BBC HomeExplore the BBC

GWENER
10fed Gorffennaf 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

BBC VOCAB : OFF / I FFWRDD

Turn on / Troi ymlaen

Language Help / Cymorth Iaith


BBC Homepage

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 

Hen Bethe Crwn

Huw a Dyl

Clasuron coll o fyd feinyl

Mae Hen Bethe Crwn yn ôl am ail gyfres! Dyl Mei o'r Genod Droog a'r cyflwynydd Huw Evans fydd unwaith eto yn dewis rhai o'u hoff ganeuon o oes aur roc Cymru: 1967 i 1979. Yn y gyfres newydd, bydd Huw a Dyl yn dewis pump record hir mwyaf dylanwadol y cyfnod, ac edrych ar gefndir yr albyms. Ar y rhestr: Edward H Dafis - Yr Hen Ffordd Gymreig o Fyw, Bran - Ail-Ddechrau, Endaf Emlyn - Hiraeth, Heather Jones - Mae'r Olwyn Yn Troi, Meic Stevens - Gwymon.

Felly os ydy caséts neu CDs yn dy ddrysu, os ti 'di cael llond bol o'r supernet, neu'n meddwl mai rhywbeth gwleidyddol ydy mp3 - wel ma' Hen Bethe Crwn just y peth i ti!

Awr o gerddoriaeth o'r archif pop Cymraeg - eistedda'n gyfforddus, rho'r tegell ymlaen, a thro'r weiarles i fyny...

Ddim ar yr awyr ar hyn o bryd.

Diweddaraf

Hen Bethe Crwn: Meic Stevens

17 Rhagfyr 2008

Dyl Mei a Huw Evans yn edrych ar gefndir y record hir Gwymon gan Meic Stevens.

Hen Bethe Crwn: Heather Jones

10 Rhagfyr 2008

Dyl Mei a Huw Evans yn edrych ar gefndir y record hir 'Mae'r Olwyn Yn Troi' gan Heather Jones.

Hen Bethe Crwn: Brân

03 Rhagfyr 2008

Dyl Mei a Huw Evans yn edrych ar gefndir y record hir 'Ail Ddechra' gan Brân.

Hen Bethe Crwn: Endaf Emlyn

26 Tachwedd 2008

Dyl Mei a Huw Evans yn edrych ar gefndir y record hir 'Hiraeth' gan Endaf Emlyn.

Hen Bethe Crwn: Edward H Dafis

19 Tachwedd 2008

Cyfres newydd: Yr Hen Ffordd Gymreig o Fyw gan Edward H Dafis sy'n cael sylw Dyl Mei a Huw Evans

Rhaglen 8

27 Chwefror 2008

Cenfyn Evans o'r Dyniadon Ynfyd Hirfelyn Tesog, a fersiwn newydd o gân Ryan a Ronnie - gan Plant Duw!

Rhaglen 7

20 Chwefror 2008

Andy Votel a Dom Thomas - trefnwyr y CDs Welsh Rare Beat - sy'n dewis y gerddoriaeth ar ran Huw a Dyl.

Rhaglen 6

13 Chwefror 2008

Huw Evans a Dyl Mei yn sgwrsio gydag Endaf Emlyn, mewn rhaglen arbennig am operâu roc.

Rhaglen 5

6 Chwefror 2008

Gari Melville yn dewis y traciau, a Cowbois Rhos Botwnnog yn perfformio 'Shwmae Shwmae' Meic Stevens.

Rhaglen 4

30 Ionawr 2008

Huw Evans a Dyl Mei yn sgwrsio efo Tecwyn Ifan a Cate Le Bon yn canu 'Colled' gan Brân.

Rhaglen 3

23 Ionawr 2008

Mwy o glasuron feinyl gan Huw Evans a Dyl Mei, hanes Sidan gyda Sioned Mair, ac Ed Holden yn bît-bocsio 'Colli Iaith'

Rhaglen 2

16 Ionawr 2008

Huw Evans a Dyl Mei yn cyflwyno Huw Jones, Mr Huw, traciau feinyl gan Talcen Crych, Bran a mwy

Rhaglen 1

9 Ionawr 2008

Huw a Dyl yn sgwrsio efo Mici Plwm, cân egsgliwsif gan Eitha Tal Ffranco, a thraciau gan Sidan, Y Blew, Y Diliau...



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy