweddar yn dilyn y ddrama Linda Gwraig Waldo, ac mae'n rhaid i mi ganmol safon y cynhyrchiad a'r rheiny a gymerodd ran ynddo i'r eithaf.

Diolch yn fawr Theatr Gydweithredol Troed-y-Rhiw - daliwch ati gyda'r gwaith da!

Adolygiad gan Linda Jones o Landysul

Cyhoeddwyd yr erthygl hon fel rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng BBC Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Peidiwch â datgelu eich cyfenw os ydych o dan 16 oed.
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy