BBC HomeExplore the BBC

GWENER
8fed Ionawr 2010
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Campyfan

BBC Homepage
Cymru'r Byd
Addysg

campyfan

penigamp

gêm i greu

hwyl a sbri

darn o gymru

rhieni ac athrawon


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
penigampgem i greuhwyl a sbriteledudarn o gymru
rhieni ac athrawon

Gwefan:
Campyfan

Oedran:
Blwyddyn 5 a 6 (plant 9-11 oed)
Gall plant o flynyddoedd eraill fwynhau'r wefan hefyd.

Amcanion y wefan:

  • darparu gweithgareddau hwyliog a gwahaniaethol sy'n helpu plant i ddatblygu eu sgiliau meddwl
  • cynorthwyo plant i feddwl yn greadigol ac i greu gwaith gwreiddiol eu hunain
  • cynnig cyfle i ddysgu sgiliau newydd a chyfle i gymhwyso'r sgiliau hynny drwy weithgareddau rhyngweithiol cyffrous
  • darparu adnodd rhyngweithiol a lliwgar i hwyluso'r dysgu a'r addysgu
  • darparu adnodd dosbarth ar gyfer gwaith unigol, pâr, grwp, neu ddosbarth cyfan (gan ddefnyddio'r bwrdd gwyn rhyngweithiol)
  • darparu adnodd hwyliog i'w ddefnyddio yn y dosbarth ac yn y cartref.

Strwythur y wefan:
Mae'r wefan wedi ei rhannu'n bump prif adran:

1. Penigamp
Gweithgareddau sgiliau meddwl i'w defnyddio ar gyfer gwaith unigol, pâr, grwp, neu ddosbarth cyfan. Mae amrywiaeth o gemau gwahanol wedi eu creu i gynorthwyo plant i feddwl yn eang, dadansoddi, trafod, cymharu a gwahaniaethu, datrys problemau a gweithio gydag eraill. Mae nifer o'r gemau yn addas ar gyfer pob lefel gallu, yn dechrau ar lefel sylfaenol ac yn cynnig gwaith sy'n fwy heriol wrth i'r gêm fynd rhagddi. Gydag ymgynghoriad gan Nia Rhys Vaughan, athrawes ymgynghorol yng Ngheredigion, drwy gymorth yr Asiantaeth Sgiliau Sylfaenol.

2. Gêm i Greu
Gweithgareddau hwyliog i hybu doniau creadigol y plant a rhoi cyfle iddyn nhw greu deunydd gwreiddiol ar y we.

3. Darn o Gymru
Map arbennig o Gymru wedi ei greu o ffotograffau wedi eu tynnu gan blant ar draws Cymru. Y bwriad yw creu darlun o fywydau plant Cymru heddiw drwy eu gwahodd i anfon ffotograff o rywbeth sy'n arwyddocaol iddyn nhw. Mae'n gyfle arbennig i blant ysgolion Cymraeg gyhoeddi eu gwaith ar wefan y BBC.

4. Hwyl a sbri
Ychwanegion hwyliog i'w mwynhau tra'n datblygu sgiliau TG.

5. Teledu
Gwybodaeth am gyfres deledu Campyfan, gyda chlipiau fideo o uchafbwyntiau pob rhaglen.

Meddalwedd
Mae angen Flash 6 i ddefnyddio'r gweithgareddau. Mae'n hawdd i'w lwytho - gallwch lawrlwytho Flash 6 yn rhad ac am ddim.

Adborth
Beth yw'ch barn am y wefan? Rydym yn gwahodd sylwadau o bob math a byddem yn mawr werthfawrogi eich amser - e-bostiwch addysg@bbc.co.uk



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy