|
|
BBC Homepage | ||
Ymateb Cymorth Wedi mwynhau'r ddalen hon? Anfonwch hyn at gyfaill! | ||
Hen Bethe Crwn
Hen Bethe Crwn: Edward H Dafis19 Tachwedd 2008Mae Hen Bethe Crwn yn ôl am ail gyfres! Dyl Mei o'r Genod Droog a'r cyflwynydd Huw Evans fydd unwaith eto yn dewis rhai o'u hoff ganeuon o oes aur roc Cymru: 1967 i 1979. Yn y gyfres newydd, bydd Huw a Dyl yn dewis pump record hir mwyaf dylanwadol y cyfnod, ac edrych ar gefndir yr albyms. Ar y rhestr: Bran - Ail-Ddechrau, Endaf Emlyn - Hiraeth, Heather Jones - Mae'r Olwyn Yn Troi, Meic Stevens - Gwymon, ac yn y gyntaf, o 1974 - Edward H Dafis - Yr Hen Ffordd Gymreig o Fyw. Ddim ar yr awyr ar hyn o bryd. Edward H. Dafis: Hen Ffordd Gymreig O FywC. Sain 1974 (Sain 1016 M) Stereo Gwranda ar Hefin Elis a Dewi Pws yn trafod dylanwadau Edward H Dafis Ffurfiwyd Edward H. Dafis ym 1973 gan Dewi Morris o Abertawe, gynt o'r Tebot Piws, a Hefin Elis o Bort Talbot, cyn-aelod o'r Datguddiad, Y Nhw a'r Chwyldro. Ymunodd John Griffiths o Bont-rhyd-y-fen ar y gitâr fas ac wedyn Charli Britton o Gaerdydd, cyn aelod o'r Cyffro a drymiwr sesiwn gyda Hergest a nifer o grwpiau eraill. Chwalodd y band ym 1976, ail-ffurfiodd ym 1978 a chwalodd unwaith eto ym 1981, gan ryddhau pedair record fer a phum record hir yn ystod eu gyrfa. Rhyddhawyd Hen Ffordd Gymreig O Fyw gan Edward H. Dafis mewn pryd ar gyfer y farchnad Nadolig ym 1974. Roedd ffans Edward H. Dafis yn edrych ymlaen yn eiddgar at weld albwm cyntaf y grŵp yn cyrraedd y siopau. Roeddent eisoes wedi rhyddhau record fer, sef Ffarwel i Langyfelach Lon / Gwrandewch, ac un gân ar y recordiad byw Tafodau Tân sef Cân Y Stiwdents, y ddau ar label Sain. Yn y cyfamser roedd Cleif Harpwood (neu Prendelyn) wedi ymuno o'r grŵp gwerin Ac Eraill. Roedd hyn yn tynnu tipyn o gyfrifoldeb oddi ar ysgwyddau Dewi Morris. Roedd Cleif yn brif ganwr o fri, ond hefyd yn gyfansoddwr gyda track record o sgrifennu caneuon cyfoes o safon uchel. Recordiwyd Hen Ffordd Gymreig O Fyw yn Stiwdio TW, sef stiwdio demo pedwar trac mewn selar o dan siop offerynnau yn Dawes Road, Fulham, Llundain. Roedd Stiwdio TW yn hysbysebu yn Y Melody Maker ac yn codi £3.50 yr awr am y gwasanaeth. Daeth y stiwdio yn enwog yn ystod cyfnod pync rhyw dair blynedd wedyn ym 1977, fel y stiwdio o ddewis i The Stranglers, Elvis Costello, The Specials Joe Jackson, ac yn y blaen. Dewiswyd Mike Parker fel cynhyrchydd. Roedd Mike eisoes wedi cynhyrchu dau albwm cyntaf Endaf Emlyn, sef Hiraeth a Salem. Recordiwyd yr albwm ym mis Tachwedd dros un penwythnos a micsiwyd ar ddydd Llun. Ar y pryd roedd Charli Britton, oedd yn byw yn Llundain, hefyd yn ddrymiwr mewn band o'r enw Buttie. Gitarydd y grŵp yma oedd neb llai na Geraint Griffiths. Roedd Geraint yn gefnder i John Griffiths a chyn-aelod o grŵp ysgol The Dream Time People gyda John a Hefin Elis yng Nghwmafon rhyw naw mlynedd yn gynt. Estynnwyd gwahoddiad i Geraint i chwarae a chanu yn y sesiwn yn Stiwdio TW. Ond beth am gynnwys y record hir yma? Wel, mae 'na dwsin o ganeuon: dwy gân draddodiadol, sef Hedydd a Pontypridd; tair cân gan Dewi Morris, Ti, Rosi a Calan Gaea; dwy gân gan Hefin Elis, Cadw Draw a Cân Ymadael; a dwy gân gan Cleif Harpwood, Mistar Duw a Drudwy. Ysgrifennwyd Pishyn ar y cyd gan Dewi a Cleif ac I'r Dderwen Gam gan Cleif a'r DJ o Lanelli, Richard Rees. Fel grŵp arall o'r cyfnod , Crosby Stills Nash And Young, roedd e'n amlwg bod 'na ddigon o dalent ymysg aelodau'r grŵp i gyfansoddi cynnyrch newydd am flynyddoedd i ddod. A beth am yr uchafbwyntiau sy'n wneud yr albwm yma mor sbesial ? Wel, y clawr i ddechrau. Mae'n dangos y band wedi gwisgo lan mewn dillad fictorianaidd, yn aros tu fas i ddrws bwthyn. Tynnwyd y llun gan Roland Emmanuel o flaen tŷ Mrs Coles yn St. Nicholas, jus tu fas i Gaerdydd, ar y ffordd i'r Hen Bontfaen. Mae sŵn y Moog sy'n britho'r traciau, yn enwedig ar Calan Gaea, yn dal i swnio'n ffres; y gynulleidfa wyllt artiffisial ar Pishyn a Tŷ Hafoedd yn hynod o angyffredin ar y pryd; gitar solo wych Mike Parker ar ddiwedd Pontypridd (pam o pam wnaethon nhw fado fe mas?!) a chaneuon gwych Pws fel Ti gyda geiriau mor 'smala: Ti yw arogl heulwen a dagrau yn y don Mae Hen Ffordd Gymreig O Fyw ar gael fel rhan o'r bocs set Sain Edward H Mewn Bocs. Gari Melville Drycha ar rhain hefydGwefannau eraill |
About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy |